skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae pobl yn camddefnyddio llawer iawn o sylweddau a hynny am lawer o resymau gwahanol.

Mae camddefnyddio sylwedd am gyfnod hir yn gallu cael effaith aruthrol, nid yn unig ar eich bywyd chi, ond ar fywydau’r sawl rydych chi’n bwydig iddyn nhw hefyd.

Ni fydd pawb sy’n defnyddio sylweddau cyfreithlon neu anghyfreithlon yn dioddef effeithiau negyddol – neu’n mynd yn gaeth – ond os ydych chi’n dueddol i hynny, gall y problemau sy’n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau gynnwys:

  • problemau gyda pherthnasau gan gynnwys camdriniaeth
  • digartrefedd
  • dyled
  • gweithgarwch troseddol
  • problemau iechyd, gan gynnwys cyflyrau hirdymor
  • problemau emosiynol, e.e. teimladau o gywilydd, colli hunan-barch a hyd yn oed meddyliau am hunanladdiad

Rhai o’r mathau cyffredin o gamddefnyddio sylweddau yw:

Alcohol

Nid oes dim yn bod ar fwynhau diod neu ddwy, hyd yn oed sawl gwaith yr wythnos; ond os ydych chi’n yfed mwy na thair–pedair uned y dydd (dynion) neu ddwy–dair uned y dydd (benywod) yn rheolaidd mae’n debyg eich bod chi’n yfed mwy o alcohol nag sy’n dda i chi. Mae arbenigwyr iechyd yn argymell dau ddiwrnod yr wythnos yn rhydd rhag alcohol i roi seibiant i’n cyrff.

Mae GIG 111 Cymru wedi llunio rhestr o gwestiynau ar gyfer unrhyw un sy’n meddwl efallai eu bod yn yfed mwy nag y dylen nhw. 

Mae Niwed alcohol yn y DU yn cynnig llawer o wybodaeth am yfed alcohol i brocio’r meddwl, gan gynnwys sut mae’n effeithio ar y corff, cynnwys diodydd poblogaidd o ran calorïau, mythau am yfed a chyfrifiannell diodydd.

Ysmygu

Mae Helpa fi i stopio yn wasanaeth rhoi'r gorau i ysmygu sy'n cynnig rhaglen chwe wythnos o sesiynau cymorth ymddygiadol sy'n canolbwyntio ar eich teimladau am roi'r gorau i ysmygu, manteision peidio ag ysmygu, sut i aros yn llawn cymhelliant, a sut i ddelio â themtasiwn a chwantau. Mae sesiynau grŵp wythnosol a chymorth 1:1 ar gael ledled Cymru ochr yn ochr â mynediad at 12 wythnos o feddyginiaethau rhoi'r gorau i ysmygu am ddim. I gael rhagor o wybodaeth ewch i www.helpafiistopio.cymru/, ffoniwch 0800 085 2219 neu anfonwch neges destun HMQ i 80818.

Cyffuriau presgripsiwn a rhai dros y cownter

Mae’r rhan fwyaf o gamddefnydd cyffuriau cyfreithlon yn cynnwys poenladdwyr, tawelyddion a symbylyddion. Nid yw’r ffaith bod y cyffur yn gyfreithlon yn golygu nad oes unrhyw risgiau’n gysylltiedig ag ef, yn arbennig wrthi chi ei ddefnyddio’n wahanol i’r bwriad.

Mae DAN 24/7 yn llinell gymorth ddi-dâl a chyfrinachol am alcohol a chyffuriau.

(O’r blaen) anterthau cyfreithlon a sylweddau seicoweithredol eraill

Er gwaetha’r risgiau a’r sgîl-effeithiau annymunol posibl, mae anterthau cyfreithlon sydd ag enwau fel Black Mamba, Exodus a Clockwork Orange wedi bod ar gael yn eang.

Roedd toddyddion fel diaroglydd aerosol neu adlenwad taniwr sigarennau yn rhoi anterth cyflym ei effaith o sylwedd cyfreithlon sydd ar gael yn rhwydd.

Newidiodd y gyfraith yn Ebrill 2016, ac erbyn hyn mae’n drosedd cyflenwi neu gynnig cyflenwi unrhyw sylwedd seicoweithredol – gan gynnwys anterthau cyfreithlon a thoddyddion – os yw’r sawl sy’n ei gyflenwi neu’n cynnig ei gyflenwi yn gwybod ei fod yn mynd i gael ei ddefnyddio am ei effeithiau seicoweithredol.

Cyffuriau anghyfreithlon

Cyffuriau anghyfreithlon yw cyffuriau sy’n cael eu gwahardd o dan Ddeddf Camddefnyddio Cyffuriau 1971.

Mae cyffuriau anghyfreithlon yn ymrannu’n dri dosbarth – A, B neu C – sy’n adlewyrchu’n fras y niwed posibl maen nhw’n gallu ei wneud i chi neu i gymdeithas yn ehangach drwy gael eu camddefnyddio.

Mae cyffuriau Dosbarth A yn cynnwys: cocên (gan gynnwys crac), heroin, LSD, madarch hud, methadon ac ecstasi (MDMA).

Mae cyffuriau Dosbarth B yn cynnwys: amffetaminau, codin, canabis, chathinonau a cetamin.

Mae cyffuriau Dosbarth C yn cynnwys: tawelyddion, GHB/GBL a steroidau anabolig.

Mae’r cosbau (Saesneg yn unig) am gael eich dal gyda chyffuriau anghyfreithlon, neu am eu cyflenwi, yn galed gyda chyffuriau Dosbarth A yn denu’r gosb uchaf.

Diweddariad diwethaf: 29/06/2023