skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae mwy a mwy o bobl erbyn hyn yn byw gyda chyflwr cronig neu hirdymor – clefyd sy’n debygol o fynnu triniaeth a meddygaeth barhaus am flynyddoedd lawer, degawdau hyn yn oed.

Ymhlith y cyflyrau mwyaf cyffredin mae asthma, diabetes (Mathau I a II), clefyd y galon, epilepsi, arthritis, strôc, clefyd rhwystrol cronig yr ysgyfaint (COPD) (Saesneg yn unig) a phwysedd gwaed uchel. Ond gall pobl ddioddef o gyflyrau llawer llai cyffredin a byddwch o bosibl yn dioddef gyda sawl cyflwr.

Mae rhai pobl yn cael eu geni gyda chyflwr hirdymor, tra bod eraill wedi datblygu eu cyflwr yn blentyn neu’n oedolyn. Mae rhai cyflyrau’n debycach o fod yn gysylltiedig â phobl hŷn neu bobl sy’n ordew, sy’n ysmygu neu sy’n yfed gormod.

Mae siawnsiau datblygu cyflwr hirdymor yn cynyddu gydag oedran, er y gallwch chi leihau’ch risg o gael rhai clefydau drwy gadw’n weithgar, gwylio’ch deiet, peidio ag ysmygu a chyfyngu faint o alcohol rydych chi’n ei yfed.

Rheoli’ch cyflwr

Os oes gennych chi gyflwr hirdymor, rydych chi ddwywaith mor debygol o gael eich derbyn i ysbyty â phobl heb. I atal hyn rhag digwydd, mae’n bwysig eich bod chi’n dysgu sut i edrych ar ôl eich hun.

Mae Rhaglenni Addysg i Gleifion (EPP Cymru) yn cynnig ystod o gyrsiau byr i ddysgu pobl sydd â chyflyrau hirdymor sut i ymdopi gartref.

Nid yw'r cyrsiau rhad ac am ddim hyn yn edrych ar anghenion iechyd penodol ond yn hytrach eu nod yw rhoi'r hyder i gyfranogwyr gymryd cyfrifoldeb am eu gofal iechyd eu hunain wrth weithio mewn partneriaeth â'r gweithwyr iechyd proffesiynol sy'n eu cefnogi. 

Mae’r cyrsiau’n cael eu cynnal ledled Cymru gan diwtoriaid sy’n wirfoddolwyr y mae ganddyn nhw brofiad personol o fyw gyda chyflwr iechyd hirdymor. 

Gofalu am rywun sy’n dioddef cyflwr hirdymor?

Cwrs wythnos yw Looking After Me (un sesiwn dwy awr a hanner yr wythnos) i’ch helpu i ddod o hyd i ffyrdd o edrych ar ôl eich iechyd eich hun wrth ofalu am rywun arall. Nid yw’n rhaid bod gennych chi gyflwr hirdymor eich hun i gymryd rhan. 

Addasiadau a chymhorthion byw bob dydd

Dros amser, efallai bydd arnoch chi angen addasiadau i’ch cartref er mwyn i chi gael parhau i fyw yno’n ddiogel ac yn annibynnol. Efallai y bydd angen rhai cymhorthion byw bob dydd arnoch chi hefyd i wneud bywyd yn haws.

Os oes gennych chi gyflwr hirdymor, ni chodir TAW arnoch chi am rai cynhyrchion a gwasanaethau penodol. Am fwy o wybodaeth ewch i www.gov.uk (Saesneg yn unig).

Cefnogaeth oddi wrth bobl eraill

Mae llawer o elusennau erbyn hyn yn cynnal fforymau ar-lein lle gall pobl â’r un cyflyrau hirdymor siarad a chefnogi ei gilydd.

Diweddariad diwethaf: 04/04/2023