skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae’n hawdd gwneud esgusodion dros y diffyg gweithgarwch corfforol yn ein bywydau: swyddi prysur, ymrwymiadau teuluol a phersonol neu heneiddio. Neu efallai eich bod chi’n methu gweld pwynt ymarfer.

Mae bod yn weithgar yn lleihau’n siawns o fynd yn ordew a datblygu salwch difrifol, gan gynnwys clefyd y galon, diabetes a rhai mathau o ganser. Mae hyn yn oed sesiwn fer o weithgarwch yn gallu bod yn fuddiol – a hynny nid i’ch llinell wasg yn unig. Mae’n hysbys bod ymarfer yn cynhyrchu endorffinau sy’n lleihau lefelau straen ac yn gwneud i bobl deimlo’n hapusach.

Yr eironi yw po leiaf y teimlwch chi fel ymarfer, tebycaf i gyd yw hi bod angen i chi ei wneud – nid i wella’ch iechyd corfforol yn unig ond i’ch lles meddyliol hefyd. Does dim byd fel mynd am dro bywiog i glirio’r pen ac mae nofio’n hamddenol yn gallu’ch ymlacio’n braf.

Os ydych chi’n ofalu am rywun, mae’n hanfodol eich bod chi’n edrych ar ôl eich iechyd eich hun. Trefnwch hoi fach rhag eich dyletswyddau gofalu a defnyddiwch eich amser rhydd i wneud rhywbeth egnïol.

Aros yn weithgar wrth i chi heneiddio

Os ydych chi wedi bod yn weithgar erioed, mae’n debyg y byddwch chi’n ymgymryd â gweithgareddau newydd drwy gydol eich bywyd sy’n gweddu i’ch galluoedd corfforol.

Mae gweithgareddau awyr agored fel cerdded, golff, garddio a bowlio yn ffordd wych o gadw’n weithgar wrth i chi heneiddio a byddant yn eich helpu i gynnal cryfder eich cyhyrau a’ch esgyrn.

Mae cerdded yn fath o ymarfer arbennig o dda achos mae’n hawdd ei ymgorffori yn eich ffordd o fyw ac nid oes angen unrhyw offer arbennig. Mae mynd am dro bywiog sawl gwaith yr wythnos yn gallu gwneud byd o wahaniaeth i’ch lefelau ffitrwydd.

Mae llawer o gynghorau yn hyrwyddo teithiau cerdded lleol neu chwiliwch am lwybrau ar wefannau fel All Trails, Walking World a Strava (Saesneg yn unig). Gallwch chi lawrlwytho ffeiliau GPX i'w gwneud hi'n haws llywio.

Os nad ydych chi eisiau cerdded ar eich pen eich hun, beth am ymuno â grŵp cerdded lleol neu grŵp Cerddwyr Cymru? (Saesneg yn unig).

Mae Age Cymru (Saesneg yn unig) yn annog pobl dros 50 oed i aros yn iach ac yn egnïol gydag amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys hyfforddiant swyddogaethol effaith isel, cerdded a cherdded Nordig.

Mae gan Brifysgol y Drydedd Oes (Saesneg yn unig) grwpiau ledled Cymru. Mae’r gweithgareddau’n amrywio ond mae’r mwyafrif yn trefnu teithiau cerdded rheolaidd. Mae gweithgareddau dan do yn cynnwys dawnsio, bowls, garddio, symud rhwydd, Tai Chi a thennis bwrdd (yn dibynnu ar y lleoliad).

Hefyd mae’n syniad da ymgorffori gweithgareddau sy’n annog hyblygrwydd, cydbwysedd a chydsymudiad fel Pilates, ioga, Tai Chi a nofio.

Mae nofio’n dda i ffyrfder eich holl gorff, yn lleihau straen ac yn ffordd gymharol rydd rhag risg o gadw’n heini (nid oes unrhyw straen ar eich cyhyrau neu’ch cymalau yn y dŵr).

Mae pobl dros 60 oed fel arfer yn gallu nofio am ddim ar adegau dethol yng nghanolfannau hamdden lleol (fel arfer tu allan i gyfnodau gwyliau ysgol). Mae rhai canolfannau’n cynnig sesiynau ymarfer yn y dŵr a gwersi nofio am ddim hefyd. Gwiriwch gyda’ch pwll nofio lleol.

Mae dawnsio yn ffordd bleserus arall i gyflwyno gweithgarwch i’ch bywyd. Boed yn ddawnsio neuadd, Lladin a salsa neu ddawnsio llinell, bydd yr amser yn mynd heibio’n gyflym. Ymunwch â dosbarth neu rhowch fiwsig ymlaen gartref a dawnsio o gwmpas.

Cymryd rhan mewn chwaraeon

Os ydych chi’n dipyn o gefnogwr chwaraeon o’ch cadair freichiau, beth am ystyried cymryd rhan yn y chwaraeon rydych chi wrth eich bodd yn eu gwylio? Mae hen ddigon i ddewis ohonyn nhw, gan gynnwys chwaraeon tîm, mabolgampau a chwaraeon dan do. Mae’n bosib i bobl o bob gallu, gan gynnwys pobl anabl, fwynhau llawer o chwaraeon prif-ffrwd. Cymerwch gip ar Chwaraeon Cymru i weld beth sy’n digwydd yn eich ardal chi.

Mae gan Chwaraeon Anabledd Cymru fwy na 750 o glybiau a sesiynau ledled Cymru. Mae’r gweithgareddau’n amrywio o ganŵio a gweithgareddau awyr agored i griced, pêl-droed, pêl-rwyd a chrefft ymladd. Dysgwch beth sydd ymlaen yn eich ardal chi, chwiliwch am glwb lleol, neu cysylltwch â’r Swyddog Datblygu Chwaraeon i’r Anabl yn eich cyngor lleol.

Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff

Os ydych chi mewn perygl o ddatblygu afiechyd hirdymor a ddim yn gyfarwydd â bod yn weithgar yn gorfforol, efallai y bydd eich meddyg teulu neu weithiwr iechyd proffesiynol arall yn trefnu i chi fynychu rhaglen ymarfer dan oruchwyliaeth am £2 y sesiwn o dan y Cynllun Cyfeirio Ymarfer Cenedlaethol.

Diweddariad diwethaf: 24/03/2023