Nid yw bod yn weithgar o reidrwydd yn golygu gwisgo’ch esgidiau heicio a throi am y mynyddoedd.
Er na does unrhyw amheuaeth bod ymarfer yn dda i chi, mae llawer o weithgareddau dan a fydd yn estyn (ac yn tynhau) y cyhyrau yna, yn cael eich calon yn curo’n gyflymach ac yn eich bywiogi.
Boed nofio, Pilates, aerobeg, dawnsio neu fowlio dan do, y peth allweddol yw dod o hyd i weithgaredd dan da rydych chi’n mwynhau ei wneud.
Nofio
Mae nofio yn ffordd wych o ymarfer beth bynnag eich oedran neu’ch gallu. Mae nofio yn meithrin cryfder cyhyrau a stamina ac yn dda i’ch calon. A chan fod ei effaith yn isel o ran straen ar eich esgyrn neu’ch cymalau, mae’n annhebygol y cewch eich anafu.
Os ydych chi’n 60 oed neu’n hŷn, gallwch chi nofio ym mhwll nofio’ch cyngor lleol yn rhad ac am ddim ar adegau penodol. Mae gan bersonél y Lluoedd Arfog a chyn-filwyr hawl i nofio am ddim hefyd mewn canolfannau hamdden y cyngor lleol drwy ddefnyddio eu Cerdyn Braint Lluoedd Amddiffyn (Saesneg yn unig), sydd ar gael drwy’r Weinyddiaeth Amddiffyn.
Os ydych chi’n methu nofio, beth am fynychu sesiynau aerobeg dŵr neu ddosbarthiadau campfa dŵr, neu jest mwynhau cerdded a sblasio o gwmpas.
Neu gallech chi ddysgu nofio. Mae’r mwyafrif o ganolfannau hamdden lleol yn cynnal dosbarthiadau nofio ar gyfer oedolion.
Canolfannau hamdden
Mae gan y rhan fwyaf o drefi ganolfannau hamdden sy’n cynnig amrediad o weithgareddau dan do, gan gynnwys dosbarthiadau aerobeg a chwaraeon raced fel badminton, sboncen a thenis bwrdd.
Campfeydd preifat
Erbyn hyn mae mathau o aelodaeth campfeydd sy’n addas i bob poced, gyda ffioedd aelodaeth yn llai yn aml os ewch tu allan i oriau brig yn unig, yn ystod y dydd. Mae’r mwyafrif yn cynnig amrediad o ddosbarthiadau yn ogystal ag offer campfa safonol ac mae gan y rhai drutach byllau nofio dan do. Dewiswch yr un sydd agosaf at eich cartref neu’ch man gweithio, byddwch chi’n debycach o fynd.
Chwaraeon a gweithgareddau anabl
Mae Chwaraeon Anabledd yn gweithio gyda mwy na 750 o glybiau a grwpiau chwaraeon ledled Cymru i ddarparu cyfleoedd chwaraeon awyr agored (a dan do) ar gyfer plant ac oedolion anabl. Chwiliwch am weithgareddau yn eich ardal neu cysylltwch â’ch swyddog datblygu chwaraeon anabledd lleol. Ffoniwch: 0845 8460021.
Mae gan y Mudiad Paralympaidd (Saesneg yn unig) grynodebau o’r holl chwaraeon cystadleuol sy’n cael eu cynnwys yn y cystadlaethau Paralympaidd, gyda manylion sut i gymryd rhan.
Dawnsio
P’un ai dawnsio neuadd, tap neu Ladin sy’n mynd â’ch pryd, mae dawnsio yn un o’r mathau mwyaf cymdeithasol i ymarfer. Mae ysgolion dawnsio ar hyd a lled Cymru ac mae’r mwyafrif yn croesawu dechreuwyr, naill ai mewn dosbarthiadau arbennig neu fel rhan o ddosbarth sefydledig (gwiriwch a oes angen partner arnoch chi).
Mae dawnsiau te yn dod yn fwyfwy poblogaidd hefyd ac maent yn lleoedd gwych i gymdeithasu â ffrindiau.
Cynllun Cenedlaethol Atgyfeirio at Ymarfer
Os ydych chi wedi bod yn anweithgar am gyfnod hir ac mae hynny’n cael effaith ddirywiol ar eich iechyd, e.e. magu pwysau, pwysedd gwaed uchel, iselder, mae’n bosib y bydd eich meddyg neu weithiwr iechyd proffesiynol arall yn eich cyfeirio at y Cynllun Cenedlaethol Atgyfeirio at Ymarfer. Y syniad yw bod gennych chi raglen fyrdymor o weithgareddau corfforol dan oruchwyliaeth i’ch cael chi’n symud eto. Gofynnwch i’ch meddyg teulu am fwy o wybodaeth.
Ioga a Pilates
Mae ioga yn golygu symud y corff a hyfforddi’r meddwl er budd ein llesiant corfforol a meddyliol. Mae’r troi, ymddaliad a’r ffocws ar anadlu yn gwella cylchrediad y gwaed. Gall ymddaliadau gael eu haddasu i weddu i anghenion unigol, enghraifft defnyddwyr cadair olwyn neu’r sawl sydd ag anhwylderau hirdymor fel arthritis neu glefyd Parkinson.
Cysylltwch â’r British Wheel of Yoga am ddosbarthiadau yn eich ardal chi.
Mae Pilates yn ffurf fwyn o ymarfer a fydd yn estyn ac yn cryfhau’ch cyhyrau craidd heb roi unrhyw straen ar y cymalau. Os ydych chi’n dioddef poen yn eich cefn isaf, cydbwysedd gwael a chyd-drefniant neu (i fenywod) cyhyrau gwan llawr y pelfis, efallai y bydd Pilates yn eich helpu.
Dewch o hyd i hyfforddwr a/neu ddosbarthiadau yn eich ardal chi yn Pilates.co.uk (Saesneg yn unig).
Crefftau ymladd
Mae crefftau ymladd yn ffurf wych o ymarfer, beth bynnag eich oedran neu’ch gallu gan gyfuno llesiant corfforol a meddyliol â hunan-amddiffyn. Mae mwy na 30 o fathau o grefft ymladd, gyda chlybiau (Saesneg yn unig) ledled Cymru.
Jiwdo yw’r unig grefft ymladd sy’n cael ei gynnwys yn y gemau Paralympaidd ac yn denu llawer o athletau dall a rhai â nam ar eu golwg. Cysylltwch â’r Gymdeithas British Blind Sport (Saesneg yn unig) neu Welsh Judo (Saesneg yn unig) am fwy o wybodaeth.
Mae Tai Chi wedi cael ei ddisgrifio fel yr ymarfer perffaith i bobl hŷn gan ei fod yn annog cryfder cyhyrau sydd yn ei dro yn gallu atal baglu a chwympo. Mae symudiadau araf, ailadroddus Tai Chi hefyd yn annog cyd-symudiad ac ymlacio yn ogystal â thawelwch a llesiant meddyliol. Dewch o hyd i ddosbarth (Saesneg yn unig) yn eich ardal chi.