Bwyta’n iach yw un o’r pethau pwysicaf gallwch chi ei wneud i aros mewn iechyd da a chadw pwysau corff iach.
Mae deiet iach yn rhoi i’ch corff yr holl faetholion mae arno eu hangen ar yr un pryd â chydbwyso’r calorïau rydych chi’n eu cymryd i mewn â’r nifer rydych chi’n eu defnyddio.
Mae Canllaw Eatwell yn dangos, er mwyn cael deiet iach a chytbwys, y dylai pobl geisio (Saseneg yn unig):
- bwyta o leiaf 5 dogn o amrywiaeth o ffrwythau a llysiau bob dydd (gweler 5 Y Dydd)
- seilio prydau bwyd ar fwydydd startshlyd ffibr uwch fel tatws, bara, reis neu basta
- ncael rhai dewisiadau llaeth neu laeth amgen (fel diodydd soia)
- bwyta rhai ffa, pwls, pysgod, wyau, cig a phrotein arall
- dewis olewau a thaeniadau anniogel, a'u bwyta mewn symiau bach
- yfed digon o hylifau (o leiaf 6 i 8 gwydraid y dydd)
Yn anffodus, mae'r argyfwng costau byw yn golygu ei bod yn mynd yn anoddach i lawer o bobl ddewis opsiynau iach - neu hyd yn oed fwyta tri phryd y dydd. Mae yna rai adnoddau gwych ar-lein i’ch helpu chi i fwyta’n iach heb wario ffortiwn – gan gynnwys Cooking on a Bootstrap (Saseneg yn unig) ardderchog Jack Monroe neu Thrifty Lesley (Saseneg yn unig). Mae gan y BBC (Saseneg yn unig) hefyd rai syniadau ryseitiau da sy'n iach ac yn rhad.
Banciau bwyd
Mae banciau bwyd yn bodoli i helpu pobl sy'n cael trafferth fforddio prynu digon o fwyd i'w fwyta. Ni ddylai neb deimlo cywilydd neu embaras am fod angen cymorth gan fanc bwyd. Os bydd gweithiwr iechyd neu ofal cymdeithasol proffesiynol yn sylweddoli eich bod chi neu'ch teulu yn hepgor prydau bwyd neu'n mynd yn newynog, bydd yn gwneud atgyfeiriad ar eich rhan. Fel arall, ffoniwch Cyngor ar Bopeth a fydd yn eich helpu i gael help.
Cynnal pwysau iach
Mae gordewdra yn cynyddu’n gyflym, nid yng Nghymru yn unig ond o gwmpas y byd. Yn syml, mae llawer o bobl yn bwyta mwy o galorïau nag mae arnyn nhw eu hangen weithiau oherwydd na allant fforddio dewis opsiynau bwyd iachach.
Os ydych chi’n ordew rydych chi’n fwy tebygol o ddatblygu rhai cyflyrau hirdymor fel diabetes Math II, pwysedd gwaed uchel a chlefyd cardiofasgwlaidd. Mae rhai mathau o ganser yn gysylltiedig â gordewdra hefyd.
Ewch i GIG 111 Cymru i wirio’ch BMI (mynegai mas y corff) a darganfod a ydy’ch pwysau chi’n iach.
Colli pwysau
Mae’n llawer haws osgoi mynd yn ordew yn y lle cyntaf; ond nid yw byth yn rhyw hwyr i ddechrau bwyta’n iachach a gwylio’r pwysau yna’n diflannu.
Mae rhai pobl yn gallu ei wneud ar eu pen eu hun ond mae angen tipyn o gefnogaeth ar y mwyafrif ohonon ni i golli pwysau.
Beth am ofyn i’ch teulu, neu ffrind neu gydweithiwr, ymuno â chi ar eich cynllun bwyta iach newydd. Os oes angen mwy o gefnogaeth strwythuredig arnoch chi, efallai y byddai’n well gennych chi ymuno â chlwb colli pwysau. Mae hen ddigon ohonyn nhw ar gael ac mae gan y mwyafrif gylchgronau, llyfrau a gwefannau llawn straen ‘cyn ac ar ôl’ a ryseitiau i’ch ysbrydoli.
Os cyfunwch fwyta’n iach â mwy o weithgarwch corfforol – byddwch chi’n llosgi mwy o galorïau hefyd!
Cofiwch ddweud wrth eich meddyg teulu os ydych chi’n bwriadu mynd ar ddeiet - bydd ef neu hi’n dweud wrthych chi a yw’ch pwysau presennol yn iach neu beidio drwy gyfrifo’ch BMI (mynegai mas y corff) ac yn gwirio am unrhyw gyflyrau iechyd sydd efallai’n peri i chi fagu pwysau.