Y dyddiau hyn, arwain ffordd o fyw iach ac aros yn iach yw’r pwyslais, yn hytrach nag aros nes bod problemau iechyd yn codi.
Yn debyg i’r mwyafrif o bobl, mae’n debyg bod gennych chi syniad rhesymol o beth sy’n dda i chi – a beth sydd ddim. Gwyddoch chi y dylech chi fwyta mwy o ffrwythau a llysiau a lleihau’r brasterau dirlawn; gwyddoch chi y dylech chi fod yn cerdded i’r siop bapurau yn hytrach na neidio i mewn i’r car.
Felly pa gamau syml allwch chi eu cymryd i wella’ch iechyd chi?
Yn aml, mae’n fater syml o gwtogi’r bwyd sothach ac ymgymryd â gweithgaredd rydych chi’n ei fwynhau, dosbarth aerobeg efallai, rownd o golff neu fynd am dro.
Os ydych chi’n rhywun hŷn neu os oes gennych chi anabledd, efallai ei bod hi’n anoddach cyflwyno ymarfer i mewn i’ch bywyd bob dydd ond mae’n werth gwneud yr ymdrech o hyd. Mae rhai dosbarthiadau ymarfer a grwpiau cerdded sy’n benodol ar gyfer pobl hŷn ac mae llawer o glybiau chwaraeon yn croesawu pobl anabl.
Mae Age Cymru yn cynnig cyngor am gadw’ch corff yn iach, gan gynnwys edrych ar ôl:
- eich esgyrn
- eich traed
- eich golwg
- clyw
Bwyta, yfed ac ysmygu
Mae’r hyn rydych yn ei roi i mewn i’ch corff yn bwysig iawn ac mae rhai newidiadau syml i’ch deiet yn gallu gwneud gwahaniaeth aruthrol. Ceisiwch gynyddu faint o ffrwythau a llysiau rydych chi’n eu bwyta, lleihau maint eich prydau a chwtogi siwgr a halen. Mae’n bwysig yfed digon o hylifau, ond mae’n well osgoi diodydd llawn siwgr.
Os ydych chi’n ei chael hi’n anodd ar gyllideb dynn – fel y mae llawer o bobl ar hyn o bryd – edrychwch ar wefan ardderchog Jack Monroe Cooking on a Bootstrap (Saesneg yn unig) neu Thrifty Lesley (Saesneg yn unig) i gael syniadau gwych am brydau iach rhad ac am ddim.
Mae effeithiau negyddol yfed gormod o alcohol yn hysbys iawn ac mae digonedd o gefnogaeth ar gael os oes angen help arnoch i gwtogi’ch yfed neu fynd i’r afael â dibyniaeth ar sylweddau.
Yn ogystal â’r risgiau iechyd, mae meddwi yn golygu eich bod yn debycach o gwympo neu gael damwain.
Bellach mae ysmygu’n gysylltiedig â llawer o risgiau iechyd. Os ydych chi’n ysmygu, ceisiwch roi’r gorau iddo neu o leiaf ysmygu cyn lleied â phosibl.
Gofalu am eich iechyd
Mae edrych ar ôl eich hun yn cynnwys mynychu gwiriadau iechyd rheolaidd gan gynnwys gwiriadau deintyddol a phrofion llygaid. Mae profion ceg y groth a mamogramau’n bwysig i fenywod a dylai dynion beidio ag esgeuluso eu hiechyd hwythau.
Os oes gennych chi anhwylder hir-dymor fel clefyd y galon, asthma neu’r clefyd siwgr, mae’n bwysicach byth eich bod chi’n gofalu amdanoch eich hun, yn cymryd unrhyw feddyginiaeth reolaidd ac yn rhoi sylw i gyngor gweithwyr iechyd proffesiynol, e.e. colli pwysau neu gerdded yn rheolaidd.
Os hoffech gael cymorth i wneud dewisiadau ffordd o fyw iachach, gofynnwch i’ch meddyg teulu am y Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff.
Un o sgîl-effeithiau edrych ar ôl eich iechyd corfforol yw ei bod yn debyg o gael effaith bositif ar eich llesiant emosiynol hefyd.
Mae’n hawdd iawn esgeuluso’ch anghenion iechyd chi pan fyddwch chi’n edrych ar ôl rhywun arall, ond os ydych chi am barhau yn eich rôl ofalu mae’n bwysig eich hci chi’n aros yn ffit ac yn iach.
Os oes eisiau mwy o syniadau arnoch chi am fyw yn iach a bwyta’n dda, beth am alw heibio i’ch llyfrgell leol a benthyg ychydig o lyfrau ar y pwnc, neu edrychwch ar yr adran Byw a Theimlo’n Dda ar GIG 111 Cymru.