Gall fod yn adeg ofidus mynd i mewn i’r ysbyty, hyd yn oed os yw’ch triniaeth chi wedi cael ei chynllunio ac rydych chi’n barod amdani’n feddyliol. Pan fydd yn digwydd yn annisgwyl, efallai o ganlyniad i ddamwain neu gwymp neu salwch sydyn, gall fod yn fwy trawmatig byth.
Ewch â’ch meddygaeth gyda chi i’r ysbyty bob tro er mwyn i feddygon yr ysbyty wybod beth rydych chi’n ei chymryd.
Mae Age UK wedi cyhoeddi arweiniad defnyddiol, Going into hospital (Saesneg yn unig).
Arhosiad cynlluniedig mewn ysbyty
Os ydych chi’n mynd i mewn am ychydig o ddyddiau yn unig, mae’n debyg na fydd rhaid i chi ond canslo’r papurau newydd a gofyn i rywun gadw llygad ar eich cartref.
Peidiwch â chymryd gormod gyda chi: dillad nos, taclau ymolchi, sliperi, sbectol, unrhyw offer arbennig a rhywbeth i lenwi’ch amser, e.e. fel arfer mae nofel, ffôn neu ddyfais symudol yn ddigon. Fel arfer bydd gwirfoddolwyr yn dod i wardiau yn gwerthu papurau newydd, byrbrydau a diodydd. Gadewch bethau gwerthfawr gartref.
Llawfeddygaeth ddydd
Erbyn hyn mae mwy a mwy o lawfeddygaeth yn digwydd heb yr angen am arhosiad dros nos mewn ysbyty. Os cewch chi gynnig llawfeddygaeth ddydd, efallai y byddwch chi am drefnu ymlaen llaw i berthynas ddod i’ch casglu chi (neu ddod â bag wedi ei bacio rhag ofn bod angen i chi aros i mewn dros nos).
Rhoi caniatâd am driniaeth neu lawfeddygaeth
Rhaid i gleifion roi caniatâd am unrhyw driniaeth neu lawfeddygaeth. Os ydych chi’n methu dros dro â rhoi caniatâd oherwydd sioc, poen, anaestheteg, anymwybyddiaeth, ac ati, mae’n bosib y bydd angen i feddygon a nyrsys benderfynu a yw ymyrraeth feddygol er eich lles gorau chi. Pan fydd rhywun yn methu’r galluedd yn barhaol i roi caniatâd ac nid yw eu triniaeth yn frys, byddan nhw’n cael eu trin o dan Ddeddf Galluedd Meddyliol 2005 a chaiff Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol ei gyfarwyddo.
Oriau ymweld ysbytai
Mae oriau ymweld yn amrywio gan ddibynnu ar yr ysbyty a wardiau unigol. Os ydych chi’n ansicr, holwch aelod o staff neu gwiriwch yma. Mae’n bwysig parchu oriau ymweld er mwyn galluogi staff i gael gwneud eu swyddi a galluogi amser tawel i gleifion eraill. O dan rai amgylchiadau, mae oriau ymweld yn hyblyg neu’n agored, e.e. os plentyn yw’r claf neu’n rhywun â cyflwr angheuol.
Parcio mewn ysbytai
Erbyn hyn mae’r mwyafrif o ysbytai yng Nghymru yn darparu parcio am ddim ond yn aml mae’n anodd dod o hyd i le. Gadewch ddigon o amser a byddwch yn fodlon parcio gerllaw (ac o bosib gorfod talu).
Cael eich rhyddhau o’r ysbyty
O dan rai amgylchiadau, efallai eich bod yn ddigon da i adael yr ysbyty ond bydd arnoch chi angen tipyn o gefnogaeth o hyd i fyw yn annibynnol gartref eto. Os felly, fel arfer bydd y nyrs neu weithiwr yn trefnu i chi dderbyn cymorth byr-dymor.
Os ydych chi’n poeni nad oes unrhyw gymorth yn ei le ar eich cyfer chi pan ddychwelwch chi adref, gofynnwch am gael siarad â rhywun yn nhîm rhyddhau’r ysbyty.
Arhosiad gwael (a da) yn yr ysbyty
Os ydych chi wedi cael profiad gwael ac yn dymuno cwyno, cysylltwch â’r Cyngor Iechyd Cymunedol perthnasol. Ar y llaw arall, os credwch eich bod wedi derbyn gofal rhagorol, beth am ysgrifennu at yr ysbyty neu anfon cerdyn o ddiolch at y ward?
Mae gwefan o’r enw Barn Claf sy’n cyfuno profiadau pobl o ysbytai’r Deyrnas Unedig, gydag ymatebion oddi wrth yr ysbytai eu hunain.
Budd-daliadau
Efallai y bydd mynd i mewn i’r ysbyty yn effeithio ar eich budd-daliadau, ond efallai na fydd, felly y peth gorau yw gwirio.
Mae Disability Rights UK (Saesneg yn unig) wedi llunio rhestr ddefnyddiol (Saesneg yn unig) sy’n nodi sut yr effeithir ar fudd-daliadau unigol; ond os ydych chi’n debygol o fod yn yr ysbyty am gyfnod hir, mae’n werth gadael i rywun wybod. Fe allai effeithio ar unrhyw fudd-daliadau mae rhywun yn eich aelwyd yn eu hawlio hefyd.