Pan fyddwch chi’n ymadfer yn dilyn salwch, anaf neu lawdriniaeth ddifrifol, mae’n naturiol bod angen amser a chefnogaeth arnoch chi i ailafael yn eich bywyd arferol.
Efallai eich bod wedi colli hyder i gael cawod neu faddon heb help. Efallai na allwch chi sefyll yn ddigon hir i baratoi pryd bwyd syml neu efallai eich bod yn ofni cwympo wrth ddefnyddio’r ystafell ymolchi. Mae’n bosibl y byddwch yn nerfus am fynd allan eto, gan ei gwneud hi’n anodd mynd i siopa neu gwrdd â ffrindiau.
Yn aml y cyfan mae ei angen i fynd yn ôl i normal yw ychydig o wythnosau o gefnogaeth ddwys gartref. Mae gweithwyr cymdeithasol a nyrsys yn cyfeirio at hyn yn aml fel ‘ail-alluogi’.
Beth yw ail-alluogi?
Mae gwasanaethau ail-alluogi yn eich helpu i ddysgu neu ailddysgu’r sgiliau mae eu hangen i chi fyw yn ddiogel ac yn annibynnol gartref.
Mae ail-alluogi yn canolbwyntio ar yr hyn gallwch chi ei wneud, yn hytrach na beth rydych chi’n methu â’i wneud.
Nid yw ail-alluogi llwyddiannus bob amser yn golygu mynd yn ôl i wneud y pethau yn yr un ffordd yn union ag o’r blaen, ond dod o hyd i ffyrdd newydd i chi wneud pethau. Y nod yw eich helpu i fod mor annibynnol â phosibl, gwella ansawdd eich bywyd a lleihau’ch siawns o fynd yn ôl i mewn i’r ysbyty.
Os oes angen gwasanaethau ail-alluogi arnoch chi, dylech chi dderbyn cymorth yn gyflym. Er enghraifft, os ydych yn cael eich rhyddhau o’r ysbyty, bydd eich gwasanaethau ail-alluogi yn cychwyn fel arfer pan ewch chi adref.
Hefyd gall gwasanaethau ail-alluogi adfywio bywyd rhywun sydd wedi gwaethygu’n raddol dros gyfnod, efallai o ganlyniad i arwahanrwydd cymdeithasol.
Sut mae ailailluogi’n wahanol i wasanaethau gofal cymunedol?
Mae gwasanaethau ail-alluogi yn cael eu darparu am gyfnod penodedig – hyd at chwe wythnos fel arfer – a’r nod yw i chi adennill eich annibyniaeth gartref.
Yn gyferbyniol, darperir gwasanaethau personol (cartref) heb unrhyw ddisgwyliad y byddwch chi’n cyrraedd pwynt yn gyflym pan nad oes angen cefnogaeth arnoch chi bellach.
Mae gweithwyr ail-alluogi yn canolbwyntio ar feithrin hyder a byddant yn eich ysgogi a’ch annog i wneud pethau dros eich hunan yn hytrach na dibynnu ar rywun i’w gwneud drosoch chi.
Gwasanaeth dwys a byrdymor yw ail-alluogi felly mae’n debygol y bydd y gweithwyr cymorth yn ymweld yn amlach ac yn aros gyda chi yn hirach nag y mae gofalwr cartref yn gallu gwneud. Efallai y bydd therapydd galwedigaethol, ffisiotherapydd neu weithiwr proffesiynol gofal cymdeithasol/iechyd arall yn galw heibio o bryd i’w gilydd i wirio sut rydych yn dod yn eich blaen.