Gyda phob gwasanaeth ailalluogi, y nod yw eich helpu i adennill y symudedd, y sgiliau ymarferol a’r hyder rydych chi wedi eu colli. Bydd cymorth yn amrywio rhwng unigolion a gallai olygu dysgu sgiliau newydd a/neu ddileu rhwystrau amgylcheddol sy’n rhwystr i chi fyw yn annibynnol.
Mae pawb yn wahanol a bydd yr union gymorth a gewch chi yn dibynnu ar eich anghenion personol a’r nodau rydych chi’n eu gosod i’ch hunan. Mae’n bwysig bod y nodau hyn yn gyraeddadwy yn yr amserlen.
Gallai’ch cymorth chi gynnwys help gyda:
- ymolchi a gwisgo
- mynd i fyny ac i lawr y grisiau’n ddiogel
- paratoi a choginio prydau bwyd
- ymarferion syml i adennill symudedd, cryfder a hyder
- dysgu sut i ddefnyddio offer newydd a thechnoleg i’ch helpu
- dod o hyd i atebion ymarferol i broblemau
- annog cysylltiad cymdeithasol, e.e. cael gwybodaeth am glybiau cinio a gweithgareddau eraill
- cynnig cyngor ar sut i leihau risgiau cwympo
- hyrwyddo meddyginiaeth
- eich cyfeirio chi at wasanaethau eraill os oes angen cymorth hirdymor
Nid yw ailalluogi yn ymdrin â’ch anghenion iechyd, ond bydd yn eich helpu i ddod o hyd i ffyrdd o fyw mor annibynnol â phosibl ar yr un pryd â chymryd eich anghenion iechyd i ystyriaeth.
Pwy fydd yn darparu fy ngwasanaethau ail-alluogi?
Mae gwasanaethau ailalluogi yn cael eu darparu gan wasanaethau iechyd, tai a chymdeithasol, fel arfer mewn partneriaeth â’i gilydd ac yn aml gyda chyrff trydydd sector fel Y Groes Goch (Saesneg yn unig) a Gofal a Thrwsio Cymru (Saesneg yn unig) (ar gyfer mân addasiadau).
Bydd tîm ailalluogi nodweddiadol yn cynnwys amrediad o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol, gan gynnwys therapyddion galwedigaethol, gweithwyr cymdeithasol, ffisiotherapyddion, nyrsys seiciatrig, seicotherapyddion, gweithwyr ail-alluogi, gweithwyr gofal cartref, staff elusennau a gweithwyr arbenigol eraill.
Mae’r ddarpariaeth yn amrywio ledled Cymru, yn dibynnu ym mha ardal rydych chi’n byw ac mae rhai ardaloedd yn cynnig amrediad ehangach o wasanaethau nag eraill.