Mae gwasanaethau ailalluogi yn cael eu darparu i helpu pobl i adennill eu hannibyniaeth ar ôl salwch neu anabledd.
Fel arfer mae gwasanaethau ailalluogi yn cael eu darparu am gyfnod cymharol fyr, h.y. wythnosau yn hytrach na misoedd.
Efallai y dwedir wrthych chi fod angen rhyw fath o ailalluogi arnoch chi os ydych:
- wedi dioddef salwch difrifol, strôc neu drawiad ar y galon
- wedi cael llawfeddygaeth ddifrifol
- wedi cwympo gartref neu tu allan i’ch cartref
- wedi dod yn ynysig yn gymdeithasol
- wedi colli’r hyder i wneud pethau drosoch eich hunan
Rhaid eich bod chi’n byw yn eich cartref eich hun (yn eich perchnogaeth chi neu’n cael ei rentu) a gallu byw yn y gymuned gyda rhywfaint o gymorth.
Mae gwasanaethau ailalluogi yn cael eu darparu i bobl hŷn, oedolion gydag anableddau corfforol, synhwyraidd neu ddysgu a phobl sydd â phroblemau iechyd meddwl.
Bwriedir iddyn nhw fod yn fyrdymor a phara am wythnosau, yn hytrach na blynyddoedd.
Os ydych chi yn yr ysbyty, bydd y nyrs neu’r gweithiwr cymdeithasol fel arfer yn gwneud ‘atgyfeiriad’ ar eich rhan – mae hyn yn golygu y byddant yn rhoi gwybod i’r gwasanaethau cymdeithasol eich bod chi’n mynd adref a bod angen gwasanaethau ailalluogi byrdymor arnoch chi.
Os nad ydych chi yn yr ysbyty, cysylltwch â’ch cyngor lleol a dwedwch wrthyn nhw beth rydych chi’n cael anawsterau yn ei wneud. Bydd y gwasanaethau cymdeithasol yn cynnal asesiad o’ch anghenion er mwyn penderfynu a allai gwasanaethau ailalluogi eich helpu neu a oes angen gwasanaethau gofal cymunedol parhaus arnoch chi mewn gwirionedd.
Faint mae’n costio?
Darperir gwasanaethau ailalluogi byrdymor yn rhad ac am ddim.
Yn dilyn cyfnod o ailalluogi, os bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn penderfynu bod angen gwasanaethau gofal cymdeithasol hirdymor arnoch chi, gofynnir i chi fynd drwy asesiad ariannol i benderfynu faint dylech chi ei dalu.