Yng Nghymru, yr egwyddor drosfwaol yw y dylid gofyn i bobl sydd wedi eu hasesu fel angen gwasanaethau gofal a chymorth dalu dim ond beth allan nhw fforddio ei dalu am y gwasanaethau hynny.
Ar ôl i’ch cyngor lleol benderfynu bod angen gofal a chymorth arnoch chi, bydd yn cynnal asesiad ariannol i sefydlu:
- a oes gennych chi ddigon o arian i dalu’r gost lawn eich hunan
- a fydd gofyn i chi gyfrannu rhywbeth tuag at gostau’ch gofal
- a fydd angen i’r cyngor dalu costau llawn eich gwasanaethau
Beth mae angen i’r cyngor ei wybod?
Mae canllawiau llym i wneud yn siŵr bod cynghorau yn cynnal asesiadau ariannol yn deg.
Byddan nhw eisiau gwybod:
- eich incwm: pensiynau, budd-daliadau’r wladwriaeth, taliadau eraill ond nid incwm sy’n cael ei ennill fel cyflogai neu drwy hunan-gyflogaeth
- eich cyfalaf: cynilion, buddsoddiadau, eiddo (ac eithrio’r un rydych chi’n byw ynddo)
- eich alldaliadau: gan gynnwys treth a chyfraniadau Yswiriant Gwladol sydd heb eu talu (eto)
Caiff unrhyw gyfalaf islaw £24,000 ei anwybyddu. Os oes gennych chi incwm dros £24,000, bydd cost lawn eich gwasanaethau yn cael ei godi arnoch chi, hyd at uchafswm o £100 yr wythnos (Medi 2022).
Byddwch chi’n derbyn esboniad ysgrifenedig o sut cafodd eich cyfraniad ei gyfrifo a faint fydd disgwyl i chi ei dalu.
Parau
Dim ond incwm y sawl sy’n cael ei asesu all gael ei gymryd i ystyriaeth yn yr asesiad ariannol. Os ydych chi’n byw mewn pâr, y rhagdybiaeth yw bod gan y ddau ohonoch chi gyfran gyfartal o’ch incwm cyfunol.
Mae’r cyngor yn gallu’ch asesu chi fel pâr, ond dim ond os byddai hyn yn fuddiol yn ariannol i’r sawl sy’n cael ei asesu.
Gaf i wrthod cael asesiad ariannol?
Wrth gwrs. Fodd bynnag, os byddwch chi’n gwrthod asesiad ariannol, ni fydd y cyngor yn talu – neu’n helpu i dalu – am eich gwasanaethau gofal.
Gallwch chi dderbyn gwasanaethau gofal personol oddi wrth eich cyngor o hyd ond codir cost lawn eich pecyn gofal arnoch chi hyd at £100 yr wythnos (Medi 2022).
Talu cost lawn eich gwasanaethau gofal personol
Mae cynghorau'n gosod meini prawf cymhwysedd penodol i benderfynu pwy sydd angen eu cymorth gyda gwasanaethau gofal personol. Hyd yn oed os ydych chi'n ansicr os yw eich anghenion yn bodloni'r meini prawf hyn, mae'n dal yn werth cael eich anghenion wedi'u hasesu gan y gwasanaethau cymdeithasol, oherwydd:
- bydd y gweithiwr cymdeithasol neu’r gweithiwr gofal yn gallu rhoi cyngor a gwybodaeth i chi
- mae’n ofynnol i’r cyngor eich helpu i drefnu gwasanaethau gofal os na allwch chi wneud hyn eich hunan
- bydd eich cynllun gofal ysgrifenedig yn ddefnyddiol iawn wrth siarad ag asiantaethau gofal preifat am sut gallan nhw fodloni’ch anghenion gofal.
Os ydych chi am drefnu’ch gwasanaethau gofal cymunedol eich hun, mae gan Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru gyfeiriadur ar-lein ddarparwyr gofal cartref (rhowch eich tref/ardal yn y blwch Geiriau Allweddol a chwiliwch am ‘Domiciliary Care’).