Yng Nghymru, mae rhai oedolion hawdd eu niweidio yn gymwys i dderbyn cefnogaeth Eiriolwr Galluedd Meddyliol Annibynnol, fel y’u diffinnir yn Neddf Galluedd Meddyliol 2005.
Bydd IMCA yn cael ei benodi mewn sefyllfaoedd lle nad oes gan y person allu i wneud penderfyniadau drostynt eu hunain ond nid oes ganddo unrhyw un heblaw staff cyflogedig i gefnogi, eu cynrychioli na chael eu hymgynghori.
Beth yw rôl IMHA?
Amddiffyniad annibynnol yw’r Eiriolwr os nad oes gan rywun y galluedd i wneud rhai penderfyniadau pwysig am ei ganlyiadau llesiant ei hun ar yr adeg mae angen eu gwneud.
Un enghraifft fyddai pan fydd angen gwneud penderfyniad ynghylch llety hir-dymor yr unigolyn ac a gâi eu hanghenion eu diwallu’n well mewn lleoliad gofal preswyl.
Bydd yr Eiriolwr yn annog yr unigolyn sydd heb y galluedd meddyliol i gymryd rhan – gymaint ag sy’n bosibl – mewn penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau a bydd yn ceisio darganfod eu barn mewn cyfarfod preifat.
Ni fydd yr Eiriolwr yn gwneud penderfyniadau ar ran rhywun ond bydd yn darparu gwybodaeth y mae’n rhaid i’r sawl sy’n gwneud y penderfyniad ei gymryd i ystyriaeth.
Gall yr Eiriolwr herio penderfyniad os yw’n teimlo bod y sawl sy’n gwneud y penderfyniad wedi anwybyddu’r wybodaeth mae wedi ei rhoi ac nad yw’n gweithredu er lles gorau’r unigolyn.
Gall Eiriolwr gael ei gyfarwyddo ar gyfer adolygiadau o ofal mwn sefyllfaoedd lle nad oes gan rywun neb arall i ymgynghori â nhw a/neu mewn achos diogelu, p’un a yw’r teulu a ffrindiau’n ymwneud â’r achos neu beidio.
Mwy wybodaeth
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllaw i wasanaethau eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol (Saesneg yn unig).
Mae gan MIND (Saesneg yn unig) wybodaeth ddefnyddiol am rôl IMCA a sut y gallant eich helpu.