Peth ofnadwy yw peidio â theimlo’n rhy dda, yn arbennig os buoch chi felly am ddyddiau, wythnosau neu hyd yn oed fisoedd cyfan.
Y peth pwysicaf yw ceisio cyngor meddygol. Os nad yw’n argyfwng, cysylltwch â’ch meddyg teulu neu glinig iechyd a threfnwch apwyntiad.
Efallai y byddwch chi am ymweld â Galw Iechyd Cymru y GIG hefyd, sy’n gallu cael ei defnyddio i helpu i gyfarwyddo pobl i’r ffynhonnell fwyaf priodol o gymorth a gofal iechyd.
Cyngor tu allan i oriau
Os credwch fod angen meddyg arnoch chi, ffoniwch feddygfa’ch meddyg teulu hyd yn oed os yw ar gau. Dylai neges wedi ei recordio eich cyfeirio chi at y gwasanaeth tu allan i oriau sy’n ymdrin â’ch meddygfa chi.
Os oes gennych chi symptomau penodol, ond heb fod yn siŵr ai sefyllfa argyfwng yw hi neu beidio, cysylltwch â Galw Iechyd Cymru am gyngor, 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
111 am bob opsiwn, gan gynnwys Llinell Iaith, Relay a Sign Video (sydd ar gael 24 awr y dydd).
Efallai y byddai’n well gennych wneud hunan-asesiad ar sail eich symptomau.
Os ydych chi mewn poen difrifol neu os oes gennych anafiadau sydd angen sylw meddygol brys, ewch yn syth i’ch adran damweiniau a brys lleol.
Poen deintyddol
Dylai unrhyw un â phoen deintyddol gysylltu â’i ddeintydd ei hun (yn ystod oriau gwaith). Os nad oes gennych chi ddeintydd rheolaidd, cysylltwch â Galw Iechyd Cymru am asesiad, cyngor ac arwyddbostio at y ffynhonnell ofal fwyaf priodol.
Os oes gennych chi boen deintyddol, gallwch chi wirio’ch symptomau eich hun ar Galw Iechyd Cymru.
Argyfyngau
Mewn sefyllfa argyfwng lle bydd rhywun:
- yn anymwybodol
- yn colli llawer o waed
- yn cael anawsterau anadlu
- wedi cael trawiad ar eu calon o bosib
- wedi eu hanafu’n ddifrifol
- wedi eu llosgi’n wael.
Mewn argyfwng, ffoniwch 999 a gofynnwch am ambiwlans. Os nad ydych chi’n siŵr ai argyfwng ydy hi neu beidio, cysylltwch â Galw Iechyd Cymru.
Dychwelyd o dramor
Gan fod teithio tramor yn beth mor gyffredin, mae’n hawdd anwybyddu risg dal clefyd heintus tra byddwch chi i ffwrdd. Mae clefydau fel malaria, twymyn denge, teiffoid a’r dwymyn felen yn dal yn gyffredin mewn llawer o rannau o’r byd ac nid yw brechiadau yn eich amddiffyn rhag pob dim.
Nid yw symptomau rhai clefydau heintus yn ymddangos am wythnosau neu hyd yn oed fisoedd ar ôl i chi ddod adref felly os ydych chi’n dioddef symptomau fel cur pen, cyfog, twymyn, crynu, pennau yn y cyhyrau, chwydu neu’r dolur rhydd ac wedi teithio tramor yn ddiweddar, cofiwch ddweud wrth eich meddyg.
Am fwy o wybodaeth am frechiadau i deithio ewch i Galw Iechyd Cymru.
Mae’r Swyddfa Dramor (Saesneg yn unig) yn cynnig gwybodaeth fanwl am risgiau iechyd gwledydd unigol.
Mynd i mewn i’r ysbyty
Os oes angen i chi fynd i mewn i’r ysbyty yn sydyn, ewch â’ch meddyginiaeth, tipyn o arian a’ch sach ymolchi gyda chi. Peidiwch ag anghofio allweddi’r drws.
Os ydych chi’n edrych ar ôl rhywun
Mae cynllun argyfwng yn nodi’r hyn a fyddai’n digwydd petai argyfwng ac roeddech chi’n methu â chario ymlaen yn eich rôl ofalu yn y tymor byr neu am fwy o amser.
Mae Gofalwyr Cymru yn gallu darparu cardiau neu gylchoedd allweddi argyfwng i ofalwyr sy’n gadael i weithwyr gwasanaethau brys ac eraill wybod bod rhywun arall yn dibynnu arnyn nhw fel gofalwr. Mae gan y card le am gysylltiadau brys, e.e. teulu a ffrindiau sy’n gallu helpu.
Mae’n syniad da hefyd gofyn i’ch meddyg teulu ysgrifennu yn eich nodiadau eich bod chi’n gofalu am rywun.
Cymorth cyntaf
Mae’r Groes Goch (Saesneg yn unig) wedi cynhyrchu dau ap rhad ac am ddim (Saesneg yn unig):
- ap cymorth cyntaf sy’n ymdrin â 19 o sgiliau cymorth cyntaf a allai helpu pobl eraill mewn argyfwng
- ap cymorth cyntaf babanod a phlant i’ch helpu i gadw’ch rhai bychain yn ddiogel
Mae Ambiwlans Sant Ioan (Saesneg yn unig) wedi cynhyrchu llawer o ffilmiau byr Dysgu Cymorth Cyntaf hefyd, sydd ar gael ar YouTube.