Mae glasoed yn cyfeirio at y cyfnod ym mywyd plant pan fydd yn dechrau datblygu’n gorfforol ac yn emosiynol yn ddynion a menywod ifanc.
Mae’n gallu bod yn adeg anodd i blant, wrth iddynt ymdopi â newidiadau cyflym i’w cyrff a delio â theimladau ac emosiynau anghyfarwydd.
Er y bydd gan blant gariad o bosib cyn glasoed, yn aml dyma’r amser pan fyddant yn dechrau dangos mwy o ddiddordeb mewn cydberthnasau rhamantus a rhywiol.
Mae glasoed yn gallu bod yn amser heriol i rieni a gofalwyr hefyd, sy’n gallu teimlo weithiau bod eu plentyn serchus a siaradus wedi cael ei herwgipio ac mae dieithryn swrth, mud yn ei le. Ceisiwch beidio â phoeni – mae hwyliau ansad anesboniadwy yn berffaith normal ymhlith plant yn eu harddegau ac ni fydd y cyfnod hwn yn para am byth.
Dechrau glasoed
Yn ffodus, nid yw glasoed yn digwydd i gyd ar yr un pryd. Mae’n cymryd tua phedair blynedd i’r holl newidiadau corfforol ddigwydd yng nghorff person ifanc.
Mae’r mwyafrif o ferched yn cychwyn glasoed rhwng 8 a 14 oed, gydag 11 fel yr oedran cyfartalog.
Mae’r mwyafrif o fechgyn yn cychwyn glasoed rhwng 9 a 14, gyda 12 fel yr oedran cyfartalog.
Yn ystod y cyfnod hwn, mae eu cyrff yn aeddfedu’n raddol a bydd eu horganau atgenhedlu yn dod yn weithredol. Bydd bechgyn yn mynd yn dalach ac yn fwy cyhyrog a bydd eu lleisiau’n mynd yn ddyfnach, tra bydd mislif merched yn dechrau a byddant fel arfer yn magu rhywfaint o bwysau. Mae’r ddau ryw yn gallu datblygu acne neu arogl chwys (mae’r ddau beth yn fwy cyffredin ymhlith bechgyn).
Mae bechgyn a merched yn datblygu ar gyflymderau gwahanol, gyda bechgyn yn aml yn datblygu’n hwyrach na merched.
Am fwy o wybodaeth am wahanol gyfnodau glasoed ewch i Galw Iechyd 111 Cymru.
Glasoed cynnar
Mae’r glasoed yn digwydd yn gynharach yn y mwyafrif o blant nag yr oedd rhai degawdau yn ôl; ond pan fydd plentyn yn dangos arwyddion glasoed yn rhy gynnar - cyn 7 neu 8 oed mewn merched a chyn 9 oed mewn bechgyn - gallai fod yn arwydd o broblem iechyd.
Mae glasoed cynnar neu ragaeddfed yn effeithio ar fwy o ferched na bechgyn.
Os yw’ch plentyn yn dangos arwyddion glasoed rhagaeddfed, mae bob amser yn beth doeth gofyn am gyngor eich meddyg teulu sy’n gallu trefnu profion i sicrhau nad oes unrhyw broblem feddygol.
Glasoed gohiriedig
Mae plant yn mynd drwy lasoed ar oedrannau gwahanol; ond os na fydd bachgen wedi dangos unrhyw arwydd o gyrraedd glasoed yn 14 oed ac os na fydd merch wedi dechrau ei mislif erbyn 15 oed, yna maent yn dioddef glasoed gohiriedig.
Gall glasoed gohiriedig ddigwydd am lawer o resymau, gan gynnwys problemau meddygol heb eu canfod, cyflyrau hirdymor ac anhwylderau bwyta sy’n gysylltiedig â phwysau corff isel ymhlith merched.
Mae glasoed gohiriedig yn fwy cyffredin ymhlith bechgyn ac mae’n gallu rhedeg mewn teuluoedd.
Gofynnwch am gyngor eich meddyg teulu gan ei bod yn bwysig sicrhau nad oes unrhyw achos sylfaenol tu ôl iddo.
Ymddygiad cymryd risgiau
Glasoed yw’r oedran pan fydd plant yn cyrraedd aeddfedrwydd biolegol; fodd bynnag, nid yw cyrraedd glasoed yn golygu eu bod bellach yn oedolion, yn emosiynol nac yn gyfreithiol.
Mae’r gwahaniaeth rhwng eu haeddfedrwydd corfforol ac emosiynol – a’r hormonau sy’n llifo drwy eu cyrff – yn gallu arwain rhai pobl ifanc i arbrofi gyda gweithgareddau newydd ac o bosibl beryglus, fel secstio, ysmygu, yfed, cyffuriau neu ryw heb ddiogelwch yn rhy ifanc.
Siarad â’ch plentyn
Yn aml bydd rhieni yn gohirio siarad â’u plant am y glasoed am ei fod o bosib yn peri embaras. Er bod hyn yn ddealladwy, bydd y newidiadau i gyrff ac emosiynau pobl ifanc yn llai brawychus iddynt os byddant yn gwybod beth i’w ddisgwyl ymlaen llaw.
Mae gan Childline (Saesneg yn unig) lawer o wybodaeth wych am y glasoed ar ei wefan.
Mae The Mix (Saesneg yn unig) yn adnodd da arall i rai dan 25 oed ac mae’n cynnwys adrannau ar Ryw a Pherthnasoedd (Saesneg yn unig) ac Eich Corff (Saesneg yn unig).