Mae tystiolaeth feddygol aruthrol bod ysmygu yn lladd. Ysmygu yw prif achos marwolaethau cynamserol yng Nghymru ac mae ysmygwyr yn llawer mwy tebygol o gael canser na phobl nad ydynt yn ysmygu.
If you’re a parent trying to quit smoking – or you are trying to put off your children from starting smoking – think about some of these things:
- Mae’n effeithio ar eich iechyd cyffredinol, e.e. byddwch efallai’n teimlo’n fyrrach eich anadl wrth wneud ymarfer corff na phobl nad ydynt yn ysmygu.
- Mae’n gwneud i’ch dillad a’ch gwallt arogleuo – mae’n gwneud i chi arogleuo.
- Mae’ch mwg ail law yn effeithio ar iechyd pobl rydych chi’n eu caru.
- Mae sigarennau’n ddrud – yr holl arian hwnnw’n mynd i fyny mewn mwg.
- Byddwch yn mynd yn gaeth ymhen amser.
- Nid ydych am i’ch plant chi - neu’ch brodyr neu chwiorydd iau - ddechrau ysmygu.
Nid oes unrhyw lefel ddiogel o ddefnyddio tybaco. Mae pobl ifanc sy’n ysmygu yn cael eu hannog yn gryf gan feddygon i roi’r gorau.
Y gyfraith ar ysmygu
Mae’n anghyfreithlon gwerthu tybaco i unrhyw un dan 18 oed. Yr oedran isaf i ysmygu’n gyhoeddus yw 16 oed ac mae dyletswydd ar awdurdodau i atafaelu unrhyw dybaco neu bapurau sigarét oddi wrth berson ifanc maent yn credu ei fod dan 16 oed.
Cafodd ysmygu ei wahardd ym mhob adeilad, gweithle a cherbyd gwaith cyhoeddus yng Nghymru yn Ebrill 2007.
Ym mis Mawrth 2021, daeth yn anghyfreithlon i ysmygu mewn mannau ‘caeedig’ neu ‘sylweddol gaeedig’, gan gynnwys:
- tir ysbytai ac ysgolio
- meysydd chwarae cyhoeddus
- lleoliadau gofal dydd a gwarchod plant awyr agored Estynnwyd y deddfau ysmygu yng Nghymru eto ym mis Mawrth 2022, i wahardd ystafelloedd gwely ysmygu mewn gwestai, tai llety, cabanau gwyliau, ac ati ac ym mhob llety gwyliau hunangynhaliol, e.e. bythynnod, carafanau, ac ati.
Y rheswm am y deddfau hyn yw arbed bywydau ac atal heintiau sy’n cael eu hachosi gan fwg ail law.
Mae ychydig iawn o eithriadau i’r gwaharddiad ar ysmygu. Os cewch eich dal yn ysmygu mewn adeilad di-fwg gallech chi wynebu cosb benodedig o £50. Os cewch eich erlyn a’ch cael yn euog, gallech gael eich dirwyo hyd at £200.
Sigarennau electronig (Fepio)
Dyfeisiau electronig a ddelir â llaw yw sigarennau electronig neu e-sigarennau, sy’n rhoi i ddefnyddwyr yr ymdeimlad eu bod yn ysmygu – maent yn cynnwys nicotin – ond heb gynhyrchion niweidiol llosgi tybaco. Gall e-sigarennau helpu ysmygwyr i roi’r gorau, ond nid ydynt yn rhydd rhag risg. Mae nicotin yn gaethiwus (ac yn wenwynig mewn dognau mawr) felly dylai plant a phobl ifanc eu hosgoi.
Hefyd mae’n anghyfreithlon eu gwerthu i neb o dan 18 oed ac yn drosedd eu prynu ar ran rhywun dan 18, oni bai bod yr e-sigaret penodol wedi’i drwyddedu fel meddyginiaeth (nid yw’r mwyafrif).
Nid oes unrhyw gyfraith yn erbyn fepio mewn mannau cyhoeddus; fodd bynnag, mae llawer o gyflogwyr, busnesau a mathau o drafnidiaeth gyhoeddus wedi ei wahardd.
Sigarennau anghyfreithlon
Mae sigarennau anghyfreithlon yn sylweddol ratach na’u gwrthrannau cyfreithlon ac yn ei gwneud yn haws i blant a phobl ifanc ddechrau ysmygu. Mae rhai yn gynhyrchion dilys sydd wedi eu smyglo i mewn i’r Deyrnas Unedig, tra bod eraill yn cael eu gweithgynhyrchu’n benodol at ddiben cael eu smyglo i mewn i wlad arall. Os ydych yn amau bod plentyn neu berson ifanc yn prynu sigarennau anghyfreithlon, adroddwch (Saesneg yn unig) y ffaith bob tro.
Help i roi’r gorau i ysmygu
Mae llawer o bobl ifanc yn ceisio rhoi’r gorau i ysmygu ar eu pen eu hun, ond dyna’r ffordd anoddaf (a lleiaf effeithiol). Mae gan y mwyafrif o ysmygwyr siawns well o roi’r gorau yn barhaol pan fyddant yn cael eu cefnogi.
Yn ffodus mae digonedd o gefnogaeth ar gael.
Mae Helpa Fi i Stopio yn ei gwneud yn haws i ysmygwyr ifanc ddod o hyd i’r gefnogaeth orau sydd gan y GIG i’w helpu i stopio.