skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae’r term ‘ymddygiad heriol’ yn disgrifio amrediad o ymddygiadau sy’n ymyrryd â datblygiad, dysgu a chyfleoedd bywyd plentyn neu berson ifanc.

Mae gan lawer o blant a phobl ifanc sydd ag ymddygiad heriol anableddau dysgu difrifol, ond nid pob un. Mae pobl ifanc sy’n awtistig, sydd â nam ar y synhwyrau, problem iechyd meddwl, neu anaf i’r ymennydd yn gallu ymddwyn mewn ffordd sy’n amharu ar y bobl o’u cwmpas ac yn gallu gosod eu hunain ac eraill mewn perygl.

Mae’r ymddygiad heriol hwn yn gallu cynnwys pethau fel:

  • brifo pobl eraill yn gorfforol e.e. taro, tynnu gwallt neu frathu
  • brifo eu hunain, e.e. pigo eu croen neu guro eu pen
  • bod yn ddinistriol, e.e. taflu pethau, malurio ystafelloedd a thorri ffenestri
  • siglo neu gael stranciau
  • poeri a dwbio
  • tynnu eu dillad a/neu redeg i ffwrdd

Mae gweld eich plentyn yn ymddwyn yn y modd hwn yn gallu peri trallod mawr i rieni a gofalwyr; ond mae rhai pobl ifanc anabl sydd heb unrhyw ffordd arall o gyfathrebu eu hanghenion neu gymryd rheolaeth dros eu bywydau.

Efallai na fydd eraill yn gallu bodloni’r galwadau sy’n cael eu gosod arnynt gartref neu yn yr ysgol a byddant felly’n defnyddio ymddygiad ymosodol i wyro sylw a dianc o’r sefyllfa.

Gall ymddygiad heriol ddechrau ar oedran ifanc a gall barhau i mewn i’w bywyd fel oedolyn (er bod llawer o bobl ifanc yn tyfu allan ohono). Gall ei gwneud yn anodd i blentyn wneud ffrindiau neu wneud yn dda yn yr ysgol.

Nid yw ymddygiad heriol yr un peth â’r ymddygiad dieisiau neu broblemus sy’n berffaith normal i blentyn neu berson ifanc o oedran penodol, e.e. dwy flwydd ddychrynllyd neu hwyliau ansad plant yn eu harddegau.

Helpu’ch plentyn

Nid oes unrhyw iachâd hud am ymddygiad heriol ond mae yna gamau ymarferol gallwch chi eu cymryd i leihau rhwystredigaeth a thrallod eich plentyn, gan gynnwys:

  • ei helpu i fynegi a gwneud pethau drosto ei hun
  • canolbwyntio ar ei hapusrwydd a gwneud pethau mae’n eu mwynhau
  • rhagweld a chynllunio ymlaen llaw ar gyfer problemau
  • darganfod a oes rhywbeth gallwch ei newid a fydd efallai’n atal yr ymddygiad

Mae’n werth cadw dyddiadur i’ch helpu i sylwi ar unrhyw sbardunau cyffredin, e.e. person, lle neu bryd bwyd. Yn ystod pyliau, ceisiwch aros yn dawel a gwyro sylw os oes modd.

Cael cymorth proffesiynol

Pan fydd plentyn neu berson ifanc yn dechrau ymddwyn mewn ffordd heriol – neu mae ymddygiad sydd eisoes yn heriol yn gwaethygu – dylech chi ei gymryd o ddifrif.

Efallai bod plant sydd ag anableddau dysgu difrifol neu sgiliau cyfathrebu gwael yn sâl neu mewn poen, tra gallai’r sawl sydd heb ymddwyn fel hyn o’r blaen fod yn dangos arwyddion cynnar problemau iechyd meddwl.

Bydd eich meddyg teulu yn gallu eich atgyfeirio at wasanaethau arbenigol, gan gynnwys gweithwyr proffesiynol iechyd meddwl.

Addysg a gwahardd

Mae’n ofynnol i ysgolion wneud addasiadau rhesymol am anghenion dysgu ychwanegol plant anabl; fodd bynnag, mae adegau pan fydd ymddygiad aflonyddgar person ifanc efallai’n arwain ato’n cael ei wahardd o ysgol brif ffrwd neu uned cyfeirio disgyblion, naill ai dros dro neu’n barhaol.

Mae rheolau cadarn sy’n pennu sut mae’n rhaid i ysgolion ddelio â gwaharddiadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r Challenging Behaviour Foundation (Saesneg yn unig) yn cefnogi plant ac oedolion sydd ag ymddygiad heriol.

Mae Llinell Gymorth Anableddau Dysgu Mencap (Saesneg yn unig) yn cynnig cyngor a chymorth i’r sawl sydd ag anabledd dysgu a’u teuluoedd a gofalwyr.

Mae gan Young Minds (Saesneg yn unig) arweiniad i oroesi ar gyfer rhieni sy’n poeni am eu plentyn.

Mae Headway (Saesneg yn unig) yn rhoi cymorth i bobl sydd wedi dioddef anaf i’r ymennydd ers eu geni.

Mae Awtistiaeth Cymru yn darparu cyngor a chymorth arbenigol cyfrinachol am awtistiaeth ar gyfer pobl awtistig, eu teuluoedd a’u ffrindiau.

Mae Cyswllt Teulu (Saesneg yn unig) yn cefnogi teuluoedd â phlant anabl ac mae wedi cynhyrchu cyhoeddiad di-dâl o’r enw Understanding your child’s behaviour.

Diweddariad diwethaf: 21/02/2023