skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Nid yw bod yn eich arddegau erioed wedi bod yn hawdd; ond bydd pobl ifanc sy’n tyfu i fyny heddiw yn wynebu llawer o heriau sy’n wahanol i’r rhai roedd eu rhieni a’u rhieni hwythau yn eu hwynebu.

Mae pobl ifanc yn ceisio darganfod eu hynt mewn byd ansicr. Pan fydd pobl yn eu harddegau, mae bywyd yn gyffrous ac yn frawychus ill dau, gyda chyfleoedd di-rif ond llawer o rwystrau hefyd. Nid ydynt yn blant rhagor ond heb fod yn oedolion eto sy’n gallu cymryd cyfrifoldeb llawn dros eu bywydau.

Gyda chymaint yn mynd yn ei flaen yn eu bywydau, mae bod yn rhiant i blentyn yn ei arddegau yn gallu bod yn lluddedus. Wrth iddynt wrthod gwrando, dadlau’n gyson a’u hwyliau’n ansad, byddwch efallai’n teimlo mai chi yw’r gelyn ond mewn gwirionedd y cyfan rydych ei eisiau yw’r gorau ar gyfer eich plentyn.

Y tro nesaf y byddwch yn wynebu arddegwr mulaidd, ceisiwch gymryd eiliad i ystyried pethau o’u safbwynt nhw.

Bod yn oriog

Mae arddegwyr yn enwog am fod yn oriog; ond mae’n rhan naturiol o aeddfedu. Byddwch yno os byddant am siarad, ond os na, gadewch dipyn o dawelwch a rhyddid iddynt.

Glasoed

Yn ogystal newid corff person ifanc, mae’r amrywiadau yn lefelau eu hormonau yn ystod glasoed yn arwain yn aml at hwyliau ansad.

Diffyg cwsg

Nid yw’r mwyafrif o bobl ifanc yn cysgu am yr 8-10 awr mae arnynt eu hangen bob nos, a hynny am fod newidiadau yn rhythmau naturiol eu cyrff yn gwneud iddynt deimlo’n fwy effro gyda’r nos er bod rhaid iddynt godi’n gynnar i fynd i’r ysgol o hyd. Mae pwysau’r oes fodern o fod yn fythol bresennol ar gyfryngau cymdeithasol ond yn gwaethygu’r broblem.

Anaeddfedrwydd yr ymennydd

Nid yw’r ymennydd dynol yn datblygu’n llawn nes i rywun gyrraedd ei 20iau cynnar. Mae hyn yn golygu y gall pobl ifanc edrych yn aeddfed yn gorfforol ond ymddwyn mewn dull sy’n anaeddfed yn emosiynol, e.e. bod yn fympwyol a pheidio ag ystyried goblygiadau’r hyn maent yn ei wneud.

Ffiniau

Er gwaethaf beth fyddant hwy’n ei ddweud, mae angen ffiniau ar bobl ifanc. Nid yw hyn yn golygu y dylech fynnu ufudd-dod llwyr gan eich plentyn, ond mae’n bwysig pennu pa ymddygiad sy’n dderbyniol ganddo a beth sy’n annerbyniol. Osgowch ddadlau’n gyson drwy ddewis eich brwydrau, e.e. peidiwch â’i feirniadu’n hallt am aros allan yn hwyr o bryd i’w gilydd, ond gwnewch yn glir bod cymryd cyffuriau yn beryglus ac yn annerbyniol.

Pwysau cyfoedion

Peidiwch byth â diystyru lefel y pwysau mae pobl ifanc yn gorfod delio â hi gan eu cyfoedion. Gall pwysau cyfoedion fod yn bositif, e.e. gall annog person ifanc i astudio’n galed yn yr ysgol; ond mae yna ochr negyddol. Gall hyd yn oed y bobl ifanc fwyaf hyderus ildio i bwysau i wneud rhywbeth maent yn gwybod ei fod yn anghywir, e.e. siopladrad neu secstio, os ydynt yn ofni peidio â gwneud fel pawb arall.

Mae cyfryngau cymdeithasol yn gosod llawer o bwysau ar bobl ifanc i ymddangos ac ymddwyn mewn ffordd benodol ac mae gwawdio ar-lein yn gyffredin.

Dylai pobl ifanc fod yn effro i beryglon secstio, hyd yn oed pan fyddant mewn perthynas gydsyniol.

Y dyfodol

Dewis rhwng cael swydd neu fynd i ddyled drwy fynd i’r brifysgol, sut i fforddio rhywle i fyw a beth i’w wneud am ffotograff meddw (neu waeth) a gafodd ei bostio ar-lein? Dyma ychydig yn unig o’r llawer o bwysau sy’n wynebu pobl ifanc gan arwain o bosibl at straen a thrallod meddyliol.

Cymorth i arddegwyr

Mae Gyrfa Cymru yn helpu pobl ifanc i gynllunio eu camau nesaf yn dilyn addysg orfodol.

Mae Cymru Ifanc yn rhoi llais i bobl ifanc.

Mae Relate yn cynnig cwnsela i bobl ifanc (Saesneg yn unig). 

Mae gan Young Minds (Saesneg yn unig) gyngor i rieni a gofalwyr sy’n poeni am ymddygiad neu gyflwr meddwl person ifanc.

Mae gan Teen Issues (Saesneg yn unig) lawer o wybodaeth i arddegwyr am y materion sy’n effeithio ar eu bywydau bob dydd, gan gynnwys adran Holi’n Harbenigwyr.

Diweddariad diwethaf: 20/02/2023