Mae sefydlu cartref yn garreg filltir naturiol i bobl ifanc; fodd bynnag, i lawer mae’n gallu bod yn gam brawychus – a chostus – i mewn i’r anhysbys.
Fel arfer, bydd cynnal eu cartref eu hun – boed yn dŷ, fflat neu ystafell mewn tŷ sy’n cael ei rannu – yn golygu cymryd cyfrifoldeb dros eu trefniadau byw eu hun a biliau’r cartref. Er y bydd angen cymorth ar rai pobl ifanc efallai o bryd i’w gilydd, mae byw yn annibynnol fel arfer yn arwydd dda eu bod yn barod am heriau bod yn oedolyn.
Ni waeth faint o baratoi maent yn ei wneud, mae symud oddi cartref am y tro cyntaf yn gallu teimlo’n llethol i berson ifanc. Mae yna ystyriaethau ymarferol: cael y blaendal ynghyd, dodrefnu’r eiddo, trefnu’r cyfleustodau a rheoli cyllideb aelwyd am y tro cyntaf.
Os ydynt yn bwriadu rhentu, dylai pobl ifanc fod yn ymwybodol nad oes unrhyw hawl awtomatig, ers Ebrill 2017, i elfen costau tai’r Credyd Cynhwysol (Saesneg yn unig) ar gyfer pobl 18 i 21 oed - ac nid yw’r mwyafrif o bobl dan 18 yn gymwys i hawlio budd-daliadau o gwbl. Mae rhai eithriadau, gan gynnwys y sawl sy’n gadael gofal (sydd â hawl i gymorth ariannol oddi wrth eu cyngor lleol) ond y peth gorau yw gwirio’n gyntaf bob tro.
Un o’r heriau pennaf i bobl ifanc sy’n dymuno byw yn annibynnol yw dod o hyd i rywle addas, h.y. yn y lle cywir ac o fewn eu cyllideb. Bydd llawer yn dewis rhannu ag eraill gan fod hynny’n rhatach; ond, yn dibynnu ar eu hoedran a’r rheswm maent yn gadael eu cartref, bydd rhai efallai’n cael eu hystyried fel bod mewn ‘angen blaenoriaethol’ am dai cymdeithasol.
Yn 18 oed, gall rhywun brynu tŷ yn gyfreithlon a gwneud cais am forgais; fodd bynnag, bydd angen iddynt fod wedi cynilo blaendal a bodloni meini prawf benthyca llym.
Yn anffodus, mae prisiau tai mewn llawer o ardaloedd wedi codi y tu hwnt i gyrraedd y rhan fwyaf o bobl ifanc.
Wrth chwilio am eu cartref cyntaf, mae’n bwysig i berson ifanc fod yn realistig am beth gall ei fforddio. Mae gor-estyn gyda rhent anfforddiadwy neu, yn waeth byth, taliadau morgais anferthol yn debyg o arwain at drychineb ariannol.
Mae prisiau tai anfforddiadwy a rhenti cynyddol yn golygu bod mwy o bobl ifanc yn byw gyda’u rhieni ymhell i’w hugeiniau a thu hwnt – mae rhai hyd yn oed yn symud yn ôl i mewn ar ôl blynyddoedd o fyw’n annibynnol. Er efallai na fydd y sefyllfa'n ddelfrydol ar gyfer y naill genhedlaeth na'r llall, mae'n annhebygol o bara am byth. Mae gan The Mix rai syniadau (Saesneg yn unig) ar gyfer goroesi yn y cyfamser.
Yn anffodus, bydd llawer o bobl ifanc yn y diwedd heb gartref parhaol o gwbl. Er na fyddant bob amser yn cysgu ar y stryd (ac mae digon yn gwneud), yn aml caiff pobl ifanc ddigartref eu gorfodi i symud rhwng cartrefi ffrindiau, hosteli ac opsiynau tai anniogel. Efallai bod ganddynt do dros eu pennau’n dechnegol, ond nid oes ganddyn nhw gartref.