Mae gadael cartref yn garreg filltir naturiol ym mywyd person ifanc, ond mae’n gallu teimlo fel cam enfawr i fyd anhysbys o hyd. Paratoi’n dda yw’r allwedd i osgoi problemau ymhellach i lawr y llwybr.
Peidiwch â theimlo bod rheidrwydd arnoch chi i symud i mewn i’ch lle eich hun dim ond am eich bod chi wedi cyrraedd cam penodol yn eich bywyd (oni bai, wrth gwrs, eich bod chi’n teimlo’n anniogel gartref). Er bod llawer o agweddau positif ar sefyll ar eich traed eich hun, mae yna rai anfanteision hefyd, h.y. talu rhent, y Dreth Gyngor a biliau cyfleustodau, a bod yn gyfrifol am dasgau o gwmpas y cartref.
Cyn i chi wneud eich penderfyniad, beth am siarad â rhywun sydd wedi gadael cartref yn ddiweddar am eu profiad hwythau?
Pryd ydy person ifanc yn cael gadael cartref yn gyfreithiol?
Pobl dan 16 oed
Mae pobl ifanc o dan 16 oed yn dal i fod yn gyfrifoldeb oedolyn o dan y gyfraith. Mae hyn yn golygu na chewch chi adael cartref heb ganiatâd eich rhieni neu warcheidwaid.
Os ydych chi am adael cartref am eich bod chi’n teimlo’n anniogel neu’n cael eich cam-drin, cysylltwch â Thîm Diogelu Lleol eich cyngor. Mewn argyfwng, ffoniwch 999 bob tro.
Pobl 16 a 17 oed
Os ydych chi’n gadael cartref heb ganiatâd swyddogol (gan eich rhiant neu warcheidwad), mae’n annhebygol y cewch chi’ch gorchymyn yn ôl yn erbyn eich ewyllys. Does dim hawl gyfreithiol i denantiaeth i bobl 16 a 17 mlwydd oed ond maen nhw’n dal i allu rhentu eiddo ac mae ganddyn nhw rai hawliau. Os ydych chi’n poeni am eich hawliau o ran llety, cysylltwch â Shelter Cymru neu’ch cyngor lleol.
Os eich rheswm dros eisiau gadael cartref yw eich bod chi’n teimlo’n anniogel neu’n cael eich cam-drin, ceisiwch gefnogaeth oddi wrth Dîm Diogelu Lleol eich cyngor.
Pobl 18 oed ac yn hŷn
Ar ôl i chi droi’n 18, mae’r gyfraith yn dweud eich bod chi’n gallu gadael cartref heb ganiatâd eich rhieni neu warcheidwaid.
Yr ystyriaethau ymarferol
Os ydych chi wedi penderfynu gadael cartref, mae’n syniad da siarad â’ch teulu i esbonio a thrafod eich rhesymau pam. Efallai y byddan nhw’n gallu datrys unrhyw broblemau sy’n arwain at y penderfyniad neu efallai’n gallu eich helpu i ddod o hyd i gartref newydd neu roi help llaw mewn ffyrdd eraill.
Arian
Y peth cyntaf i’w wneud cyn chwilio am eich cartref newydd yn llunio cyllideb. Bydd hyn yn eich helpu i weld pa fath o lety gallwch chi ei fforddio’n realistig. Os ydych chi’n symud i mewn i lety am rent, mae’n fwy na thebyg y bydd angen i chi dalu adnau ac un mis o rent ymlaen llaw.
Efallai y bydd angen i chi brynu dodrefn hefyd a nwyddau i’r tŷ ar gyfer eich cartref newydd. Os ydy arian yn brin, beth am ystyried prynu’n ail law o siopau elusen, cynlluniau ailgylchu dodrefn a gwerthiannau cist car neu o wefannau fel eBay a Gumtree (Saesneg yn unig); mae hyd yn oed yn bosib y cewch chi rai eitemau’n rhad ac am ddim o wefannau fel Freecycle a Freegle (Saesneg yn unig). Hefyd mae gan lawer o drefi dudalennau Facebook lle bydd aelodau’n gwerthu neu’n rhoi i ffwrdd eitemau di-eisiau.
Help gyda chostau tai
Fel arfer ni chewch chi wneud cais am fudd-daliadau nes i chi gyrraedd 18 oed. Mae pobl ifanc dan 18 sydd wedi gadael gofal yn gymwys i dderbyn cymorth ariannol oddi wrth eu cyngor lleol, tra bod budd-daliadau penodol ar gael i bobl ifanc anabl.
Ers Ebrill 2017, nid oes unrhyw hawl awtomatig i elfen costau llety Credyd Cynhwysol i bobl ifanc 18 i 21.
Bydd modd i rai pobl ifanc 18 i 21 oed sy’n hawlio Credyd Cynhwysol gael help o hyd gyda’u costau tai. Ni fydd unrhyw effaith ar y sawl sy’n hawlio Budd-dâl Tai nes iddyn nhw roi’r gorau i’w hawlio ac yn nes ymlaen yn gwneud cais am gymorth tai drwy Gredyd Cynhwysol.
N.B. Mae disgwyl i bob hawliwr budd-dal gael ei symud i Gredyd Cynhwysol erbyn diwedd 2024.
Dod o hyd i rywle i fyw
Efallai y bydd yn cymryd mwy o amser nag ydych yn disgwyl i ddod o hyd i’ch cartref newydd felly mae’n well peidio â rhuthro i mewn i adael cartref cyn i chi ddod o hyd i rywle i fyw. Meddyliwch yn ofalus am y math o le hoffech chi ei gael, beth allwch chi fforddio ei dalu am rent a biliau, ac a ydych chi’n fodlon rhannu llety ag eraill. Yn dibynnu ar eich oedran a’r rheswm pam rydych chi’n gadael cartref, efallai y cewch chi’n ystyried yn rhywun ag ‘angen blaenoriaethol’ am dai cymdeithasol.
Mwy o wybodaeth
Mae Shelter Cymru yn cynnig cyngor tai gwych, gan gynnwys i bobl ifanc. Ffoniwch 0345 075 5005 (9.30am–12.30pm, dydd Llun i ddydd Gwener).