Mae’r mwyafrif o bobl ifanc yn dechrau eu bywydau annibynnol mewn llety rhent, sy’n cael ei ddarparu gan eu cyngor lleol neu gymdeithas tai, neu landlord preifat.
Os ydych chi’n gadael cartref am y tro cyntaf, mae rhentu’n ddelfrydol am ei fod yn rhoi’r cyfle i chi roi cynnig ar fathau amrywiol o eiddo mewn rhannau gwahanol o’r dref neu’r wlad.
Yn 18 oed, mae’n gyfreithiol i chi brynu cartref a gwneud cais am forgais; ond bydd angen i chi fod wedi cynilo adnau a diwallu meini prawf benthyg llym.
Dod o hyd i’ch cartref cyntaf
Byddwch yn realistig am beth allwch chi ei fforddio. Mae ymsefydlu mewn cartref yn beth drud, felly byddwch yn onest gyda’ch hun am beth allwch chi ei fforddio. Cofiwch, nid rhent (neu daliadau morgais) yw’r unig gost ond mae biliau cyfleustodau, y Dreth Gyngor a threthi dŵr hefyd.
Os ydych chi’n gobeithio cael cymorth gyda’ch costau tai, mae’n bwysig cael y cyngor cywir am beth mae gennych chi hawl i’w gael cyn gwneud unrhyw benderfyniadau neu’n ymgymryd ag unrhyw gytundeb tenantiaeth.
Rhentu oddi wrth gyngor neu gymdeithas tai
Mae gwneud cais am dai cymdeithasol yn opsiwn da os ydych chi’n chwilio am rywle i fyw am y dyfodol rhagweladwy. Mae’n tueddu i fod yn llai drud na rhentu oddi wrth landlord preifat, ond nid yw dodrefn a nwyddau gwyn yn cael eu darparu. Mae rhestri aros hir am dai cymdeithasol yn y rhan fwyaf o ardaloedd.
Mae tai cymdeithasol yn cael eu dyrannu yn ôl system pwyntiau neu fandiau, gyda’r sawl a ddiffinnir o dan y gyfraith fel bod mewn ‘angen blaenoriaethol’ (Saesneg yn unig) am dai yn denu pwyntiau ychwanegol (neu’n mynd i fyny band).
Rhentu oddi wrth landlord preifat
Os ydych chi’n chwilio am rywle i fyw ar unwaith, neu ar sail fyrdymor, e.e. chwe mis i flwyddyn, efallai y byddai’n well gennych chi rentu’n breifat. Mae eiddo rhentu preifat yn gallu bod wedi’u dodrefnu, heb ddodrefn neu hanner a hanner, e.e. mae rhai landlordiaid y darparu nwyddau gwyn, carpedi a llenni ond nid gwelyau, wardrobau, soffas, ac ati.
Nid yw asiantau gosod bellach yn cael codi tâl ar denantiaid am unrhyw beth heblaw’r rhent, y blaendal tenantiaeth a blaendal cadw. Ni allant godi tâl ar denantiaid am gael tystlythyrau, rhestrau eiddo neu ffioedd gweinyddol.
Chwiliwch am fflatiau a thai i'w rhentu ar safleoedd fel Rightmove, On the Market a Gumtree (Saesneg yn unig). Neu cadwch lygad ar hysbysfyrddau mewn siopau lleol, lle rydych chi'n gweithio, ac ati. Os ydych chi’n chwilio am ystafell mewn tŷ neu fflat a rennir, yna mae’r Ystafell Sbâr (Saesneg yn unig) yn lle da i ddechrau.
Os yn bosibl, ceisiwch edrych ar sawl eiddo cyn gwneud penderfyniad. Dylech ddisgwyl i unrhyw lety y byddwch yn symud iddo fod yn ddiogel ac mewn cyflwr da.
Rhaid i bob landlord eiddo rhent yng Nghymru gofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru (gwiriwch ar-lein). Os gofynnir i chi dalu adnau, gwnewch yn siŵr ei fod yn cael ei amddiffyn gan y Gwasanaeth Amddiffyn Adneuon (Saesneg yn unig).
Gwahanol fathau o denantiaethau
Fel tenant, mae gennych chi nifer o hawliau (a chyfrifoldebau); ond bydd y rhain yn amrywio yn dibynnu ar y math o lety rydych chi’n byw ynddo, pwy sy’n byw gyda chi a phwy ydy’ch landlord.
Er enghraifft, os ydych chi’n rhentu un ystafell yng nghartref eich landlord eich hun, bydd gennych chi hawliau gwahanol i rywun sy’n rhentu fflat hunangynhwysol.
Mae Rhentu Doeth Cymru wedi cyhoeddi arweiniad ar gyfer tenantiaid yn y sector rhentu preifat.
Mae Shelter Cymru yn cynnig cyngor am rentu a hawliau tenantiaid.
Bod yn denant da
Mae gan denantiaid hawliau a chyfrifoldebau. Mae edrych ar ôl eich cartref eich hun yn bwysig i’ch llesiant a’ch diogelwch eich hun hefyd.
Rhai pethau i’w hystyried:
- Glynwch wrth eich cytundeb tenantiaeth. Bydd hyn efallai’n cynnwys rheolau am bethau fel anifeiliaid anwes ac addurno’r eiddo (o fis Rhagfyr 2022, bydd hyn yn cael ei adnabod fel eich ‘contract meddiannaeth’).
- Cadwch eich cartref wedi’i wyntyllu’n dda er mwyn osgoi lleithder a llwydni.
- Rhowch wybod am broblemau, e.e. gollyngiad neu soced diffygiol, ar unwaith.
- Os ydych chi’n cael anawsterau gydag arian gofynnwch am help cyn i bethau fynd yn ddybryd ac rydych chi’n methu talu’ch rhent.
- Os bydd eich landlord yn bygwth eich troi allan, neu’n rhoi hysbysiad troi allan i chi, ceisiwch gyngor cyn gynted â phosibl.
Deddfau newydd ar gyfer eiddo ar rent
Mae deddfwriaeth newydd yn cael ei chyflwyno yng Nghymru ar 1 Rhagfyr 2022 i wella sut mae eiddo rhent yn cael ei reoli ar gyfer rhentwyr a landlordiaid cymdeithasol a phreifat.
Mae’r newidiadau yn rhoi mwy o sicrwydd i denantiaid ac yn cynnwys:
- ‘contract meddiannaeth’ (i ddisodli cytundeb tenantiaeth) yn nodi eu hawliau a’u cyfrifoldebau
- cynnydd yn y cyfnod rhybudd ‘dim bai’ – o ddau i chwe mis • mwy o amddiffyniad rhag troi allan
- hawliau olynu gwell, sy’n nodi pwy sydd â hawl i barhau i fyw mewn eiddo, e.e. os yw'r tenantiaid gwreiddiol
- mwy o hyblygrwydd i ychwanegu (neu ddileu eraill) at gontract meddiannaeth
Bydd y rhestr hon o Gwestiynau Cyffredin yn ateb llawer o'r cwestiynau a allai fod gennych.
Help i dalu eich rhent
Os ydych yn 18-21 oed a’ch bod yn dechrau cais budd-dal newydd, ni fydd gennych hawl awtomatig i’r elfen tai o’r Credyd Cynhwysol (a elwid yn flaenorol yn Fudd-dal Tai).
Os ydych o dan 35 oed, efallai mai dim ond y gyfradd ‘rhannu ystafell’ o elfen costau tai Credyd Cynhwysol y bydd gennych hawl iddi (mae rhai eithriadau).