skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Oni fyddai’n ardderchog i allu anghofio popeth am arian a mynd ati i fwynhau bywyd?

Dyna sut roedd y mwyafrif ohonom ni’n teimlo pan oeddem ni’n ifanc - ac yn fwy na thebyg nid yw’n wahanol iawn i agwedd eich plant eich hun tuag at faterion ariannol. Yn anffodus, mae pethau sy’n gallu ymddangos yn amherthnasol ac yn bellennig pan fyddant yn dal i fod yn yr ysgol - ffioedd dysgu, costau llety, biliau’r aelwyd, ac yswiriant - yn dechrau dod yn bwysig pan fyddant yn tyfu’n oedolion.

Bydd modd i bob person ifanc gael gafael ar gredyd pan fyddant yn cyrraedd 18 oed a bydd angen benthyciad myfyriwr ar y mwyafrif o’r rheiny  sy’n mynd i mewn i addysg uwch. Efallai y bydd pobl ifanc sy’n mynd yn syth i mewn i swyddi neu hyfforddiant yn dymuno ddechrau cynilo am eu dyfodol, efallai am eu car neu eu cartref cyntaf. Efallai y bydd ar y sawl sy’n byw yn annibynnol angen help gyda chostau llety a rhieni ifanc gyda chostau gofal plant.

Mae costau byw cynyddol yn golygu bod y rhan fwyaf o bobl ifanc - hyd yn oed y rhai sydd mewn cyflogaeth amser llawn - bellach yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd am yr hyn y maent yn gwario eu harian arno. Mae’r gallu i reoli’r arian sy’n dod i mewn ac yn mynd allan - a gwybod ble i fynd am gyngor ariannol neu hyd yn oed cymorth ariannol argyfwng - yn bwysicach nag erioed erbyn hyn.

Yn anffodus, mae cyllideb annigonol, diffyg sgiliau cyllidebu neu penderfyniadau ariannol gwael (neu'r tri) yn gallu cael effaith hirdymor, gan arwain o bosibl at ddyled, tlodi, digartrefedd a phroblemau iechyd meddwl.

Os bydd y gwaethaf yn digwydd ac mae gan eich plentyn problem ddyled sy'n mynd allan o reolaeth, anogwch nhw i chwilio am gyngor ar y cyfle cyntaf gan y bydd gohirio pethau ond yn gwneud y sefyllfa’n waeth.

Addysg ariannol

Mae addysg ariannol wedi bod yn rhan bwysig o’r cwricwlwm ysgol yng Nghymru ers degawd. Y nod yw addysgu plant a phobl ifanc sut i reoli eu harian yn well pan fyddant yn mynd yn oedolion ac i wneud penderfyniadau gwybodus am wariant, cynilo a benthyca.

Mae’r Cwricwlwm Cenedlaethol newydd i Gymru yn nodi’r hyn y dylid ei addysgu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd.

Erbyn 11 oed, dylai plant allu:

  • deall y defnydd o £ a p
  • gwneud cyfrifiadau gydag arian
  • cymharu costau a deall sut i gyllidebu
  • cynllunio ac olrhain arian ac arbedion
  • cyfrifo elw a cholled
  • asesu gwerth am arian

Erbyn 16 oed, dylai pobl ifanc allu:

  • gwybod am wahanol arian cyfred a chyfraddau cyfnewid
  • gallu cyfrifo pethau fel cyfraddau llog cyfansawdd
  • gallu cymharu a dewis cynhyrchion ariannol
  • wedi cael arfer o reoli cyllidebau cartrefi

Sut i helpu

Mae plant yn dysgu oddi wrth y bobl o’u hamgylch ac mae helpu’ch plentyn i ddeall sut i gynilo a thrafod arian yn un o’r pethau pwysicaf gallwch eu gwneud i sicrhau eu llesiant yn y dyfodol.

Dechreuwch gydag arian poced, o bosibl drwy dalu plant i gyflawni tasgau hawdd yn y cartref, fel golchi’r car neu lanhau cawell y gwningen. Argyhoeddwch nhw i gynilo rhywfaint o’u harian pen-blwydd neu Nadolig mewn cyfrif cynilo. Gofynnwch i blant hŷn gynilo am eitemau mawr neu docynnau cyngerdd, gan dalu hanner yr un efallai. 

Atgoffwch blant fod rhaid i bob dyled gael ei had-dalu, ni waeth pa mor fach neu pwy fenthycodd yr arian iddynt.

Mae gan Helper Arian rai canllawiau oed-briodol i helpu rhieni i siarad â phlant a phobl ifanc am arian.

Mwy o wybodaeth

Gall cynghorwyr Childline helpu plant a phobl ifanc gyda phroblemau ariannol. Ffoniwch: 0800 1111.

Mae Stepchange (Saesneg yn unig) yn cynnig cyngor am ddim i unrhyw un sydd mewn dyled.

Diweddariad diwethaf: 09/03/2023