skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Does dim ots pa mor synhwyrol mae person ifanc gydag arian neu ba mor dda mae’n cyllidebu, mae’n debygol y bydd adegau pan nad oes digon yn dod i mewn i dalu am ei alldaliadau. Mae hyn yn dod yn fwy tebygol fyth gyda chostau byw cynyddol.

Mae mwy a mwy o bobl ifanc yn cael trafferthion ariannol oherwydd costau rhent, cludiant ac ynni drud.

oedi mewn taliadau budd-dal yw rhai o’r pethau sy’n gallu taro hyd yn oed y gyllideb sy’n cael ei rheoli orau.

Yna mae yna argyfyngau - colli swydd, methu gweithio’n sydyn, costau annisgwyl ac oedi wrth dderbyn budd-daliadau yw rhai o’r pethau sy’n gallu taro hyd yn oed y gyllideb sy’n cael ei rheoli orau. Mae natur argyfwng yn golygu ei fod heb ei ragweld a gall rhywun sy’n ymdopi o drwch blewyn ddarganfod nad oes ganddo ddigon o arian am gostau rhent, bwyd neu gludiant. Mae’r sefyllfa yn gwaethygu ymhellach pan fydd plant dan sylw.

Mae gan Helpwr Arian adran ar reoli eich cyllideb yn y cyfnod ansicr hwn (a llawer o wybodaeth ddefnyddiol arall am faterion yn ymwneud ag arian).

Weithiau, bydd y teulu a ffrindiau’n gallu helpu - er y dylai bob amser fod yn glir ai rhodd neu fenthyciad yw’r arian. Os benthyciad ydyw, mae’n bwysig cytuno ar sut y caiff ei ad-dalu ac erbyn pryd, ac i roi hynny mewn ysgrifen. Mae gan Helpwr Arian rai awgrymiadau i helpu pethau i fynd yn esmwyth.

Os digwyddiad un-tro yw’r argyfwng a gall y person ifanc ei fforddio, efallai y bydd yn ystyried trefnu benthyciad byrdymor. Undebau credyd yw un o’r dulliau rhataf o gael benthyg arian; ond fel arfer mae angen i chi fod wedi cynilo gydag un cyn y cewch gymryd benthyciad.

I’r sawl sydd heb deulu a ffrindiau i droi atynt – ac nad ydynt mewn sefyllfa i allu benthyca arian yn rhad – mae’n bosibl y bydd rhywfaint o gymorth ariannol brys ar gael, yn dibynnu ar eich amgylchiadau.

Cymorth ariannol

Mae’r Gronfa Cymorth Dewisol yn darparu cymorth un-tro i unigolion dros 16 oed y mae arnynt angen cymorth ariannol brys. Mae dau fath o grantiau (nad oes rhaid ad-dalu’r naill neu’r llall) sef:

  • Taliadau Cymorth mewn Argyfwng (EAP)
  • Taliadau Cymorth Unigol (IAP)

I ddarganfod a ydych yn gymwys ar gyfer y naill grant neu'r llall cliciwch yma. Rhadffôn: 0800 859 5924 (dwyieithog) neu gwnewch gais ar-lein.

Mae llawer o elusennau’n darparu cymorth un-tro mewn argyfwng, er bod gan y mwyafrif feini prawf penodol yn nhermau oedran, amgylchiadau ac ati. 

Mae Turn2Us (Saesneg yn unig) yn rhestru elusennau sy’n darparu cymorth argyfwng, tymor byr a thymor hwy, i bobl sy’n cael anawsterau ariannol, efallai o ganlyniad i ddilead eu swydd neu brofedigaeth. Mae’n bosibl y bydd grantiau, benthyciadau, talebau neu gymorth ymarferol ar gael.

Fel arfer mae gan brifysgolion a cholegau gronfeydd caledi sy’n gweithredu’n rhwyd ddiogelwch i fyfyrwyr y mae eu hamgylchiadau’n newid yn ystod eu hastudiaethau.

Cymorth anariannol

Gall pobl ifanc sydd mewn sefyllfaoedd ariannol dybryd fod yn gymwys am gymorth ymarferol hefyd, gan gynnwys darpariaeth llety a bwyd.

Mae natur y cymorth sydd ar gael yn dibynnu ar eu hamgylchiadau, e.e. mae gan bobl ifanc dan 18 oed, pobl dan 21 sydd wedi gadael gofal, menywod beichiog a’r sawl sydd â phlant dibynnol yn byw gyda hwy hawliau gwahanol o ran llety os ydynt yn ddigartref neu mewn perygl o fynd yn ddigartref.

Mae gan y gwasanaethau cymdeithasol ddyletswydd ofal dros blant a phobl ifanc sydd mewn perygl o niwed ac mae’n bosibl y byddant yn gallu helpu gyda llety a bwyd mewn argyfwng.

Mae banciau bwyd ar hyd a lled Cymru sy’n darparu parseli bwyd i bobl a fyddai’n mynd heb fwyd fel arall. Ymddiriedolaeth Trussell (Saesneg yn unig) sy’n rhedeg y rhan fwyaf ond mae rhai banciau bwyd dan arweiniad eglwysi. Er mwyn cael parsel fwyd, mae angen taleb fwyd arnoch oddi wrth asiantaeth leol, e.e. gwasanaethau cymdeithasol, Cyngor ar Bopeth, swyddogion tai. Os oes angen help arnoch gan fanc bwyd, ffoniwch Rhadffôn 0808 2082138 (Dydd Llun i ddydd Gwener, 9am–5pm) i siarad yn gyfrinachol â chynghorydd Cyngor ar Bopeth hyfforddedig. Ni chewch dim ond troi i fyny.

Beth i’w osgoi

Pan fydd rhywun yn ei chael yn anodd talu am gostau’r cartref, mae ond yn rhy hawdd cael eich denu gan fenthyciadau diwrnod cyflog, contractau rhentu-i-feddiannu a benthycwyr arian didrwydded.

Mae benthyciadau diwrnod cyflog (Saesneg yn unig) yn gyfreithlon ond gallant fod yn ddrud iawn yn y pen draw.

Gall rhentu neu rentu i brynu fodyn ffordd ddrud o brynu nwyddau i’r cartref - poptai, peiriannau golchi dillad, gwelyau.Mae taliadau’n cael eu gwneud yn wythnosol, ac mae’r gost gyfan sawl gwaith yn uwch na’r pris gwreiddiol.

Nid benthycwyr arian didrwydded yw’r ateb byth. Maent yn gweithredu’n anghyfreithlon ac yn codi cyfraddau llog aruthrol o uchel. Er y gallant fod yn ddigon cyfeillgar ar y dechrau, maent yn gallu mynd yn gas os caiff taliadau eu colli. Os oes benthyciwr arian didrwydded yn gweithredu yn eich ardal chi - neu os yw'r math hwn o fenthyca anghyfreithlon wedi effeithio arnoch chi, siaradwch ag Uned Benthyca Arian Anghyfreithlon Cymru. Ffôn: 0300 123 3311 (24 awr). Mae galwadau’n gyfrinachol.

Mwy o wybodaeth

Mae Helpwr Arian yn esbonio materion ariannol gan gynnwys benthyciadau a benthyca, cyfrifon banc ac argyfyngau ariannol mewn termau syml.

Mae Cyngor ar Bopeth yn cynnig cyngor am fudd-daliadau, dyled a benthyca.

Diweddariad diwethaf: 09/03/2023