skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Ychydig iawn o bobl ifanc sy’n bwriadu bod mewn dyled na allant fforddio ei thalu’n ôl – neu maent yn meddwl na fydd hynny byth yn digwydd iddyn nhw.

Mae bod mewn dyled yn golygu gwario arian nad yw gennych chi ar hyn o bryd. Fel arfer nid yw lefelau hydrin o ddyled yn broblem – mae’r mwyafrif o oedolion wedi benthyca arian ar ryw adeg yn eu bywyd. Ond pan fydd dyled yn mynd yn anhydrin ac mae ei thalu’n ôl yn llyncu mwyfwy o gyflog neu fudd-daliadau rhywun, yna mae’n broblem.

Yn anffodus, i rai pobl ifanc, mae’r cyfuniad o incwm isel neu afreolaidd, arferion gwario drwg, argyfyngau annisgwyl a byw yn annibynnol am y tro cyntaf yn gallu arwain at lefelau cynyddol o ddyled.

Mae byw o fis i fis yn ei gwneud yn anodd iddynt leihau eu dyledion felly bob tro mae digwyddiad annisgwyl arall yn codi – neu hyd yn oed penblwyddi a’r Nadolig – maent yn teimlo nad oes ganddynt unrhyw opsiwn ond i fenthyca rhagor.

Beth bynnag y rheswm dros fod mewn dyled, mae’n bwysig gofyn am help. Mae poeni am arian yn peri straen ac yn gallu cael effaith negyddol ar iechyd meddwl rhywun.

Dyled dda a drwg

Nid peth drwg yw pob dyled. Mae’n gwneud synnwyr i drefnu morgais ar gyfer buddsoddiad hirdymor fel fflat neu dŷ. Mae benthyciad am gar sy’n helpu person ifanc i deithio i’r gwaith yn werth chweil hefyd yn y tymor hwy (er, yn wahanol i eiddo, mae gwerth ceir fel arfer yn gostwng).

Erbyn hyn mae’r mwyafrif o fyfyrwyr prifysgol yn cymryd benthyciadau myfyrwyr i dalu am eu hastudiaethau (mae gan Money Saving Expert fwy am fenthyciadau myfyrwyr ar ôl 2012 (Saesneg yn unig)).

Mae’r rhai sy’n cael eu galw’n ddyledion ‘drwg’ yn nodweddiadol yn golygu gwario arian i brynu pethau heb unrhyw werth hirdymor na buddsoddiad, e.e. dillad newydd, bwyta allan. Bellach mae llawer o bobl ifanc yn cael eu gorfodi i fenthyca arian i dalu am gostau byw sylfaenol.

Mae’r rhan fwyaf o ddyled ddrwg yn cronni ar gardiau credyd, benthyciadau diwrnod cyflog a gorddrafftiau. Mae taliadau llog a ffioedd uchel yn golygu bod y swm sy’n ddyledus cyn hir yn llawer iawn mwy na’r benthyciad neu’r gorwariant gwreiddiol.

Hyd yn oed pan fydd mynd i ddyled yn werth chweil, dylai pobl ifanc ddal i ystyried fforddadwyedd a newidiadau posibl i’w hamgylchiadau byrdymor – a siopa o gwmpas am y bargeinion gorau.

Benthyca ffurfiol

Ni fydd y mwyafrif o fenthycwyr yn ystyried rhoi benthyg i neb o dan 18 oed ac nid yw banciau’n caniatáu gorddrafft ar gyfrifon pobl ifanc.

Mae popeth yn newid yn 18 oed pan gall person ifanc wneud contractau sy’n rhwymo mewn cyfraith. Yn dibynnu ar eu hincwm a’u hamgylchiadau, bydd ganddynt fynediad wedyn i gardiau credyd, cyllid car, benthyciadau banc, benthyciadau diwrnod cyflog a morgeisi (bydd angen gwarantwr yn aml). Mae rhai mathau o fenthyca yn haws eu cael nag eraill, ac yn aml bydd pobl ifanc yn cael eu hystyried yn risg uchel gan fenthycwyr confensiynol (a rhatach).

Yn anffodus, mae gwneud cais ar-lein mor hawdd bod rhai pobl dan 18 oed wedi dweud celwydd am eu hoedran ac mae benthyciadau diwrnod cyflog wedi cael eu dyfarnu iddynt.

Benthyca anffurfiol

Benthyca oddi wrth eich teulu neu ffrindiau yw’r math rhataf o fenthyca; ond mae’n bwysig bod yn glir am sut a phryd y caiff yr arian ei ad-dalu (rhowch hyn mewn ysgrifen).

Mae bod mewn dyled i’ch teulu a ffrindiau yn gallu rhoi straen ar berthnasoedd, yn enwedig pan fydd y sawl sydd wedi rhoi ei fenthyg angen i’r arian gael ei ad-dalu ar gyfer eu lles ariannol eu hun.

Cadw pethau dan reolaeth

Pan fydd rhywun mewn dyled ac yn methu cynnal yr ad-daliadau, mae’n bwysig iddynt geisio cyngor arbenigol am ddim (CYP Getting financial advice) cyn gynted â phosibl.

Mae atebion i ddyled ar gyfer amgylchiadau gwahanol, gan gynnwys:

  • Cynllun rheoli dyled (DMP)
  • Gorchymyn rhyddhau o ddyled (DRO)
  • Cynllun trefnu dyled (DAS)
  • Trefniadau gwirfoddol unigol (IVA)

Mae rhagor o wybodaeth gan yr elusen dyled Stepchange (Saesneg yn unig).

Effaith dyled ar iechyd meddwl

Mae pryderon am arian yn gosod straen aruthrol ar y sawl sydd mewn dyled ac ar eu teulu. Yn dibynnu ar y math o ddyled, gall fod llythyron a galwadau ffôn cyson neu hyd yn oed fenthycwyr didrwydded neu feilïod yn curo ar y drws.

Gall byw mewn aelwyd lle mae dyledion wedi mynd allan o reolaeth gael effaith anferth ar iechyd meddwl plentyn neu berson ifanc a gwneud iddynt deimlo’n unig ac yn ynysig.

Gwybodaeth a chymorth

Mae Helpwr Arian yn esbonio materion ariannol gan gynnwys benthyciadau a benthyca, cyfrifon banc ac argyfyngau ariannol mewn termau syml.

Mae Stepchange (Saesneg yn unig) yn rhoi cyngor am ddim i unrhyw un sydd mewn dyled.

Cred y National Debt Helpline (Saesneg yn unig) na ddylai neb fynd drwy broblemau dyled ar ei ben ei hun. Call: 0808 808 4000.

Mae’r Money Saving Expert wedi cynhyrchu cynllun cymorth dyled (Saesneg yn unig).

Mae M.E.I.C. yn cynnig cymorth cyfrinachol i bobl ifanc yng Nghymru hyd at 25 mlwydd oed. Ffoniwch: 0808 802 3456 neu anfonwch neges destun ar 84001, neges wib neu e-bost.

Diweddariad diwethaf: 09/03/2023