skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae dewis gofal plant yn benderfyniad hynod o bwysig i’r teulu i gyd. Bydd y darparwr gofal plant cywir yn helpu’ch plentyn i ddysgu, cael hwyl a gwneud ffrindiau newydd, yn ogystal â bodloni ei holl anghenion beunyddiol a chynnig tawelwch meddwl i chi gan wybod bod eich plentyn yn derbyn gofal da.

Mathau o ofal plant

Mae llawer o fathau i ofal plant i ddewis o’u plith, gan gynnwys:

  • lleoliadau gofal plant cartref, e.e. gwarchodwr plant cofrestredig neu nani
  • lleoliadau gofal plant neu chwarae grŵp, e.e. meithrinfeydd dydd, cylchoedd chwarae cyn ysgol / cylchoedd meithrin neu glybiau gofal plant tu allan i oriau ysgol.

Mae’n rhaid i leoliadau gofal a chwarae plant sy’n darparu gofal i blant dan 12 oed am fwy na dwy awr y dydd gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC). Mae defnyddio gofal plant cofrestredig yn sicrhau bod y lleoliad a ddefnyddiwch yn bodloni’r rheoliadau cenedlaethol a’r safonau gofynnol.

Gall eich Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol eich cefnogi i ddod o hyd i ofal plant sy’n addas i anghenion unigol eich plentyn chi yn eich ardal. 

Pethau i feddwl amdanyn nhw

Mae’n syniad da cysylltu â chynifer o ddarparwyr gofal plant â phosib cyn penderfynu p’un sydd orau i chi a’ch plentyn. Mae’r lleoliad yn bwysig - gallech chi fod yn treulio cryn dipyn o amser yn teithio yn ôl ac ymlaen i’r lleoliad a ddewiswch. Cyn eich ymweliad, meddyliwch am y cwestiynau mae angen i chi eu gofyn neu bethau eraill i’w hystyried. 

Gallai hyn gynnwys:

  • A yw'r unigolyn neu'r gwasanaeth wedi'i gofrestru ag AGC?
  • Oes ganddyn nhw olwg groesawgar, ofalgar ac ysgogol i blant?
  • Pa gyfleusterau sydd gan y lleoliad ac ydy’r rhain yn ddiogel?
  • Ydy’r lleoliad yn darparu gofal drwy gyfrwng yr iaith sydd orau gennych chi?
  • Beth yw’r oriau agor? Meddyliwch am yr oriau a’r dyddiau pan fyddwch angen defnyddio gofal plant. Bydd a ydych chi’n gweithio oriau swyddfa safonol neu sifftiau afreolaidd yn cael effaith fawr ar eich dewis.
  • Beth yw cost gofal plant? Fyddech chi’n gallu manteisio ar gymorth ariannol pe baech chi’n dewis y lleoliad hwn (gweler isod)?
  • Beth sy’n cael ei ddarparu a beth mae disgwyl i chi ei ddarparu, er enghraifft, prydau bwyd, byrbrydau a chewynnau?
  • Sut fydd eich trefniant gofal plant yn cyd-fynd â threfniadau eraill eich teulu, nawr ac yn y dyfodol? Oes gennych chi blant eraill i’w hystyried hefyd?
  • Oes ganddyn nhw le ar gael ar gyfer eich plentyn chi?

Mae gan AGC wybodaeth ddefnyddiol hefyd am bethau eraill i’w hystyried ar Dewis Gofal Plant.

Cymorth i dalu costau gofal plant

Mae cymorth ar gael i helpu gyda chost gofal plant yn dibynnu ar ble rydych chi’n byw a’ch amgylchiadau unigol eich hun. Mae hyn yn cynnwys:

  • Cynnig Gofal Plant i Gymru
  • Addysg Cyfnod Sylfaen ran-amser sy’n cael ei hariannu i bob plentyn tair a phedair oed yng Nghymru
  • Gofal Plant Di-dreth (Saesneg yn unig)
  • Credydau Treth a Chredyd Cynhwysol.

Mae rhagor o wybodaeth am y rhain a chymorth ariannol arall sydd ar gael yma.

Mae cynlluniau atgyfeirio yn cael eu cynnal ledled Cymru hefyd i helpu plant ag anghenion ychwanegol i fynychu lleoliadau gofal plant gyda phlant eraill yr un oedran. Cysylltwch â’ch Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd lleol am fwy o wybodaeth am y rhain yn lleol.

Diweddariad diwethaf: 22/02/2023