skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Pan fyddwch yn rhiant neu’n warcheidwad, gallwch deimlo’n aml bod bywyd yn gylch di-ben-draw o geisiadau - yn enwedig pan fydd sawl plentyn gennych. Un funud rydych yn canolbwyntio ar le meithrin i’ch plentyn tair oed, y funud nesaf rydych wrthi’n chwilio am yr ysgol gynradd gywir. Cyn pen dim, mae’ch plentyn ar ei ffordd i’r ysgol uwchradd ac, ar fyr o dro, mae wedi cyrraedd diwedd ei addysg orfodol ac yn gwneud cais i goleg ôl-16.

Mae’n ddigon i ddrysu neb; ond y peth pwysig yw penderfynu’n gynnar pa fath o addysg rydych am eich plentyn ei dderbyn, h.y. Saesneg, cyfrwng Cymraeg, ddwyieithog, ysgol ffydd, ac yn y blaen, dysgu beth yw’r meini prawf derbyn, e.e. dalgylchoedd neu ofynion crefyddol, ac yna cadw’n gaeth ar yr amserlen dderbyn.

Derbyniadau meithrin

Ar hyn o bryd, mae gan bob plentyn yng Nghymru hawl i le meithrin rhan-amser, am ddim, yn ystod tymhorau ysgol o fis Medi’r flwyddyn academaidd mae’n troi’n bedair, h.y. ei flwyddyn gyn-ysgol.*

Mewn ysgol feithrin y mae’r rhan fwyaf o’r lleoedd hyn; ond mae gan rai plant leoedd meithrin mewn cylchoedd chwarae neu feithrinfeydd dydd preifat. 

Mae’r broses dderbyn yn dibynnu ar y darparwr. Os hoffech le mewn meithrinfa mewn ysgol, dilynwch y broses dderbyn sy’n cael ei hesbonio o dan Dderbyniadau Ysgolion (isod). Ar gyfer cylchoedd chwarae a meithrinfeydd dydd preifat, cewch gysylltu â’r darparwr yn uniongyrchol.

*Mae Llywodraeth Cymru yn cynnal cynllun peilot ar hyn o bryd am gynnig addysg gynnar newydd i rieni sy’n gweithio, sy’n cynnig 30 awr yr wythnos am hyd at 48 wythnos y flwyddyn. Y bwriad yw cyflwyno’r cynnig ledled Cymru.

Gall lleoedd i Blant sy’n codi’n 3 fod ar gael i blant sy’n cael eu geni rhwng 1 Medi a 31 Mawrth y dyrannwyd lle meithrin mis Medi iddynt, ond dim ond os oes lleoedd ar gael yn y feithrinfa. Nid yw plant sy’n cael eu geni rhwng 1 Ebrill a 31 Awst yn gymwys am le Plant sy’n Codi’n 3.

Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu cymysgedd o ofal plant ac addysg gynnar i rieni cymwys i blant tair neu bedair oed. Gwiriwch a ydych yn gymwys.

Gall y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd roi cyngor i chi am addysg y blynyddoedd cynnar a’ch opsiynau.

Derbyniadau ysgolion

Ar ôl i chi benderfynu pa ysgol hoffech i’ch plentyn ei mynychu, cysylltwch â’r awdurdod derbyn am ffurflen gais:

  • ysgolion cymunedol ac ysgolion gwirfoddol a reolir – gwnewch gais i’r cyngor lleol
  • ysgolion gwirfoddol a gynorthwyir (ysgolion ffyrdd yn aml) neu ysgolion sefydledig – cysylltwch â’r ysgol yn uniongyrchol

Anelwch at gyflwyno’ch cais erbyn y dyddiad cau cyhoeddedig am na fydd ceisiadau hwyr bob amser yn cael sylw ar yr un pryd â’r rhai a gyrhaeddodd mewn pryd. 

Ewch i wefan eich cyngor lleol am ragor o wybodaeth am dderbyniadau, gan gynnwys dyddiadau cau a sut mae apelio os na allwch sicrhau lle yn yr ysgol rydych yn ei ffafrio.

Os ydych yn gwneud cais i ysgol wirfoddol a gynorthwyir (ysgol ffyrdd yn aml) neu ysgol sefydledig, ewch i wefan yr ysgol am fanylion ei gweithdrefn dderbyn.

Mae Llywodraeth Cymru wedi llunio rhestr o gwestiynau cyffredin i helpu rhieni gyda’r broses derbyn i ysgolion, gan gynnwys sut i apelio os nad yw eich plentyn yn cael cynnig lle yn yr ysgol o’ch dewis.
 

Derbyniadau colegau

Erbyn hyn mae llawer o bobl ifanc yn penderfynu aros yn yr ysgol ar gyfer y chweched dosbarth; ond mae’n well gan eraill adael yr ysgol ac astudio yn eu coleg lleol.

Mae llawer o’r cyrsiau academaidd a galwedigaethol hyn yn boblogaidd iawn ac mae lleoedd yn gyfyngedig. Anogwch eich plentyn i edrych ar-lein i weld beth sy’n cael ei gynnig ac i fynd i ddiwrnodau agored er mwyn cael siarad â thiwtoriaid cyrsiau a myfyrwyr eraill cyn gwneud cais ffurfiol am y cwrs.

Mae’r mwyafrif o geisiadau i golegau’n cael eu gwneud ar-lein y dyddiau hyn ond yn fwy na thebyg bydd cyfweliad er mwyn gwneud yn siŵr bod y cwrs yn paru’n dda â galluoedd eich plentyn a’i gynlluniau am yrfa yn y dyfodol. Gallwch chwilio am gyrsiau ar wefan Gyrfa Cymru. 

Diweddariad diwethaf: 22/02/2023