Mae yna amrediad mor eang o swyddi a gyrfaoedd yn bodoli y gall hi fod yn anodd i berson ifanc wybod ble i ddechrau wrth chwilio am gyfleoedd hyfforddiant.
Mae gan Gyrfa Cymru gwis paru swyddi i helpu’r sawl sy’n gadael yr ysgol i baru eu sgiliau a’u diddordebau â swyddi gwahanol a’u helpu i ddeall yr hyfforddiant, cymwysterau a sgiliau bydd eu hangen arnyn nhw i gyflawni eu huchelgeisiau. Gyda mwy na 700 swyddi yn y rhestr, mae’n fan cychwyn gwych.
Dysgwch ba fath o yrfaoedd a chyfleoedd sydd ar gael yng Nghymru yn Tueddiadau Swyddi Gyrfa Cymru. Cewch chi weld pa yrfaoedd sy’n tyfu yng Nghymru, pwy ydy’r cyflogwyr allweddol, faint mae pobl yn ennill a llawer iawn mwy.
Pan fydd gennych chi syniad am y swydd hoffech chi ei chael, mae’n bryd meddwl am yr hyfforddiant neu’r cymwysterau mae eu hangen i wneud y swydd.
Cael eich talu i hyfforddi
Yn dibynnu ar y math o yrfa rydych chi’n ymddiddori ynddi, fe allai fod yn bosibl hyfforddi a chael eich talu ar yr un pryd.
Twf Swyddi Cymru+
Mae Twf Swyddi Cymru+ yn rhaglen hyfforddi a datblygu ar gyfer pobl ifanc 16-18 oed sy'n helpu pobl ifanc i ennill y sgiliau, y cymwysterau a'r profiad sydd eu hangen arnynt i gael swydd neu efallai symud ymlaen i brentisiaeth, neu gwrs coleg.
Mae tri llinyn:
- Ymrwymiad
- Cynnydd
- Cyflogaeth
Bydd pobl ifanc mewn rhaglen hyfforddi yn derbyn lwfans hyfforddi wythnosol gan eu cyflogwr. Yn dibynnu ar eu hamgylchiadau, efallai y byddant hefyd yn gallu hawlio Credyd Cynhwysol.
I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Gymru'n Gweithio.
Prentisiaethau
Swydd gyda hyfforddiant yw prentisiaeth ac mae’n rhoi cyfle i’r prentis ennill cymwysterau cydnabyddedig ar yr un pryd â gweithio ac ennill cyflog. Fel arfer mae prentisiaethau’n para rhwng dwy a thair blynedd.
Mae pedwar math o brentisiaeth:
- Prentisiaeth sylfaenol (lefel 2)
- Prentisiaeth (lefel 3)
- Prentisiaeth uwch (lefel 4/5)
- Prentisiaeth gradd (lefel 6, h.y. lefel gradd)
Dysgwch fwy am Beth yw Prentisiaeth? Mae Gyrfa Cymru wedi llunio rhestr ddefnyddiol o gyflogwyr sy’n cynnig prentisiaethau, gyda dolen â’r dudalen berthnasol ar eu gwefan.
Prentisiaethau. Syniad Athrylith. Canllaw i Ddysgwyr mae hyn yn darparu gwybodaeth gynhwysfawr am y math o brentisiaethau sydd ar gael.
Ar hyn o bryd mae’r Isafswm Cyflog Cenedlaethol (Saesneg yn unig) i brentis yn dechrau ar £4.81 yr awr (Awst 2022).
Hyfforddiant mewn coleg
Opsiwn arall i hyfforddi a chymhwyso am yrfa eich dewis yw astudio cwrs mewn coleg.
Gallwch chi astudio cymwysterau BTEC, City & Guilds ac NVQ mewn pynciau cysylltiedig â gwaith fel adeiladu, iechyd a harddwch, a lletygarwch ac arlwyo.
Mae colegau’n cynnig llawer o gyrsiau galwedigaethol felly mae’n werth edrych at wefannau colegau unigol i weld beth sydd ar gael.
Cewch chi ddechrau ar gwrs lefel is ac yna symud ymlaen i’r lefel nesaf. Dysgwch fwy am y cyrsiau sydd ar gael yng Nghymru.
Help gyda chostau byw
Mae’n bosibl y bydd pobl ifanc 16-18 oed sydd mewn addysg bellach fod yn gymwys i dderbyn Lwfans Cynhaliaeth Addysg yn dibynnu ar incwm y teulu.
Gall myfyrwyr 19 oed neu’n hŷn fod yn gymwys am Grant Dysgu Llywodraeth Cymru - AB o hyd at £1,500. Mae’n bosib i golegau gynnig cymorth ychwanegol gyda chostau gofal plant a theithio yn dibynnu ar eich amgylchiadau.
Gwaith â chymorth i bobl ifanc anabl
Mae’n bosib y bydd angen cymorth ychwanegol ar bobl ifanc anabl i ddilyn llwybr gyrfa eu dewis, e.e. profiad gwaith, cludiant neu efallai darpariaeth offer arbenigol. Dysgwch fwy am arian ar gyfer myfyrwyr anabl.
Mae yna gyrff i helpu pobl ifanc anabl i ymuno â byd gwaith. Ewch i Gyrfa Cymru am fwy o wybodaeth.