Mae prentisiaethau yn cynnig cyfle i bobl ifanc ddechrau gweithio ac ennill cymwysterau a sgiliau ar yr un pryd.
Mae prentis yn gwneud swydd go iawn i gyflogwr go iawn. Mae’n astudio am gymwysterau proffesiynol cydnabyddedig, ar yr un pryd â dysgu sgiliau hanfodol sy’n gysylltiedig â swydd benodol oddi wrth gydweithwyr profiadol.
Mae pedwar math o brentisiaeth, sy’n cymryd rhwng blwyddyn a phum mlynedd i’w cwblhau yn dibynnu ar y lefel, y diwydiant ac ar sgiliau presennol y prentis.
Mae unrhyw un sydd dros 16 oed, yn byw yng Nghymru ac nad yw mewn addysg llawn-amser yn gallu gwneud cais am brentisiaeth. Mae’r gystadleuaeth yn gryf felly mae’n rhaid i’r person ifanc ddangos ei benderfyniad i wneud cynnydd drwy’r brentisiaeth.
Manteision prentisiaeth
Mae prentisiaeth yn cynnig llawer o fanteision, sy’n cynnwys:
- cael eich talu o’r diwrnod cyntaf
- hyfforddiant ymarferol a damcaniaethol o’r cychwyn cyntaf
- cael eich talu i fynychu’r coleg
- cymorth i wella rhifedd, llythrennedd a sgiliau TGCh os oes ei angen
- ennill cymhwyster seiliedig ar waith (o leiaf Lefel 2 o Fframwaith Credydau a Chymwysterau Cymru)
- y posibilrwydd o astudio hyd lefel gradd a’r tu hwnt, e.e. ym meysydd peiriannu, adeiladu, gweinyddiaeth busnes
- datblygu sgiliau ‘trosglwyddadwy’ fel gwaith tîm, blaengarwch a rheoli amser
- defnyddio technolegau a dulliau cyfredol
Mathau o brentisiaeth
Mae tri math o brentisiaeth am fod gwahanol swyddi yn gofyn am lefelau gwahanol o gymwysterau, rhai’n uwch na’i gilydd.
- Prentisiaeth sylfaen – gweithio tuag at NVQ Lefel 2
- Prentisiaeth – gweithio tuag at NVQ Lefel 3
- Prentisiaeth uwch – gweithio tuag at NVQ Lefel 4/5
- Prentisiaeth gradd – gweithio tuag at NVQ Lefel 6 (cyfwerth â gradd)
Mae gan bob lefel prentisiaeth ofynion mynediad gwahanol.
Mae yna brentisiaethau sy’n amrywio o adeiladu i drin gwallt, gofal plant i weinyddiaeth busnes, gwasanaeth cwsmeriaid i ddylunio graffig, garddwriaeth a pheiriannu.
Mae’r Lluoedd Arfog hefyd yn cynnig prentisiaethau felly edrychwch ar eu gwefannau recriwtio.
Mae gan Gyrfa Cymru gronfa ddata paru prentisiaethau er mwyn i chi gael gweld beth sydd ar gael yn eich ardal chi.
Oriau a thâl
Dylai prentisiaid weithio am o leiaf 30 awr y wythnos a dim mwy na 40, gan gynnwys yr amser sy’n cael ei dreulio yn y coleg neu mewn hyfforddiant oddi ar y swydd.
Mae pob prentis yn derbyn cyflog, ond mae’r swm yn dibynnu ar ei oedran, y math o brentisiaeth ac am faint mae’r prentis wedi bod yn hyfforddi.
Mae o wybodaeth am dâl ac amodau prentisiaid yma (Saesneg yn unig).
Mwy o wybodaeth
Am fwy o wybodaeth am brentisiaid cysylltwch â Gyrfa Cymru.