Mae’r gystadleuaeth am swyddi yn gallu bod yn ffyrnig, yn enwedig pan fydd gan y swydd dan sylw oriau sefydledig, amodau da a chyfradd dâl dderbyniol.
Bydd llawer o gyflogwyr cyfrifol yn derbyn llawer iawn mwy o geisiadau am unrhyw swydd wag sy’n cael ei hysbysebu nag maent yn gallu delio â nhw – sy’n golygu na fydd ganddynt amser i ddarllen pob un yn fanwl.
I bobl ifanc ag ychydig neu fawr dim profiad gwaith, mae’n gallu teimlo fel nad oes unrhyw bwynt mewn hyd yn oed gwneud cais pan fydd yn fwy na thebyg na fyddant byth yn clywed yn ôl gan y cwmni dan sylw.
Yn hytrach na derbyn eu trechu wrth y rhwystr cyntaf, yr ymagwedd orau yw i berson ifanc ganolbwyntio ar ysgrifennu’r CV gorau posibl (mae’r llythrennau’n sefyll am curriculum vitae) sy’n amlygu popeth maent yn gallu ei wneud, hyd yn oed os na fu swydd ganddynt o’r blaen.
Mae’n bwysig iddynt ymarfer eu sgiliau cyfweliad hefyd, gan wneud tipyn o chwarae rôl efallai i hwyluso pethau ac i hybu eu hyder.
Ysgrifennu CV gwych
Ni fydd yr un cyflogwr yn disgwyl i rywun sydd newydd ymadael â’r ysgol neu sy’n astudio am eu lefelau A feddu ar CV sy’n llawn hanes cyflogaeth eang.
Byddant ond yn dymuno gwybod a yw’r person ifanc yn addas am y sefydliad ac a fydd yn gwneud gwaith da os caiff ei gymryd ymlaen.
Nid yw profiad yn ymwneud â gwaith yn unig; mae cyflogwyr hefyd yn rhoi gwerth ar sgiliau a all gael eu caffael yn yr ysgol a’r coleg, neu yn ystod gweithgareddau allgyrsiol, e.e. sgiliau cyfathrebu da, cymhelliant, blaengarwch, cadw amser a’r gallu i weithio mewn tîm.
Dyma rai o’r dulliau y gall pobl ifanc wneud i’w CV nhw sefyll allan:
- Nodi beth maent yn ei wneud orau a’i gysylltu â beth mae cyflogwyr yn chwilio amdano:
- Mae bod mewn tîm chwaraeon ysgol yn dangos gwaith tîm da
- Mae chwaraeon unigol fel athletau yn dangos cymhelliant ac ysgogiad
- Mae ysgrifennu erthyglau a blogiau yn amlygu sgiliau cyfathrebu da
- Mae bod yn nhîm dadlau’r ysgol yn brawf o gyfathrebu llafar da.
- Cynnwys gweithgareddau a diddordebau tu allan i’r ysgol, e.e. Sgowtiaid, clybiau chwaraeon, Gwobr Dug Caeredin, ac yn y blaen.
- Cofiwch sôn am y pethau amlwg, e.e. trwydded gyrru, ieithoedd a’r pecynnau cyfrifiadur maent yn eu defnyddio.
- Rhestrwch unrhyw brofiadau gwirfoddoli, gan gynnwys rolau gwirfoddol yn yr ysgol neu’r coleg, e.e. cynrychiolydd dosbarth neu roi help llaw ar ddyddiau agored.
- Peidio â rhuthro ysgrifennu CV - darllenwch drwyddo sawl gwaith a gwnewch yn siŵr nad oes unrhyw wallau sillafu.
- Peidio â chael eich temtio i ddweud celwydd ar CV - nid yw byth yn werth ei wneud./li>
Hyd yn oed os nad yw’r cyflogwr yn gofyn am CV, mae bob amser yn ddefnyddiol i berson ifanc baratoi fersiwn cyfoes mae’n gallu ei ddefnyddio’n sail i unrhyw geisiadau am swydd ar-lein.
Mae gan Gyrfa Cymru teclyn adeiladu CV a thempledi i helpu pobl ifanc i lunio eu CV.
Mynd am gyfweliad swydd
Diben CV yn y pen draw yw cael cyfweliad am swydd – a chael y swydd, gobeithio.
Ni waeth pa mor dda mae CV, ychydig iawn o gyflogwyr fydd yn cymryd rhywun ymlaen heb gwrdd â nhw yn gyntaf. Mae cyfweliadau yn gallu amrywio’n aruthrol o ran fformat, gyda rhai’n anffurfiol iawn ac eraill yn cynnwys sawl cam, rhyngweithio mewn grŵp a chyfweliadau panel.
Mae’n naturiol i berson ifanc deimlo’n nerfus cyn cyfweliad swydd; ond bydd paratoi’n dda - a rhagweld rhai o’r cwestiynau - yn ei helpu i deimlo’n fwy hyderus ar y diwrnod.
Ymhlith y pethau sy’n bwysig cyn ac yn ystod cyfweliad mae:
- Ymchwil – dysgwch dipyn am y cwmni, y swydd sy’n cael ei hysbysebu a’r diwydiant yn gyffredinol.
- Bod yn ymwybodol y bydd rhai recriwtwyr yn gwirio cyfrifon cyfryngau cymdeithasol ymgeiswyr – atgoffwch y person ifanc i ddefnyddio gosodiadau preifatrwydd ac i fod yn ofalus am beth mae’n ei bostio a/neu’n cael ei dagio ynddo.
- Gwisgo’n briodol – dillad smart, esgidiau glân, gwallt taclus, dim gyddfa isel, ac ati.
- Canolbwyntio ar yr hyn gallant ei wneud dros y cwmni – nid i’r gwrthwyneb.
- Paratoi cwestiynau ymlaen llaw – mae’n dangos bod gennych ddiddordeb yn y cwmni.
- Gwneud digon o gyswllt llygaid ond peidio â bod yn or-hyderus.
- Peidio ag ymddangos petai’ch holl sylw ar y tâl, yr oriau a’r buddion.
Mae gan Ymddiriedolaeth y Tywysog (Saesneg yn unig) gynghorion cyfweliadau i bobl ifanc.
Mae gan Gyrfa Cymru fwy o awgrymiadau am beth i’w wneud – a pheidio â’i wneud – mewn cyfweliadau.