O dan y gyfraith gall person ifanc adael yr ysgol ar ddydd Gwener olaf Mehefin, ar yr amod y bydd yn 16 oed erbyn diwedd gwyliau haf y flwyddyn ysgol honno.
Nid oes rhaid i bobl ifanc sydd dros oedran ysgol orfodol barhau gydag unrhyw fath o astudio; serch hynny, mae’r mwyafrif yn cydnabod pwysigrwydd cymryd rhan mewn addysg bellach neu hyfforddiant ac yn cael eu hannog i barhau felly.
Bydd llawer o bobl ifanc yn dewis parhau â’u hastudiaethau academaidd, naill ai yn yr ysgol neu mewn coleg. Efallai bydd mwy o ddiddordeb gan eraill mewn dilyn addysg a hyfforddiant galwedigaethol, naill ai i’w paratoi am y gweithle neu i’w helpu i symud ymlaen i addysg uwch.
Mae rhai pobl ifanc yn dewis ymuno â byd gwaith yn syth o’r ysgol, gan ddechrau prentisiaeth yn aml sy’n cyfuno ennill cyflog a dysgu sgiliau sy’n benodol i’r swydd yn y gweithle ac ennill cymwysterau galwedigaethol perthnasol.
Addysg ôl-16
Mae’r term ‘addysg ôl-16’ yn cael ei ddefnyddio’n gyffredinol i ddisgrifio’r ‘addysg bellach’ sy’n llenwi’r bwlch rhwng addysg orfodol (sydd fel arfer yn cael ei darparu mewn ysgolion) ac addysg uwch (sydd fel arfer yn cael ei darparu gan brifysgolion).
Mae addysg ôl-16 yn cwmpasu gwahanol fathau o addysg a hyfforddiant, gan gynnwys:
Y Lwfans Cynhaliaeth Addysg
Lwfans wythnosol o £30 yw’r Lwfans Cynhaliaeth Addysg i helpu pobl 16 i 18 oed gyda chost parhau mewn addysg ar ôl oedran gadael yr ysgol.
Mae prawf modd ar gyfer y Lwfans sy’n seiliedig ar incwm yr aelwyd ond nid yw’n effeithio ar fudd-daliadau eraill.
Mae Llyfr Bach LCA yn dweud popeth sydd angen i chi ei wybod am y lwfans hwn.
Gyrfa Cymru
Mae rhai pobl ifanc yn gwybod yn union pa yrfa neu swydd maent eisiau ei gwneud a pha gamau i’w cymryd i wireddu eu huchelgais.
Ond bydd y mwyafrif yn llai sicr am eu nodau ar gyfer y dyfodol a bydd sgwrs â chynghorydd gyrfaoedd, naill ai yn yr ysgol neu yn Gyrfa Cymru, o fudd iddynt.
Chwilio am swydd
Mae chwilio am swydd yn gallu teimlo fel dipyn y frwydr i rywun ifanc heb unrhyw brofiad gwaith ac ychydig o sgiliau mae ar gyflogwyr eu hangen. Mae’n gallu bod yn anodd darganfod hyd yn oed swydd ran-amser, er bod hyn yn dod ychydig yn haws pan fyddant yn cyrraedd 18 oed.
Gwnewch yn sicr bod eu CV cystal ag y gall fod a helpwch nhw i loywi eu sgiliau cyweliad. Yn y cyfamser, mae gwirfoddoli yn gallu bod yn ffordd ardderchog o ennill profiad gwaith gwerthfawr a sgiliau bywyd pwysig eraill.
Mae Gyrfa Cymru yn rhoi llawer o gyngor am chwilio am swydd.
NEETs
Er bod y niferoedd yn lleihau, mae pobl ifanc o hyd sy’n gadael yr ysgol ac yn cael eu hunain heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).
Mae Gyrfa Cymru yn fan cychwyn da i berson ifanc nad yw’n gwybod beth i’w wneud gyda’i fywyd.
Gall unrhyw un sydd dros 16 oed, sy’n byw yng Nghymru ac nad yw mewn addysg amser llawn wneud cais am brentisiaeth a/neu cyfleoedd hyfforddi.
Ychydig o bobl ifanc sy’n gymwys i dderbyn budd-daliadau hyd yn oed pan fyddant yn NEET.