skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae mynd i mewn i fyd gwaith am y tro cyntaf yn gallu bod yn brofiad llethol, yn enwedig i rywun sydd newydd adael yr ysgol neu goleg.

Mae diweithdra ymhlith pobl ifanc wedi gostwng yn aruthrol yn y degawd diwethaf; fodd bynnag, mae argaeledd cyfleoedd gwaith teilwng yn dal i ddibynnu'n fawr iawn ar ble rydych chi'n byw yng Nghymru.

Mae addysg orfodol yn dod i ben yn 16 oed. Ar ôl hynny, mae’n gyfreithiol i berson ifanc adael yr ysgol os yw’n dymuno gwneud. Ond mae’r mwyafrif yn dewis aros yn yr ysgol neu’n symud i mewn i addysg bellach neu safleoedd hyfforddiant.

Gyda phrofiad cyfyngedig o waith ac ychydig o’r sgiliau mae’r cyflogwyr yn chwilio amdanynt, mae dod o hyd i swydd yn gallu bod yn anodd, yn enwedig i’r sawl heb sgiliau rhifedd a llythrennedd, neu nad ydynt yn gymwys ar gyfrifiadur. Mae angen sgiliau hanfodol am y mwyafrif o swyddi, felly mae’n debygol y bydd person ifanc heb sgiliau TGCh sylfaenol, sy’n cael anhawster i ddarllen neu sy’n methu cyflawni rhifyddeg syml, yn ei chael yn anodd dod o hyd i waith, heb sôn am swydd dderbyniol. 
Nid oes gan rai pobl ifanc unrhyw ddewis ond cymryd gwaith achlysurol neu dderbyn contractau dim oriau.

Mae gwirfoddoli yn ffordd wych i berson ifanc ennill profiad gwaith gwerthfawr a dysgu sgiliau trosglwyddadwy fel cyfathrebu, arwain a gweithio mewn tîm. Y peth gorau am wirfoddoli yw nad oes rhaid iddynt aros nes eu bod yn 16 oed i gymryd rhan. Mae llawer o gyfleoedd gwirfoddoli mewn cymunedau lleol, y mae llawer ohonynt yn gallu cael eu gwneud ochr yn ochr â rhieni/gofalwyr neu frodyr neu chwiorydd hŷn.

Gall unrhyw brofiad gwaith sy’n cael ei ennill fel gwirfoddolwr gael ei ychwanegu at CV person ifanc a bydd yn eu helpu i sefyll allan o’r dorf wrth wneud cais am safle hyfforddiant neu’n chwilio am swydd.

Mae prentisiaethau yn ffordd dda o gychwyn ar yr ysgol gyflogaeth. Yn hytrach na dewis rhwng astudio pellach a swydd, mae prentisiaethau yn galluogi pobl ifanc i ddechrau gweithio ac astudio am gymwysterau yn eu maes dewisol.

Mae gwahanol fathau o brentisiaethau, gyda gofynion mynediad is ar gyfer prentisiaethau sylfaen na phrentisiaethau safonol a phrentisiaethau uwch.

Gall unrhyw un sydd dros 16 oed, sy’n byw yng Nghymru ac nad yw mewn addysg amser llawn wneud cais (nid oes unrhyw derfyn oedran uchaf).

Y peth pwysicaf i bob person ifanc yw chwilio am gyngor gyrfaoedd diduedd, naill ai yn yr ysgol neu oddi wrth Gyrfa Cymru. Mae digonedd o wybodaeth ar wefan Gyrfa Cymru, gan gynnwys cwis paru swyddi a gwybodaeth am dueddiadau o ran swyddi yng Nghymru yn y dyfodol.

Diweddariad diwethaf: 22/02/2023