Mae rhai pobl ifanc yn gwybod yn union beth maent eisiau ei wneud o oedran cynnar, boed yn nyrs, yn drydanwr, yn actor neu’n yrrwr trenau. Dyna’r rhai ffodus, a bydd angen cymorth ac arweiniad ar y rhan fwyaf o bobl ifanc i wneud un o benderfyniadau pwysicaf eu bywyd.
Gyda’u bywydau gwaith yn estyn o’u blaen, mae llawer o bobl ifanc yn teimlo nad ydynt wedi eu paratoi’n dda am fyd gwaith ac nad oes ganddynt yr un syniad pa ddewis o ran gyrfa allai fod yn addas iddynt. Yn wir, mae’n debyg nad yw’r mwyafrif o bobl ifanc yn eu harddegau wedi clywed am lawer o’r swyddi a fyddai’n ddelfrydol ar eu cyfer nhw.
Erbyn hyn, ychydig o ysgolion a all sicrhau bod pob disgybl cyfnod allweddol 4 (14-16 oed) sy’n cael cyfweliad i drafod eu hopsiynau gyrfa ac mae nifer y bobl ifanc sy’n ymgymryd â lleoliadau profiad gwaith wedi lleihau’n sylweddol yn ystod y pum mlynedd diwethaf.
Ar y gorau, mae’r prinder cymorth gyrfaoedd hwn yn golygu y bydd llawer o bobl ifanc yn drifftio i mewn i gyflogaeth neu yrfaoedd sy’n anfoddhaus iddynt, sy’n methu â’u hestyn neu sy’n adlewyrchu eu rhywedd. Heb ddyheadau neu gynllun gyrfa, efallai y bydd eraill sy’n gadael yr ysgol yn cyrraedd sefyllfa pan nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET).
Gwneud dewisiadau
Dim ond os bydd ganddo fynediad i wybodaeth gywir a chyfredol am yr opsiynau sydd ar gael iddo y gall person ifanc wneud penderfyniad gwybodus am ei ddyfodol.
Mae hyn yn haws dweud na gwneud, nid lleiaf am fod y farchnad swyddi yn newid yn gyson. Mae gyrfaoedd fel datblygu aps ffonau symudol, peiriannu roboteg a rheoli cyfryngau cymdeithasol yn gymharol ddiweddar, ac mae’n amhosibl gwybod faint fydd y farchnad swyddi wedi newid ymhen deng mlynedd, neu hugain, neu ddeg ar hugain.
Yr ymagwedd orau yw i berson ifanc ganolbwyntio ar ei ddyfodol agosach a gofyn rhai cwestiynau syml i’w hunain. Er enghraifft:
- Beth yw fy niddordebau? Nid oes rhaid i hyn fod yn bwnc academaidd – gallai fod yn wleidyddiaeth, neu chwaraeon neu’r amgylchedd.
- Beth ydw i’n ei wneud yn dda? Unwaith eto, efallai eu bod yn dda mewn mathemateg, ond efallai eu bod hefyd yn anhygoel wrth wneud i bobl deimlo’n esmwyth neu ddatblygu meddalwedd.
- Faint o astudio bydd angen ei wneud? Mae rhai gyrfaoedd yn golygu mwy o astudio nag eraill, hyd at lefel PhD o bryd i’w gilydd.
- Pe amgylchedd gwaith ydw i ei eisiau? Bydd pobl sy’n mwynhau’r awyr agored yn casáu’r syniad o gael eu seilio mewn swyddfa, tra bod pobl eraill yn mwynhau gyrru o gwmpas a chwrdd â phobl.
- Ydw i eisiau gweithio gyda phobl eraill? A fyddai’n well ganddynt weithio mewn tîm bach, gyda’r cyhoedd neu a ydynt yn hapus i weithio ar eu pen eu hun?
- Ble ydw i eisiau byw? Yn dibynnu ar y diwydiant, efallai na fydd ganddynt unrhyw ddewis ond i deithio neu adleoli ar gyfer gwaith.
Er ei bod yn bwysig bod yn onest ac yn realistig, byddwch yn galonogol am ddyheadau person ifanc bob tro a pheidiwch â diystyru dim nes eich bod wedi gwneud eich ymchwil gyda’ch gilydd.
Gyrfa Cymru
Mae gan Gyrfa Cymru lawer o wybodaeth ar ei wefan i helpu pobl ifanc i ddeall yr ystod lawn o opsiynau sydd ar gael iddynt ar ôl 16 oed.
Mae gan Fy Nyfodol wybodaeth a gemau i helpu pobl ifanc i feddwl am eu dyfodol ym myd gwaith.
Mae’r cwis paru swyddi yn fan cychwyn da arall gan ei fod yn helpu pobl ifanc i baru eu sgiliau a’u diddordebau â gwahanol swyddi ac yn esbonio pa hyfforddiant, cymwysterau a sgiliau y bydd arnynt eu hangen i wireddu eu huchelgais.
Mae’r farchnad swyddi yn cymryd cipolwg ar ranbarthau Cymru i weld pa ddiwydiannau sy’n tyfu ym mhob un a pha rai sy’n debygol o ddod â mwy o swyddi i’r economi. Mae gwybodaeth hefyd am dwf swyddi posibl mewn sectorau penodol fel y gwyddorau, ynni a’r amgylchedd, diwydiannau creadigol ac adeiladu.
Mae Gyrfa Cymru yn cynnig arweiniad diduedd i bobl ifanc sy’n ansicr beth i’w wneud pan fyddant yn gadael yr ysgol.
Os bydd person ifanc yn ffonio ar ffôn symudol, byddant yn ffonio’n ôl am ddim. Ffoniwch: 0800 028 4844 yn ystod oriau swyddfa.
Mae negeseua gwib ar gael hefyd yn ystod oriau swyddfa.
Mwy o wybodaeth
Mae Ymddiriedolaeth y Tywysog (Saesneg yn unig) yn helpu pobl ifanc hyd at 30 oed i ddatgloi eu potensial, dod o hyd i swydd neu gael lle mewn addysg a hyfforddiant.