Mewn llawer o ffyrdd, mae’n haws chwilio am waith nawr nag erioed – mae’r rhyngrwyd yn golygu nad oes rhaid i chi hyd yn oed gadael y tŷ i chwilio am gyflogaeth yn unman yn y Deyrnas Unedig, hyd yn oed tramor.
Mae’n dal i fod yn anodd dod o hyd i swyddi mewn rhai rhannau o Gymru, fodd bynnag, ac efallai y byddai tipyn o help o gymorth i chi, yn arbennig os ydych chi’n ceisio mynd yn ôl i waith ar ôl cyfnod o ddiweithdra.
Cychwyn chwilio am waith
Mae gan bob dinas yng Nghymru a’r rhan fwyaf o drefi mawr swyddfa Canolfan Byd Gwaith, lle gallwch chi gael cymorth ychwanegol i chwilio am waith, gan gynnwys ysgrifennu’ch CV ac ymarfer cyfweliadau.
Mae Paru Swyddi Cynhwysol (Saesneg yn unig) yn gadael i chi chwilio miloedd o swyddi ledled y Deyrnas Unedig. Nid oes rhaid i chi gofrestru ond os gwnewch chi, gallwch chi bostio’ch CV, cael help gyda llythyrau cyflwyno a chael eich paru i swyddi sy’n addas i’ch cymwysterau, sgiliau a buddiannau chi. Rhaid i chi fod wedi cofrestru i wneud cais am swyddi.
Mae swyddfeydd ar y stryd fawr gan alwer o asiantaethau recriwtio lle gallwch chi alw heibio am gyngor. Mae rhai’n delio â diwydiannau, proffesiynau neu sgiliau penodol, er enghraifft gweithwyr TG proffesiynol, athrawon, gweithwyr iechyd a gofal, staff swyddfa, arlwyo, ac yn y blaen. Cofiwch, mae asiantaethau yn annog ymgeiswyr i gofrestru gyda nhw’n aml hyd yn oed pan nad oes swydd wag addas ar y funud, felly cariwch ymlaen i chwilio mewn mannau eraill.
Mae llawer o gylchgronau masnach a phapurau newydd yn dangos hysbysebion recriwtio arbenigol.
Swyddi lleol gyda chyflogwyr bach
Cofiwch nad yw pob swydd yn cael ei hysbysebu’n eang felly holwch yn lleol. Yn aml bydd siopau, tafarnau a ffatrioedd anibynnol yn gosod hysbysebion yn eu ffenestri felly cadwch eich llygaid ar agor.
Cyngor gyrfaoedd
Mae Gyrfa Cymru yn cynnig arweiniad yn rhad ac am ddim am yrfaoedd a chyfleoedd hyfforddi beth bynnag eich oedran neu’ch sefyllfa.
Mae Cymru’n Gweithio yn cynnig cyngor ac arweiniad penodol i bobl gyda chyfleoedd chwilio am waith, hyfforddiant a chyllid. Ffôn: 0800 028 4844 neu cysylltwch â chynghorydd ar-lein.
Cynlluniau cyflogaeth y Llywodraeth
I rai dan 25 oed, mae’r Warant i Bobl Ifanc yn cynnig cymorth i fynd yn ôl i addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu ddod yn hunangyflogedig.
Mae Twf Swyddi Cymru yn rhoi’r sgiliau, y cymwysterau a’r profiad sydd eu hangen ar bobl ifanc rhwng 16 a 18 oed i gael swydd neu hyfforddiant pellach.
Mae digon o gyngor manwl a chyfredol ar gyflogaeth a hyfforddiant ar Cymru’n Gweithio a gwybodaeth am fudd-daliadau cysylltiedig â gwaith ar www.gov.uk. (Saesneg yn unig).
Chwilio am waith pan fyddwch chi’n anabl
Mae gan Gov.uk (Saesneg yn unig) gyngor a gwybodaeth am gymorth sydd ar gael i helpu pobl sydd ag anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor i ddod o hyd y gyflogaeth. Mae’ch Canolfan Gwaith leol yn gallu’ch helpu i ddod o hyd i swydd neu ennill sgiliau newydd a dweud wrthych chi am gyflogwyr sy’n ystyriol o bobl anabl yn eich ardal chi. Dewch o hyd i’ch Canolfan Byd Gwaith leol.
Mae’n berffaith bosibl gwneud prentisiaeth ag anabledd. I gael gwybod mwy ewch i llyw.cymru
Os ydych chi’n anabl neu os oes gennych chi gyflwr iechyd corfforol neu feddyliol sy’n ei gwneud yn anodd i chi wneud eich swydd, gallwch chi:
- siarad â’ch cyflogwr am newidiadau mae’n rhaid iddyn nhw eu gwneud yn eich gweithle
- cael cymorth ychwanegol gan Fynediad i Waith (Saesneg yn unig), gan gynnwys cefnogaeth iechyd meddwl
Mae’n rhaid i’ch cyflogwr wneud rhai newidiadau penodol (sy’n cael eu galw’n ‘addasiadau rhesymol’) i wneud yn siŵr nad ydych chi dan anfantais sylweddol wrth wneud eich swydd. Gallai’r rhain gynnwys newid eich oriau gweithio neu ddarparu offer i’ch helpu i wneud eich swydd.
Dylech chi siarad â’ch cyflogwr am addasiadau rhesymol (Saesneg yn unig) cyn i chi wneud cais am Fynediad i Waith.
Cyn-filwyr
Mae'r RFEA (Saesneg yn unig) a Hire a Hero (Saesneg yn unig) yn hysbysebu swyddi lle mae’r cyflogwyr yn bwriadu’n benodol cyflogi cyn bersonél y Lluoedd Arfog. Maen nhw hefyd yn gallu helpu gyda chyngor am yrfaoedd a syniadau am lunio CV a chwilio am swyddi.
Gweithwyr hŷn
Mae Age Cymru (Saesneg yn unig) yn cynnig cyngor i bobl hŷn sy’n chwilio am swydd, gan gynnwys diweddaru’ch CV, newid gyrfa a defnyddio asiantaethau cyflogaeth.
Gwahaniaethu
Mae’n anghyfreithlon i gyflogwr wahaniaethu yn eich erbyn oherwydd anabledd, oedran neu am eich bod chi’n gofalu am rywun. Mae hyn yn cynnwys gwahaniaethu’n anuniongyrchol, er enghraifft, mynnu cyfweld â chi mewn ystafell i fyny grisiau a chithau’n ddefnyddiwr cadair olwyn ac nid oes unrhyw lifft.
Cofiwch, ni all darpar gyflogwyr holi am eich iechyd neu anabledd oni bai:
- bod gan y swydd rai gofynion angenrheidiol na fyddai modd eu bodloni drwy addasiadau rhesymol
- eu bod yn holi er mwyn trefnu i’ch helpu mewn cyfweliad (neu broses ddethol)
- ei bod yn fwriad ganddynt recriwtio rhywun anabl
Am fwy o wybodaeth am eich hawliau, ewch i www.gov.uk (Saesneg yn unig)
Hefyd mae gan wefan Cyngor ar Bopeth adran dda am Wahaniaethu ar Sail Anabledd.
Os credwch eich bod yn dioddef gwahaniaethu oherwydd eich oedran, eich iechyd neu’ch anabledd, neu am fod gennych chi gyfrifoldebau gofalu, cysylltwch ag ACAS (Saesneg yn unig) am gyngor.