skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Roedd yna adeg pan oedd y mwyafrif o bobl yn disgwyl i’w hastudiaethau ddod i ben yn 16, 18 neu’n 21 oed (os aethoch chi i’r brifysgol) ac i unrhyw fath o gyflogaeth ddod i ben wrth iddyn nhw ymddeol. 

Yn ffodus, nid yw pethau mor anhyblyg â hynny erbyn hyn ac nid oes dim i’ch atal chi rhag gweithio neu ddysgu nes eich bod chi’n 100 oed os dyna’ch dymuniad chi.

Os ydych chi’n ofalwr sy’n darparu gofal di-dâl i aelod o’ch teulu neu ffrind, cofiwch fod gennych chi’r hawl gyfreithiol i ddychwelyd i’r gwaith (neu gario ymlaen i weithio) os ydych chi am wneud hynny.

Mae llawer o bobl yn ysu am ymddeol, dim ond i ddarganfod eu bod yn colli’r drefn reolaidd a’r cwmni sy’n dod gyda gwaith amser llawn. Os ydy hynny’n swnio fel chi, ydych chi wedi meddwl am weithio’n rhan amser neu wirfoddoli?

Efallai eich bod chi’n meddwl am ddychwelyd i ddysgu, o bosib i wella’ch rhagolygon gwaith neu’n syml am eich bod wedi ymddiddori mewn pwnc erioed. Mae llawer o bobl hŷn na chawsan nhw erioed y cyfle i gael addysg pan oedden nhw’n iau – efallai ei bod hi’n bryd unioni hynny a dangos i’r byd beth allwch chi ei wneud!

P’un ai paentio dyfrliwiau neu gwrs Eidaleg, TGAU a Safonau A, neu gymhwyster Meistr Gweinyddu Busnes sy’n mynd â’ch pryd, mae hen ddigon yn cael ei gynnig.

Mae llawer o ddulliau o ddysgu, gan gynnwys mynychu canolfannau addysg cymunedol a phrifysgolion, dysgu o bell a chyrsiau dros y rhyngrwyd. Cysylltwch â’ch llyfrgell lleol, Gyrfa Cymru neu brifysgol (Saesneg yn unig) i gael gwybod rhagor.

Os nad ydych chi'n gwybod ble i ddechrau, gallech chi gofrestru ar gyfer cyrsiau ar-lein am ddim ar wefannau fel Future Learn (Saesneg yn unig), Alison (Saesneg yn unig) a Memrise (Saesneg yn unig).

Efallai bod ennill gradd yn ymddangos yn ddrud, ond mae grantiau a benthyciadau ar gael. Ewch i Cyllid Myfyrwyr Cymru i gael gweld pa gymorth ariannol sydd ar gael.

Diweddariad diwethaf: 05/04/2023