Efallai bod addysg orfodol yn dod i ben pan fyddwch chi’n gadael yr ysgol, coleg neu’r brifysgol, ond does dim rheswm i beidio â chario ymlaen i ddysgu drwy gydol eich bywyd.
Mae pobl yn dewis dychwelyd i addysg beth bynnag eu hoedran, ac mae llawer yn dysgu sgiliau newydd neu’n ennill graddau yn eu blynyddoedd hwyrach.
Addysg bellach
Addysg bellach yw’r enw ar addysg o dan lefel gradd sy’n digwydd ar ôl gadael addysg orfodol. Mae’n gallu cynnwys cyrsiau galwedigaethol, prentisiaethau, Cymwysterau Galwedigaethol Cenedlaethol a safonau A.
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â gwefan eich cyngor lleol neu ewch i Gyrfa Cymru.
Addysg uwch
Mae addysg uwch yn disgrifio dysgu sy’n arwain at radd gyntaf, gradd meistr, PhD neu gymhwyster proffesiynol. Mae’n cynnwys modiwlau Datblygiad Proffesiynol Parhaus ar gyfer y sawl sy’n gweithio’n barod. Mae graddau a graddau uwch yn cael eu dyfarnu gan brifysgolion, y mae’r mwyafrif ohonynt yn cynnig dysgu o bell a dysgu ar-lein erbyn hyn.
Mae’r Complete University Guide (Saesneg yn unig) yn rhoi gwybodaeth am gyrsiau a ffioedd dysgu prifysgolion y DU, gan gynnwys cyrsiau o bell a chyrsiau ar-lein.
Os ydych chi’n fyfyriwr Cymreig sy’n astudio yn y DU, rydych yn gymwys i dderbyn grant ffioedd dysgu sy’n golygu y byddwch chi ond yn talu £3,810 o ffi flynyddol y brifysgol o £9,000 ar gyfer cwrs gradd amser llawn (Medi 2015). Mae benthyciadau ffioedd dysgu ar gael. Mae rhai graddau yn cael eu hariannu gan y GIG, e.e. nyrsio, radiograffeg, ac ati ac mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn dyfarnu nifer cyfyngedig o fwrsarïau am raddau gwaith cymdeithasol a graddau Meistr.
Hefyd gallwch chi fenthyg arian i helpu gyda chostau byw – sy’n cael ei alw’n fenthyciad cynhaliaeth. Mae faint gallwch chi ei fenthyg yn dibynnu ar incwm eich aelwyd. Yn ddibynnol ar incwm eich aelwyd, efallai y byddwch hefyd yn gallu gwneud cais am grant dysgu Llywodraeth Cymru.
Am fwy o wybodaeth, gan gynnwys pa gymorth ychwanegol sydd ar gael i fyfyrwyr anabl, ewch i Cyllid Myfyrwyr Cymru.
Addysg gymunedol
Mae addysg gymunedol fel arfer yn digwydd mewn lleoliadau fel ysgolion a chanolfannau cymuned. Mae cyrsiau yn amrywio o TGAU, cymwysterau busnes/TG ac ieithoedd i bynciau anacademaidd fel crefft siwgr, gwniadwaith, celf a chyfrifiaduron am hwyl. Cysylltwch â’ch cyngor lleol am fwy o fanylion.
Mae Prifysgol y Drydedd Oes (U3A) (Saesneg yn unig) yn cynnig cyfleoedd addysgol, creadigol a hamdden i bobl hŷn. Mae grwpiau lleol ledled Cymru.
Ffoniwch: 020 8466 6139.
Dysgu o bell a chyrsiau ar-lein
Os ydych chi’n dymuno dysgu heb fynd yn ôl i’r coleg – efallai am fod gennych chi gyfrifoldebau gofalu, anabledd neu yn byw mewn ardal wledig – efallai y byddai’n well gennych chi astudio gartref. Ewch i Gyrfa Cymru i ddysgu a fyddai dysgu o bell yn addas i chi.
Mae Future Learn (Saesneg yn unig) yn cynnig cyrsiau ar-lein byr yn rhad ac am ddim o brifysgolion ledled y byd. Mae cyrsiau’n cychwyn ar ddyddiad penodedig er mwyn annog profiad cymdeithasol ac yn nodweddiadol mae angen cymryd rhan am dair awr yr wythnos.