Mae addysg – mewn ysgol neu gartref – yn orfodol yng Nghymru o dymor yr ysgol yn dilyn pumed pen-blwydd plentyn. Yn ymarferol, mae’r mwyafrif o blant yn dechrau’r ysgol ar ddechrau tymor hydref y flwyddyn pan fyddant yn troi’n bump.
Plant dan 5
Mae gan bob plentyn hawl i addysg ran-amser sy’n cael ei hariannu o’r tymor ar ôl tymor eu trydydd pen-blwydd.
Mae Dechrau’n Deg yn cynnig amrediad o wasanaethau i helpu plant tair oed ac yn iau i gael y dechrau gorau mewn bywyd.
Bydd y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd yn rhoi cyngor i chi ar bob agwedd ar addysg y blynyddoedd cynnar.
I wneud cais am ysgolion meithrin, cynradd neu uwchradd, cysylltwch â’ch cyngor lleol.
Addysgu gartref
Fel rhiant, cewch chi ddewis addysgu’ch plentyn gartref (Saesneg yn unig) yn amser llawn neu’n rhan-asmer; ond mae’n rhaid i chi ddweud wrth eich cyngor lleol. Nid oes unrhyw ofyniad i addysgu’r Cwricwlwm Cenedlaethol na chadw oriau penodedig; serch hynny, gall yr awdurdod addysg lleol gyflwyno Gorchymyn Mynychu’r Ysgol os oes ganddynt reswm da i gredu nad ydych chi’n darparu addysg addas i’ch plentyn.
Anghenion Addysgol Arbennig (AAA)
Mae anawsterau dysgu neu anableddau corfforol/ synhwyraidd gan rai plant sy’n ei gwneud yn fwy anodd iddynt ddysgu na’r mwyafrif o blant yr un oedran.
Os credwch fod gan eich plentyn chi anghenion addysgol arbennig sydd heb eu nodi, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd, athro/athrawes neu Gydlynydd Anghenion Arbennig (SENCO) eu hysgol. Weithiau, efallai mai ysgol eich plentyn fydd yn nodi ei anghenion dysgu ychwanegol.
Mae gennych hawl i fynnu bod eich plentyn yn aros mewn ysgol brif-ffrwd oni bai y byddai addysg disgyblion eraill yn dioddef (Deddf AAA a Gwahaniaethu ar Sail Anabledd, 2001).
Mae Cyswllt Teulu (Saesneg yn unig) yn cyhoeddi arweiniad cynhwysfawr i deuluoedd o’r enw Anghenion Addysgol Arbennig – Cymru. Ffoniwch: 0808 808 3555.
Mae Snap Cymru yn cynnig cyngor i rieni mewn perthynas ag anghenion addysgol arbennig eu plentyn. Ffoniwch: 0808 801 0608.
Ysgolion arbennig
Mae ysgolion arbennig yn benodol ar gyfer plant ag anghenion addysgol arbennig. Nid yw pob ysgol arbennig yn darparu ar gyfer pob anabledd. Am fwy o wybodaeth am ysgolion arbennig yn eich ardal chi, cysylltwch â’ch cyngor lleol neu ewch i wefan Special Needs UK (Saesneg yn unig).
Addysg drwy gyfrwng y Gymraeg
Mae gennych chi’r hawl i fynegi dymuniad i anfon eich plentyn at ysgol cyfrwng Cymraeg; fodd bynnag, nid yw hyn yn golygu bob tro bod gwarant lle yn yr ysgol gyntaf a ddewiswch. Nid oes rhaid i chi fod yn siaradwr Cymraeg eich hunan.
Gadael yr ysgol
Gall person ifanc adael yr ygsol yn gyfreithlon ar ddydd Gwener olaf Mehefin, ar yr amod y bydd yn 16 oed erbyn diwedd gwyliau haf y flwyddyn ysgol honno.