Mae astudiaethau di-rif wedi dangos bod llawer o fanteision i wirfoddoli i’r gwirfoddolwr yn ogystal ag i’r sawl sy’n cael eu cefnogi. Gall gwirfoddoli leihau arwahanrwydd cymdeithasol a straen meddyliol a’ch helpu i deimlo eich bod yn fwy o ran o’ch cymuned. Byddwch chi’n gwneud ffrindiau newydd, yn dysgu sgiliau newydd ac yn ennill hunan-hyder, yn ogystal â gwybod eich bod yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl, anifeiliaid a chyrff mewn angen.
Nid rhywbeth i bobl ifanc yn unig yw gwirfoddoli: mae’n gallu bod yn ffordd ragorol i bobl o bob oedran ac anabledd fynd allan a chwrdd â phobl newydd. Beth bynnag eich oedran, eich cefndir neu’ch diddordebau ̶ a faint bynnag o amser gallwch chi ei roi ̶ mae’n debyg bod rhywun sydd angen eich help.
Gwirfoddolwyr ag anghenion gofal a chymorth
Peidiwch â diystyru gwirfoddoli os oes gennych chi’ch anghenion gofal a chymorth eich hun neu os ydych chi’n edrych ar ôl rhywun ag anghenion o’r fath. Mae’n rhaid i’ch asesiad o anghenion gymryd i ystyriaeth a ydych chi’n dymuno cymryd rhan mewn unrhyw addysg, hyfforddiant neu weithgareddau hamdden, fel gwirfoddoli.
Nid yw pob cyfle gwirfoddoli yn golygu gadael eich cartref – yn aml mae angen help ar elusennau o ran gwaith papur, ateb y ffôn a chodi arian ac maen nhw’n croesawu’n arbennig y bobl hynny â sgiliau arbenigol neu broffesiynol.
Bancio amser
Os ydych chi’n meddwl am wirfoddoli, mae’n werth gofyn a yw’r elusen neu’r corff wedi cofrestru am fancio amser (Saesneg yn unig). Mae bancio amser yn cydnabod ac yn dathlu’r cyfraniad positif mae gwirfoddolwyr yn ei wneud at eu cymunedau. Mae un awr o wirfoddoli yn bancio un awr o gredyd i chi y gallwch chi ei ‘wario’ ar weithgareddau hamdden, diwylliannol a chwaraeon. Holwch a ydy’ch elusen ddewisol chi wedi ymuno â hyn eto.
Sut alla i gymryd rhan?
Mae gan Gwirfoddoli Cymru gronfa ddata ar-lein i’ch helpu i ddod o hyd i gyfleoedd gwirfoddoli yn eich ardal chi. Ffoniwch: 0800 2888 329.
Mae gan Cyngor ar Bopeth amrediad eang o rolau gwirfoddoli, gan gynnwys rolau i bobl anabl.
Mae Prime Cymru yn cysylltu darpar wirfoddolwyr 50+ oed â chyfleoedd sy’n addas i’w sgiliau a’u diddordebau. Ffoniwch: 01550 721 813.
Mae Advocacy Matters Wales (Saesneg yn unig) yn cynnig cyfleoedd gwirfoddoli i oedolion ag anableddau dysgu neu awtistiaeth, gan gynnwys gweithio yn eu swyddfa, cymryd rhan yn y newyddlen, trefnu cyfarfodydd a chyfweld â staff newydd. Ffoniwch: 02920 233733 neu 01446 724007.