Mae llawer ohonom ni fyw mewn ardal am flynyddoedd heb ddod i adnabod y bobl drws nesa’n iawn, heb sôn am gymryd rhan yn y gymuned ehangach.
Rydym yn honni ein bod ni eisiau teimlo’n rhan o’r gymuned ond didm yn gwybod ble i ddewchrau.
Cymryd rhan
Siaradwch â phobl leol. Chwiliwch am grwpiau a phrosiectau cymunedol a chynnig eich help chi. Gwnewch hi’n amlwg eich bod yn hapus i gymryd rhan mewn gweithgareddau sydd o fudd i’r gymuned gyfan.
Os ydych am ehangu’ch cylch cymdeithasol yn lleol, meddyliwch am y pethau rydych yn hoffi eu gwneud – yna darganfod pobl eraill yn yr ardal uniongyrchol sy’n mwynhau gwneud yr un peth.
Os ydych chi’n arddwr brwd dymerwch ran yn ymgyrch It’s Your Neighbourhood (Saesneg yn unig) i wneud amgylcheddau lleol yn lanach ac yn wyrddach. Os llysiau sy’n mynd â’ch bryd chi, dysgwch a oes unrhyw randiroedd gerllaw.
Mae llawer o gymunedau yn trefnu sesiynau codi sbwriel rheolaidd – os ydych chi’n methu helpu yn y gweithgaredd glanhau ei hun, cynigiwch bobi teisennau ar gyfer y gwirfoddolwyr. Efallai y byddai’n well gennych gymryd rhan mewn codi arian ar gyfer eich eglwys, ysgol neu hosbis lleol.
Dangoswch ymrwymiad i bopeth sy’n digwydd o’ch cwmpas. Cefnogwch y siopau lleol, ewch i ŵyl ysgol y pentref a chymerwch ran mewn mentrau Gwarchod Cymdogaeth a’r Online Watch Link (OWL) (Saesneg yn unig). Os oes gennych chi gredoau crefyddol, mynychwch oedfaon lleol.
Cynghorau tref a chymuned
Mae mwy na 700 o gynghorau tref a chymuned yng Nghymru, ac mae pob un wedi ymrwymo i wella ansawdd bywyd i bobl leol. Cysylltwch â’ch cyngor chi i weld sut i gymryd rhan. A hyd yn oed os nad oes cyngor cymuned yn eich ardal chi, byddwch chi efallai’n ystyried sefydlu un.
Gwirfoddoli
Os oes gennych chi amser ar eich dwylo, efallai yr ystyriwch wirfoddoli. Mae gan y Gwasanaeth Brenhinol Gwirfoddol (Saesneg yn unig) fwy na 35,000 o wirfoddolwyr sy’n helpu i gefnogi pobl hŷn i fyw yn annibynnol gartref.
Os ydych chi’n hoffi anifeiliaid, beth am ystyried gwirfoddoli gydag Ymddiriedolaeth Cinnamon (Saesneg yn unig), elusen sy’n helpu perchnogion anifeiliaid anwes i ofalu am eu hanifeiliaid pan fyddan nhw’n sâl, angen gofal ysbyty neu’n mynd i mewn i ofal preswyl.
Nid peth anodd yw bod yn aelod gweithgar o’ch cymuned os ydych chi’n fodlon cymryd y cam cyntaf ac yn fodlon ymwneud â phobl leol a phrosiectau cymunedol.