Un o’r ffyrdd mwyaf pleserus o gymdeithasu a gwneud ffrindiau newydd yw ymuno â grŵp neu glwb.
Os ydych chi’n byw mewn dinas neu dref fawr mae’n debyg y bydd gennych chi ddigonedd o ddewis; mewn ardaloedd gwledig, mae’n debyg y bydd llai o opsiynau felly efallai y bydd yn rhaid i chi gamu tu allan i’ch parth cysur a rhoi cynnig ar rywbeth newydd.
Mae rhai clybiau’n darparu ar gyfer pawb, tra bod eraill wedi eu hanelu at ddiddordebau arbennig, e.e. grwpiau ysgrifennu a cherdded. Hefyd mae grwpiau y mae gan eu haelodau eu hoedran, anabledd neu anhwylder hirdymor yn gyffredin.
Grwpiau cymorth
Mae clybiau cinio yn ffordd dda o gwrdd â phobl sy’n byw yn eich ardal chi ac mae’r mwyafrif yn cwrdd o leiaf unwaith yr wythnos.
Mae llawer o elusennau cenedlaethol yn trefnu gweithgareddau cymdeithasol lle bydd unigolion a’u teuluoedd yn gallu dod ynghyd, e.e. mae gan Parkinson’s UK grwpiau cymorth (Saesneg yn unig) ledled Cymru.
Os ydych chi’n edrych ar ôl rhywun, efallai y bydd diddordeb gennych chi mewn ymuno â grŵp cymorth gofalwyr (Saesneg yn unig).
Mae gan Y Lleng Brydeinig (Saesneg yn unig) glybiau ledled Cymru ac nid oes unrhyw ofynion i aelodau fod yn bersonel y Lluoedd Arfog sy’n gwasanaethu neu gyn aelodau.
Hobïau a gweithgareddau
Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn fwy gweithgar, efallai ei bod hi’n werth ystyried clybiau sy’n gysylltiedig â gweithgareddau dan do neu awyr agored, e.e. clwb bowlio neu denis.
Os ydy’r celfyddydau a diwylliant yn fwy diddorol i chi, gallech chi ystyried ymuno â chylch drama (Saesneg yn unig) neu gylch ysgrifennu (holwch yn eich llyfrgell leol). Mae’r Reader Organisation (Saesneg yn unig) wedi sefydlu grwpiau darllen dwyieithog ar draws Gogledd Cymru.
Os ydych chi’n mwynhau crefftau fel paentio, gwniadwaith neu durnio coed, beth am ddarganfod a oes grŵp sy’n cwrdd yn eich ardal chi? Dylai’ch canolfan addysg oedolion neu gymunedol leol allu dweud wrthych chi.
Mae gan Brifysgol y Drydedd Oes (Saesneg yn unig) bron 60 o grwpiau ledled Cymru sy’n cynnig llawer o gyfleoedd cymdeithasol, hamdden a dysgu i bobl sydd wedi ymddeol neu’r sawl nad ydynt yn gweithio amser llawn bellach. Mae’r gweithgareddau yn amrywio rhwng grwpiau ond yn cwmpasu gwerthfawrogi’r celfyddydau, ieithoedd, garddio, cerdded, ffotograffiaeth, ysgrifennu creadigol, clytwaith a chwiltio, cerddoriaeth a chyfrifiadura. Nid oes unrhyw derfyn oedran isaf ond ni ddylai aelodau fod mewn cyflogaeth amser llawn.
Os oes gennych chi amser ar eich dwylo, efallai yr hoffech chi ystyried gwirfoddoli? Mae llawer o elusennau a chyrff a fyddai’n eich croesawu’n wresog.
Mae Rotary Rhyngwladol (Saesneg yn unig), y Ford Gron (Saesneg yn unig), Sgowtiaid, Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol (Saesneg yn unig) a’r Women’s Institute (Saesneg yn unig) bob amser yn chwilio am aelodau newydd i gefnogi eu gweithgareddau cymunedol.