skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Mae ffrindiau’n rhanbwysig o fywydau’r mwyafrif o bobl ond dros y blynyddoedd mae’n hawdd colli cysylltiad â nhw.

Efallai bod eich ffridniau wedi symud i ffwrdd – neu efallai chi sydd wedi symud. Mae pobl yn colli cysylltiad weithiau am fod eu hamser yn cael ei lyncu gan waith ac ymrwymiadau teuluol.

Os ydych chi wedi arfer â chwrdd â phobl tu allan i’ch cartref, mae’n bosib i gyfnod afiechyd hir neu anaf eich arwain i deimlo’n unig ac yn ynysig. Hyd yn oed os ydych chi’n brysur yn ystod yr wythnos, efallai eich bod yn ei chael hi’n anodd gyda’r penwythnos.

Mae’n bwysig cofio nad oes rhaid i chi deimlo eich bod ar eich pen eich hun. Mae llawer o bethau y gallwch eu gwneud i ddod â chi i gysylltiad â phobl eraill   ̶  a’ch galluogi chi i wneud ffrindiau newydd.

Os gallwch chi fynd allan ac o gwmpas, beth am ystyried gwirfoddoli? Nid siopau elusen yn unig sydd angen help, mae cyfleoedd gwirfoddoli mewn swyddfeydd, llyfrgelloedd, ysgolion, ar brosiectau awyr agored a hyd yn oed tramor. Os ydych wedi ymddeol, beth am wneud defnydd da o’ch sgiliau a’ch profiad a gwneud ffrindiau newydd ar yr un pryd?

Efallai bod gennych chi hobïau neu ddiddordebau – neu eisiau rhoi cynnig ar rywbeth newydd – felly beth am gysylltu â grŵp neu sefydliad lleol. Bydd y rhan fwyaf yn rhoi croeso cynnes iawn i aelodau newydd.

Peidiwch â digalonni os ydych chi’n ei chael yn anos mynd allan i gwrdd â phobl. Mae gan lawer o elusennau gynlluniau cyfeillio lle bydd rhywun yn dod i ymweld â chi’n rheolaidd, a bydd eraill yn trefnu i rywun eich ffonio chi’n rheolaidd.

Mae technoleg a defnydd helaeth cyfrifiaduron a dyfeisiau symudol yn golygu y gallwch chi wneud ffrindiau newydd erbyn hyn drwy wasgu botwm (er y dylech chi fod yn ymwybodol nad yw pawb pwy maent yn honni bod). Mae grwpiau Facebook, ystafelloedd sgwrsio a fforymau ar gyfer pob grŵp diddordeb dan haul ac erbyn hyn mae’r mwyafrif o elusennau cenedlaethol yn cynnal fforymau ar-lein ar eu gwefannau.

Mae’n braf cael ffrindiau – ac mewn gwirionedd nid yw mor anodd gwneud rhai newydd ag y byddech chi’n meddwl.

Diweddariad diwethaf: 29/03/2023