Does dim byd fel newid golygfa i godi’ch hwyliau.
Wrth gwrs, nid oes rhaid i hynny olygu taith hir, na hyd yn oed aros oddi cartref dros nos; efallai y penderfynwch chi neidio i mewn i’r car neu ddal bws i ymweld ag atyniad, dinas neu lecyn prydferth cyfagos.
Efallai y byddai’n well gennych chi deithio ymhellach i ffwrdd a mwynhau seibiant hwy, wythnos o wyliau yn y Deyrnas Unedig neu dramor o bosib.
Os ydych chi’n darparu gofal di-dâl i aelod o’ch teulu neu ffrind mae’n bosibl y bydd arnoch chi angen tipyn o amser i ffwrdd o ofalu ar ffurf seibiant byr.
Ar ôl i chi benderfynu beth rydych chi am ei wneud, mae’n bryd meddwl am sut i gyrraedd yno ac a fydd angen tipyn o gymorth arnoch chi.
Os gallwch chi yrru, os oes gennych chi rywun arall i’ch gyrru neu rydych chi ar lwybr bysiau, mae’n bosib y bydd hynny’n beth syml. Os ydych chi’n derbyn rhai budd-daliadau penodol, efallai eich bod chi’n gymwys am y Cynllun Symudedd (Saesneg yn unig). Yn dibynnu ar eich budd-daliadau neu’ch symudedd efallai bod gennych chi hawl i Fathodyn Glas (Saesneg yn unig) hefyd.
Os nad yw’ch cyrchfan chi’n bell i ffwrdd, byddwch o bosib yn penderfynu cerdded, defnyddio cadair olwyn neu sgwter symudedd neu i ddal tacsi.
Yn dibynnu ble rydych chi’n mynd, efallai y byddwch yn gallu archebu cludiant cymunedol. Bydd Dewch o hyd i’m darparwr cludiant cymunedol lleol (Saesneg yn unig) yn eich helpu i wybod pa gludiant cymunedol sydd ar gael yn eich ardal chi.
Os ydych chi’n berson hŷn neu anabl ac yn teithio ar goets, trên neu awyren, gallwch chi ofyn am gymorth i’ch helpu ar eich taith, e.e. cymorth ychwanegol yn yr orsaf neu faes awyr. Bydd angen i chi drefnu hyn ymlaen llaw.
Erbyn hyn mae llawer o gwmnïau gwyliau a gwestai yn darparu ar gyfer pobl hŷn ac anabl felly mae’n werth treulio’r amser i ddysgu pa gyrchfan a/neu lety fydd yn gweddu orau i’ch anghenion chi cyn i chi neilltuo’ch lle.
Teithio’n rhad ac am ddim ar fysiau
Cofiwch, os ydych chi’n byw yng Nghymru a thros eich 60 oed neu’n anabl, gallwch chi deithio’n rhad ac am ddim ar fysiau lleol ar unrhyw adeg y dydd. Mae personel y lluoedd arfog sydd wedi eu hanafu neu gyn-filwyr sydd wedi eu hanafu sy’n derbyn rhai dyfarniafau iawndal penodol yn gymwys hefyd. I wneud cais am eich cerdyn teithio am ddim, cysylltwch â’ch cyngor lleol.
Mae pobl anabl yn gallu gwneud cais am gerdyn cydymaith am ddim hefyd i’w ddefnyddio pan fydd angen cymorth arnyn nhw i deithio.
Mwy o wybodaeth
P’un a ydych yn teithio ar fws, coets neu feic, gall Trafnidiaeth Cymru eich helpu i gynllunio’ch taith a gwneud yn siŵr ei bod mor llyfn a phleserus â phosibl.
Mae Euan's Guide (Saesneg yn unig) yn rhannu gwybodaeth am fannau hygyrch i fynd ar draws y DU.