Mae costau tai wedi codi’n aruthrol yn y blynyddoedd diwethaf, gyda rhenti’n codi ar garlam a chyfraddau llog morgeisi yn mynd i fyny mis ar ôl mis.
Os ydych chi’n cael anhawster yn talu’ch rhent neu’ch morgais, mae’n bwysig gofyn am gyngor am dai cyn i bethau fynd yn rhy ddrwg a chithau’n cael eich bygwth â digartrefedd.
Yn dibynnu ar eich amgylchiadau, mae’n bosibl y gallwch chi gael ychydig o help gyda’ch costau tai.
Credyd Cynhwysol
Gallwch chi wneud cais am Gredyd Cynhwysol i helpu i dalu’ch costau tai p’un a ydych chi’n ddi-waith neu’n gweithio, yn rhentu neu’n prynu’ch cartref eich hun. Mae’r swm a gewch chi’n dibynnu ar:
- eich incwm
- eich cynilion a ddylai fod islaw lefel benodol
- eich amgylchiadau unigol
I gael gwybod mwy, ewch i gov.uk
D.S. Does dim hawl awtomatig i elfen tai y Credyd Cynhwysol i bobl ifanc rhwng 18 ac 21 oed – mae’n rhaid i chi fodloni rheolau arbennig (Saesneg yn unig).
Am fwy o wybodaeth am sut mae Credyd Cynhwysol yn gweithio, ewch i HelpwrArian.
Perchnogion Tai
Mae’n bosibl bod perchnogion tai sydd ar rai budd-daliadau penodol yn gallu derbyn help gyda thalu’r llog ar eu morgeisi.
I gael gwybod mwy, ewch i gov.uk (Saesneg yn unig).
Help i gadw’ch cartref yn gynnes
Gallwch chi gael y Taliad Tanwydd Gaeaf (Saesneg yn unig) di-dreth os ydych chi dros oedran penodol. Does dim prawf modd am y taliad.
Os ydych chi’n derbyn rhai budd-daliadau penodol ac mae’r tymheredd yn eich ardal chi’n cael ei gofnodi – neu mae’r rhagolwg yn dweud y bydd – sero gradd Celsius neu’n is am saith niwrnod yn olynol rhwng 1 Tachwedd a 31 Mawrth 31, mae’n bosibl y bydd gennych chi hawl i dderbyn Taliad Tywydd Oer (Saesneg yn unig).
Os ydych chi ar incwm isel neu’n derbyn rhai budd-daliadau penodol, mae’n bosibl y byddwch yn gallu cael cymorth gyda’ch bil trydan o dan y Cynllun Disgownt Cartref Cynnes (Saesneg yn unig) (gallwch i wneud cais am y disgownt os oes gennych chi fesurydd rhag-dalu).
Mwy o wybodaeth
Ewch i gov.uk (Saesneg yn unig) am y newyddion diweddaraf am fudd-daliadau, pwy sy’n gymwys a sut mae gwneud cais.
Mae gan Disability Rights UK (Saesneg yn unig) wybodaeth ddefnyddiol am fudd-daliadau hefyd, gan gynnwys cymorth gyda chostau tai.
Mae Entitledto.co.uk (Saesneg yn unig) yn gyfrifiannell fudd-daliadau ddefnyddiol ar-lein i’ch helpu i wirio faint allech chi ei dderbyn (D.S. Ni ddylai gael ei defnyddio i gyfrifo budd-daliadau ar gyfer preswylwyr parhaol cartrefi gofal preswyl na chartrefi nyrsio).