Mae angen cysgod a diogelwch ar bob un ohonom ni, rhywle diogel i ddianc iddo pan fydd pethau’n mynd yn anodd. Mae dod o hyd i gartref derbyniol a fforddiadwy i fyw ynddo, ac efallai magu teulu, yn dod yn fwyfwy anodd i lawer o bobl – ac efallai eich bod chi yn eu plith.
Os ydych chi’n un o’r miloedd o bobl yng Nghymru sydd heb do parhaol dros eu pennau, mae’n bwysig gwybod bod llawer o gyngor am dai ar gael i chi’n rhad ac am ddim.
Bydd cynghorau lleol – hyd yn oed y rhai nad ydynt yn berchen ar unrhyw stoc dai erbyn hyn – yn gallu cynnig cyngor i chi am dai a beth i’w wneud os ydych chi’n ddigartref neu mewn perygl o fynd yn ddigartref.
Bydd elusennau tai fel Shelter Cymru a Llamau yn cynnig cyngor arbenigol am ddim i chi am dai, beth bynnag eich sefyllfa chi o ran tai.
Efallai bod eiddo gennych chi ond nid yw’n bodloni’ch anghenion tai chi mwyach, o bosib am eich bod chi’n methu dringo grisiau neu ddringo i mewn i’r baddon.
Os ydych chi mewn sefyllfa o’r fath, efallai eich bod chi'ngymwys am grant tai i’ch helpu i wneud yr addasiadau angenrheidiol i’ch galluogi i barhau i fyw yn ddiogel ac yn annibynnol yn eich cartref presennol.
Hefyd mae grantiau tai ar gael i helpu wrth inswleiddio eiddo hŷn.
Mae cynghorau lleol hefyd yn cynnig benthyciadau di-log i berchnogion a landlordiaid cartrefi cymwys i alluogi trwsio neu wella eiddo.