skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Os ydych chi’n berson hŷn, yn anabl neu ar incwm isel, mae’n bosibl eich bod yn gymwys i dderbyn grant i’ch helpu i addasu’ch eiddo, ei drwsio a’i gynnal a chadw neu i’ch cadw’n gynned yn ystod misoedd y gaeaf. 

Bydd eich cymhwyster i dderbyn grant penodol yn dibynnu ar eich sefyllfa bresennol o ran tai, eich anghenion a’ch sefyllfa ariannol.

Grantiau am addasiadau

Efallai eich bod yn gymwys am gymorth i dalu am addasiadau bach, canolig a mawr i’ch eiddo (yn dibynnu ar eich amgylchiadau).

Grantiau i drwsio a chynnal eich eiddo

Rhwydwaith o 13 o asiantaethau ar hyd a lled Cymru yw Gofal a Thrwsio sy’n gwneud gwelliannau o dan arian grant i helpu perchentywyr oedrannus ac anabl i fyw yn ddiogel yn eu cartrefi. Nid oes unrhyw dâl yn cael ei godi ar y perchennog.

Grantiau i wresogi’ch eiddo

Os ydych chi’n poeni am gost gwresogi’ch cartref, mae grantiau gwella cartref ar gael i’ch helpu i’w wneud yn gynhesach ac arbed ynni.

Cynllun gan Lywodraeth Cymru yw Nyth sy’n bwriadu lleihau nifer y bobl sy’n byw mewn tlodi tanwydd. Mae Nest yn rhoi cyngor a chymorth am ddim i bawb am arbed ynni. Hefyd mae cymorth ariannol ar gael i berchnogion eu cartref (a phobl sy’n rhentu’n breifat) sy’n byw mewn eiddo anodd ei wresogi ac sy’n derbyn rhai budd-daliadau penodol sy’n cynnwys prawf modd.

Efallai eich bod yn gymwys i dderbyn, yn rhad ac am ddim:

  • inswleiddio llofft a waliau ceudod
  • amnewid hen fwyler ag un sy’n effeithlon o ran ynni
  • inswleiddio am silindr dŵr poeth
  • mesurau gwrth-ddrafft ar ffenestri a drysau
  • technolegau ynni adnewyddadwy.

Os yw’ch cartref chi yn anodd ei wresogi a chithau’n derbyn rhai budd-daliadau penodol, mae’n bosibl y bydd gennych chi hawl i Gymorth Grant Bwyler ECO (Saesneg yn unig).
 
Nwy heb fod ar y prif gyflenwad
 
Os ydych chi dro 70 oed neu’n derbyn rhai budd-daliadau penodol ac nid yw’ch prif breswylfan wedi ei gysylltu â’r rhwydwaith nwy ar hyn o bryd, mae’n bosibl eich bod chi’n gymwys i dderbyn Grant Cysylltu Nwy tuag at gost ei gysylltu.

Grantiau i ddechrau ailddefnyddio eiddo’n gartrefi

Mae'r Cynllun Cartrefi Gwag yn annog perchnogion i ddod ag eiddo gwag - preswyl a masnachol – yn ôl i ddefnydd (ar werth neu i'w rhentu). Mae benthyciadau llog o hyd at £25,000 fesul eiddo ar gael gyda hyd at £250,000 ar gyfer pob cais.

Mae gan Turn2Us (Saesneg yn unig) offeryn grantiau i’ch helpu i ddod o hyd i grantiau y gallech chi fod yn gymwys i’w derbyn.

Diweddariad diwethaf: 02/05/2023