Mae llawer o gyngor rhad ac am ddim ar gael am dai, gan gynnwys cyngor am wregosi’ch cartref a chael gafael ar grantiau tai.
Os ydych chi’n rhentu ar hyn o bryd neu’n dymuno rhentu, cysylltwch â’ch cyngor lleol neu gymdeithas tai i drafod eich opsiynau o ran llety.
Cyngor cyffredinol
Fel arfer mae gan gynghorau lleol swyddogion tai penodedig a all helpu gydag ystod o gwestiynau sy'n ymwneud â thai, gan gynnwys gwybodaeth i landlordiaid preifat a pherchnogion tai.
Mae Shelter Cymru a Chyngor ar Bopeth yn helpu pobl o bob oedran, gan gynnwys y sawl sydd ar ei hôl gyda’u morgais a’u taliadau rhent ac sydd gan fygythiad cael eu troi allan.
Mae Llamau (Saesneg yn unig) yn gweithio gyda phobl ifanc ddigartref a benywod hawdd eu niweidio ledled Cymru.
Cyngor am dai o bobl anabl neu bobl hŷn
Yn aml bydd elusennau mawr yn cynnig cyngor poenodol am dai i’r sawl maen nhw’n eu cefnogi. Er enghraifft, mae Hafal yn darparu gwybodaeth a chyngor i bobl ag afiechyd meddwl difrifol.
Mae Sight Advice (Saesneg yn unig), Yr RNID a SENSE (Saesneg yn unig) yn darparu cyngor am dai i bobl ag anableddau synhwyraidd a bydd Age Cymru (Saesneg yn unig) yn cynghori i bobl hŷn sy’n dechrau meddwl am ble i fyw yn y tymor hwy.
Cymdeithas tai sy’n gweithio ar draws 18 ardal awdurdodau lleol yng Nghymru yw First Choice (Saesneg yn unig) gan gefnogi tenantiaid sydd ag anabledd, cyn filwyr a phobl eraill sydd angen llety arbenigol.
Mae gan yr Elderly Accommodation Counsel (EAC) becyn ar-lein (Saesneg yn unig) defnyddiol o’r enw HOOP, sy’n annog pobl hŷn i feddwl am eu hamgylchedd byw a’u hamgylchiadau ymhell cyn i unrhyw broblemau difrifol godi.
Mae’r wefan ar gyfer defnyddwyr Which (Saesneg yn unig) yn cynnig arweiniad defnyddiol am yr opsiynau o ran tai a dewisiadau preswyl sydd ar gael i bobl oedrannus.
Cyn filwyr
Mae’r Lleng Brydeinig (Saesneg yn unig) yn cynnig cyngor am fyw yn annibynnol, cartrefi gofal a materion ariannol (gan gynnwys budd-daliadau) i gyn aelodau’r Lluoedd Arfog, eu gofalwyr a’u teuluoedd
Mae Cartrefi i Gyn-filwyr Cymru hefyd yn cynnig cyngor a chymorth ynghylch tai.