skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Os ydych chi’n dymuno gwneud cais am lety cyngor neu lety cymdeithas tai am y tro cyntaf, dylech chi roi eich enw ar restr tai yn ardal y cyngor lleol lle rydych yn dymuno byw. 

Erbyn hyn mae’r mwyafrif o ardaloedd cynghorau lleol yn gweithredu cofrestr tai cyffredin  sy’n golygu y bydd yn rhaid i chi lenwi un ffurflen gais yn unig ar gyfer y cyngor a’r holl gymdeithasau tai sydd ag eiddo yn yr ardal honno. (Sylwch: mae unarddeg o gynghorau yng Nghymru nad oes ganddyn nhw unrhyw stoc dai eu hunain.)

Yng Nghymru, yr unig bobl a all gael eu gwahardd rhag cofrestr tai cyffredin yw:

  • pobl o dramor nad ydynt yn gymwys (gwiriwch a ydych chi’n gymwys (Saesneg nyn unig))
  • rhywun y mae ei ymddygiad yn y gorffennol wedi bod mor annerbyniol y cred y cyngor ei fod yn denant cyngor neu gymdeithas tai anaddas.

Os ydych chi’n gymwys i wneud cais am dai, gallwch chi gynnwys unrhyw un a all gael eu cynnwys yn rhesymol fel rhan o’ch teulu neu aelwyd yn eich cais hyd yn oed os nad ydyn nhw’n gymwys eu hunain (a bydd eu hamgylchiadau eu hunain yn cyfrif tuag at eich gradd flaenoriaeth chi). 

Mae gan Grŵp Cartrefi Cymunedol Cymru fap rhyngweithiol hwylus sy’n rhestru’r cymdeithasau tai sydd ar waith ym mhob ardal awdurdod lleol (sgroliwch i waelod y dudalen am enwau, gwefannau a rhifau ffôn).

Yn y mwyafrif o ardaloedd, mae’r galw am dai yn uwch na’r cyflenwad felly mae system ar sail pwyntiau neu fandiau ar waith. Mae blaenoriaeth yn cael ei rhoi i bobl yn dibynnu ar eu hamgylchiadau presennol a lefel eu hangen am dai; mae hyn yn cynnwys pobl y mae arnynt angen symud am resymau meddygol.

Yr unigolion sy’n cael eu diffinio o dan y gyfraith fel rhai ag ‘angen blaenoriaethol’ am dai yng Nghymru yw:

  • benywod beichiog
  • plant dibynnol
  • rhywun sy’n hawdd eu niweidio o ganlyniad i henaint, afiechyd meddwl, nam neu anabledd corfforol (neu reswm arbennig arall)
  • rhywun sy’n ddigartref neu mewn perygl o fynd yn ddigartref o ganlyniad i lifogydd, tân neu drychineb
  • pobl ifanc 16-17 blwydd oed
  • pobl ifanc 18-21 blwydd oed sydd mewn perygl o gam-fanteisio ariannol neu rywiol
  • pobl ifanc 18-21 blwydd oed sydd wedi ymadael â gofal
  • pobl sy’n ddigartref o ganlyniad i adael carchar
  • unrhyw un sydd wedi ffoi rhag trais domestig neu fygythiad trais domestig ac sy’n hawdd eu niweidio o ganlyniad
  • chyn bersonél y Lluoedd Arfog sydd wedi bod yn ddigartref ers ymadael â’r Lluoedd.
Diweddariad diwethaf: 03/07/2018