Cael mynediad i dai addas yw un o’r prif broblemau sy’n wynebu llawer o bobl anabl a phobl hŷn.
Er nad yw’n ofyniad cyfreithiol, mae rhai awdurdodau wedi llunio cofrestri sydd:
- yn nodi pobl anabl sydd angen cartrefi hygyrch
- yn nodi eiddo addas yn ôl lleoliad a math
- yn paru’r unigolyn ag eiddo addas
Nid oes rhaid i chi fod yn byw yn yr ardal rydych chi’n dymuno cofrestru ynddi, felly cewch chi gofrestru mewn ardal rydych chi’n dymuno symud iddi. Hefyd gallwch chi gofrestru mewn mwy nag un ardal.
Gallwch chi geisio i fod ar y Gofrestr Tai Hygyrch hefyd os ydych chi’n berchen ar eich cartref eich hun.
Os ydych chi’n byw mewn ardal sydd heb Gofrestr Tai Hygyrch, cysylltwch â’ch cyngor lleol neu gymdeithas tai am gyngor.