skip to main content
Health and Wellbeing
Partner Iechyd a Llesiant Cymru

Os ydych chi’n denant y cyngor neu gymdeithas tai yn barod ac nis yw’ch eiddo yn diwallu’ch anghenion chi bellach, mae’n werth cysylltu â’ch darparwr tai a gofyn am drosglwyddiad.

Os oes gennych chi resymau meddygol am ddymuno symud, e.e. rydych chi’n methu ymdopi â’r grisiau ragor, mae’n debyg y cewch eich trin fel blaenoriaeth. Os ydych chi’n dymuno symud o gartref teuluol i lety llai o faint, e.e. fflat llawr gwaelod neu lety â chymorth, gallai hyn gyflymu pethau hefyd.

Os oes angen llety sydd wedi ei addasu’n arbennig arnoch chi am eich bod chi’n anabl neu’n oedrannus, gallwch wneud cais i’ch manylion gael eu cofnodi ar un neu fwy o Gofrestri Tai Hygyrch. Bydd hyn yn helpu i baru chi â chartrefi addas mewn gwahanol ardaloedd awdurdodau lleol.

Trefnu’ch cyfnewidiad eich hun

Os ydych am symud ar frys, byddwch chi efallai’n ystyried cyfnewid â thenant arall - gallai hyn fod yn opsiwn da os ydych chi am symud i ardal neu drefn wahanol i fod yn agosach at eich teulu neu ffrindiau.

Caniateir i denantiaid landlordiaid cymdeithasol gwahanol gyfnewid ond mae angen i chi gael caniatâd eich landlord yn gyntaf.

Gwasanaeth i’w wlad i gyd yw Homeswapper (Saesneg yn unig) ar gyfer tenantiaid sy’n dymuno cyfnewid cartrefi. Mae’n wasanaeth rhad ac am ddim a’r cyfan mae angen i chi ei wneud yw cofrestru ar-lein (Saesneg yn unig).

Mae House Swap Wales (Saesneg yn unig) yn defnyddio Facebook i ddod â darpar ‘gyfnewidwyr’ ynghyd.   

Mae gan Gumtree (Saesneg yn unig) a Swapz (Saesneg yn unig) adrannau pwrpasol am gyfnewid tai hefyd.

Diweddariad diwethaf: 20/04/2016