Mae llety â chymorth (sy’n hefyd yn cael ei alw’n ‘dai â chymorth’) yn cyfuno llety gyda gwasanaethau cymorth i’ch helpu i fyw mor annibynnol â phosibl.
Mae gwahanol fathau o lety â chymorth ar gael, yn dibynnu ar lefel eich angen am gymorth ac ai anghenion dros dro neu hirdymor, corfforol neu feddyliol, yw’ch anghenion chi.
Gall cynlluniau llety â chymorth gynnwys:
Tai a rennir
Mae rhannu cartref gyda ffrindiau yn ffordd wych o fyw yn annibynnol ar yr un pryd â chael cefnogaeth 24 awr. Mae tai a rennir yn ddelfrydol ar gyfer oedolion sydd ag anableddau dysgu neu gorfforol, neu broblem iechyd meddwl, sydd angen cymorth gyda gofal personol neu gyda gweithgareddau byw bob dydd fel coginio, glanhau a chyllidebu gan dîm cymorth lleol.
Byddwch chi fel arfer yn denant yn eich cartref eich hun a byddwch chi’n cael eich annog i gymryd rhan yn y gymuned leol.
Yn yr un modd â llety gwarchod, mae system larwm i alw am help mewn argyfwng.
Efallai ei bod yn well gan rai oedolion ag anableddau dysgu gynllun lleoliad oedolion sy’n golygu eich bod chi’n byw mewn amgylchedd teuluol.
Llety hostel
Rhywbeth mwy dros dro ei natur fel arfer yw llety hostel. Bydd gennych eich ystafell eich hun (en suite yn aml) fel arfer ond byddwch chi’n rhannu cegin a chyfleusterau eraill.
Mae hosteli unigol yn diwallu anghenion penodol. Er enghraifft, byddant efallai’n darparu cymorth i bobl ifanc hawdd eu niweidio, e.e. sy’n gadael gofal, neu fenywod sy’n ceisio lloches rhag camdriniaeth ddomestig.
Mae rhai elusennau’n cynnal hosteli i gefnogi ac adsefydlu pobl sydd wedi bod yn cam-drin alcohol neu sylweddau eraill. O dan amgylchiadau o’r fath, bydd eich arhosiad yn un dros dro fel arfer a ni fydd tenantiaeth yn cael ei chynnig i chi.
Llety gwarchod a chynlluniau gofal ychwanegol
Mae tai gwarchod a cynlluniau gofal ychwanegol ar gyfer pobl hŷn yn bennaf sy’n gallu byw yn annibynnol gyda thipyn o gefnogaeth. Weithiau mae oedolion ag anableddau dysgu yn dewis tai gwarchod fel amgylchedd diogel a chefnogol i fyw ynddo.
Mae rhai mathau o lety â chymorth yn wasanaethau a reoleiddir, sy’n golygu eu bod wedi cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac yn cael eu haroygu ganddyn nhw’n rheolaidd.