Mae’r Cynllun Byw ar y Cyd – sydd hefyd yn cael ei alw’n lleoliadau oedolion – yn ddull o gefnogi anghenion tai rhywun hawdd ei niweidio ar sail trefniadau teuluol.
Gall y math yma o lety cefnogol fod yn garreg sarn ddelfrydol ar y ffordd i fyw yn annibynnol.
Mae’r math yma o drefniant rhannu yn aml yn cael ei alw’n ‘rhannu bywydau’.
Sut mae’r cynllyn yn gweithio
Mae teulu’r cymeradwy yn rhannu eu cartref a’i fywyd teuluol â’r unigolyn sydd angen cymorth, fel arfer ar sail hirdymor.
Mae’r person yn byw gyda’r teulu fel eu tenant ac yn gallu hawlio Budd-dâl Tai i dalu am y rhent.
Mae gofal mawr yn cael ei gymryd i baru pob oedolyn sy’n cymryd rhan â theulu addas ac mae pawb yn cael ei annog i ddod i adnabod ei gilydd cyn gwneud unrhyw ymrwymiad hirdymor.
Mae anableddau dysgu gan y mwyafrif o bobl sy’n byw fel rhan o’r cynllun; ond mae’r math hwn o drefniant byw yn gallu bod yn ddelfrydol hefyd i’r sawl sy’n gadael gofal, oedolion ifanc anabl, pobl hŷn a phobl â phroblemau iechyd meddwl, anableddau corfforol neu amrediad o anableddau.
Arosiadau byr
Er bod y mwyafrif o bobl yn chwilio am rywle i fyw am y tymor hir, mae’r cynllun yn gallu cael eu defnyddio hefyd i gefnogi rhywun am ddim ond diwrnod neu ddau, neu efallai dros nos.
Mae trefniant tymor byr yn cynnig newid golygfa i’r person sydd ag anghenion cymorth, a’r cyfle i wneud ffrindiau newydd. Mae gan ofalwr arferol y person gyfle i gymryd seibiant bach o’i rôl ofalu.
Mae Cynlluniau Byw ar y Cyd yn wasanaethau sy’n cael eu rheoleiddio, sy’n golygu eu bod wedi eu cofrestru gan Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) ac yn cael eu harolygu ganddyn nhw’n rheolaidd.