Mae llety gwarchod yn ddelfrydol os ydych chi am fyw yn annibynnol gyda’ch drws ffrynt eich hun, ond hefyd mwynhau’r tawelwch meddwl sy’n dod drwy wybod bod rhywun wrth law os oes arnoch chi eu hangen.
Mae’r math yma o lety’n boblogaidd ymhlith pobl hŷn (yn nodweddiadol dros 55 neu 60 oed); ond weithiau bydd oedolion iau sydd ag anableddau dysgu ac anableddau corfforol yn cael eu cefnogi mewn llety gwarchod hefyd.
Sut mae llety gwarchod yn gweithio?
Fflatiau neu fyngalos hunan-gynhwysol yw’r eiddo fel arfer sy’n cael eu trefnu mewn cymhlyg neu wedi eu lleoli’n agos at ei gilydd. Mae gan y preswylwyr y sicrwydd bod yna system larwm ar gyfer argyfyngau a bod warden ar y safle neu oddi yno i gysylltu ag ef/hi pan fydd problem yn codi.
Yn aml bydd cyfleusterau cyffredin ar gyfer cymdeithasu, er enghraifft, lolfa a gardd. Mae rhai cynlluniau’n trefnu digwyddiadau cymdeithasol a theithiau.
Mae gan breswylwyr eu cytundebau tenantiaeth eu hun ac maent yn gyfrifol am eu biliau cyfleustodau a’u siopa eu hun ac ati.
Nid yw prydau bwyd a gwasanaethau gofal personol yn cael eu darparu fel rhan o’r drefn arferol; ond bydd gweithwyr gofal yn ymweld â phreswylwyr sydd wedi eu hasesu fel pobl ag angen gofal a chymorth gartref.
Mae’n bosibl y bydd cymorth tai yn cael ei ddarparu i denantiaid sy’n byw mewn llety gwarchod, yn dibynnu ar eu hanghenion.
Tau am lety gwarchod
Yn dibynnu ar eich incwm a’ch cynilion, efallai y bydd gennych chi hawl i dderbyn Budd-dâl Tai i helpu i dalu’r rhent.
Ond cofiwch nad yw’ch rhent yn cwmpasu cost unrhyw wasanaethau gofal personol byddwch chi o bosibl yn eu derbyn – mae’r rhain yn cael eu hasesu ac mae tâl yn cael ei godi amdanynt ar wahân.
Dod o hyd i lety gwarchod yn eich ardal chi
Mae’ch cyngor lleol yn gallu’ch cynghori chi am lety gwarchod yn eich ardal chi; ond os gwyddoch chi ba eiddo/darparwr gofal gwarchod mae gennych chi ddiddordeb ynddo, fel arfer gallwch chi wneud cais yn uniongyrchol i’r gymdeithas tai.